Mae archwilio cyfleoedd i allforio i’r gwledydd Nordig ar y gorwel ar gyfer grŵp o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru fel rhan o Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru â Norwy a Denmarc rhwng 17eg a 22ain Medi.

Mae’r ymweliad yn dilyn yn dynn ar sodlau’r newyddion bod Cymru wedi tyfu ei hallforion bwyd a diod 24.5% rhwng 2021 a 2022, cynnydd mwy na chynnydd cyffredinol y DU o 21.6%, a thuedd y mae’r ymweliad hwn yn gobeithio’i weld yn parhau.

Yn cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Masnach ac yn cynrychioli sector diodydd ffyniannus Cymru y mae Glamorgan Brewing, Penderyn Distillery a Devil’s Bridge Rum, gydag Express Contract Drying yn chwifio’r faner dros gynhyrchwyr cynhwysion o ansawdd uchel y genedl.

Wrth sôn am eu hymweliad, dywedodd Giancarlo Bianchi, Cyfarwyddwr Masnachol Penderyn,

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Masnach hwn â Norwy, yn enwedig gan mai Wisgi Cymreig Brag Sengl yw’r Gwirod newydd cyntaf yn y DU i gyflawni’r statws Dynodiad Daearyddol (GI) ers lansio GI y DU. Roedd Penderyn Distillery yn un o bedair distyllfa Gymreig a oedd yn rhan o’r cais terfynol. Mae cydnabyddiaeth GI yn fathodyn anrhydedd go iawn ac rydyn ni mewn cwmni gwych gyda chynhyrchwyr eraill o Gymru sydd wedi cael y gydnabyddiaeth hon. Rydym yn allforio i lawer o wledydd ledled byd ac yn gwybod y gwerth y mae ein cwsmeriaid yn ei roi ar ansawdd a tharddiad ein cynnyrch ac edrychwn ymlaen at gyflwyno ein brand i farchnad Norwy. Mae’r gwledydd Nordig yn rhanbarth allweddol ar gyfer wisgi, felly mae’r cyfle i ymestyn ein hargaeledd yn y rhanbarth hwn yn un gwych.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Mae allforion bwyd a diod Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda’r canlyniadau gorau erioed yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddar. Mae hyn yn dyst i’r ymrwymiad a’r ysbryd arloesol sydd gan fusnesau ledled Cymru i sicrhau cynnyrch o ansawdd uchel.

Mae cynhyrchwyr yn elwa’n fawr o gymryd rhan yn yr Ymweliadau Datblygu Masnach hyn sy’n cael eu cynllunio’n ofalus er mwyn iddynt allu elwa’n llawn a chynnwys, er enghraifft, cyfarfodydd wedi’u targedu’n dda ar brynwyr.

Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi’r ymweliad masnach hwn â Norwy a Denmarc, sy’n cynnig cyfle i allforwyr newydd a phrofiadol sefydlu a meithrin perthynas waith dramor. Dymunaf ymweliad llwyddiannus iawn i’r grŵp.

Hefyd yn cymryd rhan yn yr ymweliad dwy ganolfan hwn mae Express Contract Drying, cynhyrchydd blaenllaw yn y DU a chyflenwr cynhwysion wedi’u sychu drwy chwistrellu yn cynnwys powdrau finegr, powdrau ffrwythau a sudd ffrwythau, powdrau braster micro wedi’u crynhoi, fitaminau wedi’u microgapsiwleiddio, powdrau o darddiad a enwir. Dywedodd Pat McDonagh, Cyfarwyddwr Masnachol ECD,

Er ein bod eisoes yn allforio i nifer o wledydd, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i archwilio ac ymestyn ein cyrhaeddiad i farchnadoedd newydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfarfodydd wyneb yn wyneb â chwsmeriaid a chyflenwyr, gan gwrdd â rhagolygon newydd, cynnal ymchwil i’r farchnad, ac ymchwilio i’n cystadleuwyr.

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Stats Cymru, mae Cymru wedi bod yn cryfhau ei pherthynas fasnachu â Norwy a Denmarc dros y blynyddoedd diwethaf. Cynyddodd allforion o bob sector i Norwy ychydig dros 30% rhwng 2021 a 2022, ac i Ddenmarc dros 55% yn ystod yr un cyfnod.

Bydd Glamorgan Brewing hefyd yn ymuno â’r ddirprwyaeth, gan hyrwyddo ei hamrywiaeth o gwrw crefft. Dywedodd Soumitro Saha o Glamorgan Brewing,

Rydyn ni’n gyffrous o fod yn ymuno â’r Ymweliad Datblygu Masnach hwn a chael y cyfle i gyflwyno ein cynnyrch i’r yfwyr cwrw deallus yn Norwy a Denmarc. Dyma ein hymweliad marchnad tramor cyntaf gyda Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan bwysig o adeiladu ein busnes allforio. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phrynwyr ac ymchwilio ymhellach i’r marchnadoedd er mwyn llywio ein strategaeth allforio yn y dyfodol.

Bydd yr Ymweliad Datblygu Masnach yn cynnwys derbyniad diodydd i brynwyr, gan roi cyfle gwych i arddangos ansawdd ac amrywiaeth y diodydd a gynhyrchir yng Nghymru. Mae gan yr holl gynhyrchwyr diodydd sy’n cymryd rhan yn yr ymweliad stori brand gref i’w rhannu â’r prynwyr. Mae’r ymweliad hefyd yn gyfle i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru cyn BlasCymru/TasteWales a gynhelir yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd ar 25-26 Hydref 2023.

Mae Devil’s Bridge Rum yn cyfuno cynhwysion Cymreig â thraddodiadau distyllu Caribïaidd. Bydd y sylfaenydd, Gregor Shaw, yn cymryd rhan yn yr ymweliad a dywedodd:

Rydyn ni’n credu y bydd ein cynnyrch unigryw, sy’n cyfleu chwedlau a llên gwerin un o safleoedd eiconig Cymru, yn taro tant gyda phrynwyr a defnyddwyr yn Norwy a Denmarc gyda’n traddodiadau cryf o fythau a chwedlau. Rydyn ni’n falch bod ein rỳm yn cynnwys cynnyrch fel Bara Brith a menyn Cymreig gan fod hyn yn ein galluogi i siarad am y diwydiant bwyd ehangach yng Nghymru fel rhan o’n stori. Gyda’r ymweliad hwn, ein nod yw sefydlu perthynas hirhoedlog â dosbarthwyr a phartneriaid manwerthu, yn ogystal â chael cipolwg gwerthfawr ar sut mae ein cynnyrch yn cyd-fynd â’r farchnad yn Sgandinafia. Ein nod yn y pen draw yw ehangu ein hôl troed tra’n anrhydeddu ein treftadaeth Gymreig a chyfrannu at werthfawrogiad byd-eang o rỳm o ansawdd.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes gydag allforio, ewch i https://businesswales.gov.wales/export/cy/

Share this page

Print this page