Diogelu’r cyflenwad bwyd
Diogelu cyflenwadau bwyd
Mae poblogaeth y byd sy’n tyfu drwy’r amser yn ein cyflwyno â mwy o heriau er mwyn sicrhau bod digon o gyflenwadau bwyd. Mae’n bryder byd-eang mawr.
Mae’r ffaith bod prisiau bwydydd sylfaenol wedi codi yn ddiweddar wedi tynnu sylw at y broblem hon. Mae gan Gymru fantais fawr: rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu mwy o amrywiaeth o fwydydd, a gallwn helpu pa mor ddibynnol yw'r DU ar fewnforio, oherwydd yn wahanol i rannau eraill o'r DU, caiff llawer o'r cynnyrch o Gymru ei ddosbarthu ledled y wlad a thu hwnt.
Bydd yn rhaid i’r broses o sicrhau cyflenwadau bwyd ar gyfer y boblogaeth fynd rhagddi yn wyneb patrymau newidiol y bwyd a fwyteir ac effaith newid hinsawdd. Yn amlwg, ni allwn ddelio â’r materion hyn ar ein pen ein hunain.
Rhaglen Diogelwch Bwyd y Byd
Mae Cymru yn bartner ac yn cyfrannu at Raglen Diogelwch Bwyd y Byd, rhaglen amlasiantaeth sy’n cydlynu gwaith ymchwil i ddiogelwch bwyd ar draws llywodraethau’r DU a Chynghorau Ymchwil y DU. Mae disgwyl i boblogaeth y byd gynyddu 50% erbyn 2050, gan bwysleisio’r angen i wella’r holl agweddau ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy gan ddefnyddio adnoddau’r tir.
Ymateb i’r heriau
Mae Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i’r heriau o ran diogelwch bwyd. Drwy ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020’, byddwn yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid ym maes diogelwch bwyd er mwyn cynnal y sylfaen cynhyrchu bwyd yng Nghymru, a thrwy hynny, amddiffyn defnyddwyr. Bydd hyn yn rhan o gylch gwaith Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.