Prosiect Porfa Cymru

Mae gan Gymru fantais aruthrol yn ei gallu i dyfu llawer iawn o laswellt o ansawdd da. O’i reoli’n gywir, mae glaswellt sy’n cael ei bori yn rhoi porthiant o ansawdd da i anifeiliaid, yn lleihau’r angen i ddefnyddio gwrtaith nitrogen, yn gallu cadw carbon yn y pridd ac mae’n cael ei gysylltu ag elw uwch cyson ar ffermydd.

Nod Prosiect Porfa Cymru yw darparu gwybodaeth a chyngor rheoli ar sail tueddiadau tyfu glaswellt gwahanol ardaloedd, a gofnodwyd yn ofalus gan y ffermwyr ymroddedig sy’n rhan o’r prosiect. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella eich dulliau rheoli pori OND ddim yn mesur glaswellt ar hyn o bryd, dyma’r prosiect i chi!

Bydd y wybodaeth yn eich helpu i wneud penderfyniadau amserol am reoli glaswelltir ar y fferm megis:

  • A ddylwn droi’r da byw allan?
  • A ddylwn gau’r caeau ar gyfer silwair?
  • A ddylwn ychwanegu porthiant clustogi?
  • A ddylwn chwalu gwrtaith yr wythnos hon?
  • A ddylwn ddiddyfnu fy wŷn? 

Dengys gwaith ymchwil bod ffermwyr sy’n rheoli glaswellt yn dda yn fwy proffidiol ac yn gallu gwrthsefyll sgil-effeithiau’r tywydd yn well.

Prosiect Porfa Cymru - Adroddiad diwedd y flwyddyn 2023

Prosiect Porfa Cymru - Adroddiad diwedd y flwyddyn 2022

 

MWY O GYFRADDAU TWF AR GYFER 2024!

Ceir amrywiol systemau, mathau o dir a lefelau profiad ymysg y ffermydd a’r ffermwyr a bydd pob un ohonynt yn mesur twf eu glaswellt bob 7 i 14 diwrnod rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd.

 

 

 

Eleni mae gennym:

Nifer y ffermwyr biff a defaid: 19

Nifer y ffermwyr llaeth: 20

Os gwelwch fferm yn yr un ardal â chi, cadwch olwg ar dwf eu glaswellt, mae’n debygol y bydd tueddiad tyfu tebyg yn digwydd ar eich fferm chi! Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau rheoli rhagweithiol ar eich fferm eich hun.