Rheolau Ymgysylltu y Rhaglen Fewnwelediad ar gyfer Cwmnïau Unigol

Dylai cwmnïau sy’n derbyn data Llywodraeth Cymru (LlC) drwy’r Hwb Mewnwelediad neu’n uniongyrchol drwy arweinydd Rhaglen/Clwstwr arwyddo’r ddogfen isod.

Yn hanesyddol, nid yw cwmnïau wedi cael mynediad at fewnwelediad o ansawdd uchel.  Rhan o nod y Rhaglen yw helpu cwmnïau i wireddu gwerth mewnwelediad a’u hannog nhw i fuddsoddi yn eu data a mewnwelediad eu hunain yn y tymor hwy.

Caiff darparwyr data eu contractio i ddarparu data i Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Fewnwelediad ar y ddealltwriaeth y caiff ei rannu â chwmnïau Bwyd a Diod o Gymru sydd â’u prif swyddfeydd yng Nghymru yn unig, a'i ddefnyddio mewn cymorth busnes er eu budd.  Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar y data.  Y darparwyr data sy’n berchen ar yr hawlfraint ac mae unrhyw gamddefnydd yn peryglu’r hawl i gael mynediad pellach i ddata.

Brookdale Consulting sy'n gyfrifol am reoli'r contract hwn ar ran Llywodraeth Cymru.  Dosberthir y data i Gwmnïau o Gymru drwy Glystyrau, Y Rhaglen Fasnach a’r Rhaglen Fewnwelediad (Rhanddeiliaid LlC) yn ogystal â mewn digwyddiadau eraill sy’n canolbwyntio ar gwmnïau Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru.

Rheolau Rhannu’r Cwmni

  • Nid oes hawl gan gwmnïau i rannu sleidiau neu ddata ag unrhyw 3ydd parti; dim ond yn fewnol o fewn eu cwmni y mae’r hawl iddynt eu defnyddio.  Yr unig eithriad yw y gall cwmni rannu ambell i sleid/ neu rywfaint o ddata fel rhan o’u cyflwyniadau i gwsmeriaid.  Ni ellir anfon cyflwyniadau neu adroddiadau cyfan ymlaen i unrhyw 3ydd Parti.
  • Ni ellir rhannu data ar unrhyw fforwm cyhoeddus.
  • Bydd unrhyw gwmni a ddarganfyddir yn torri’r rheolau hyn yn gyfrifol am unrhyw gamau gweithredu dilynol a ddilynir gan y darparwr data.
  • Os ydych yn ansicr, gofynnwch am gyngor gan dîm Brookdale ar admin@brookdaleconsulting.co.uk.