Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru wedi dychwelyd o Gulfood, Dubai yn ddiweddar (13 – 17 Chwefror 2022), yr arddangosfa fasnach ryngwladol gyntaf a fynychwyd gan yr Is-adran Fwyd mewn dwy flynedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Rhoddodd y sioe fasnach gyfle i gwmnïau arddangos eu cynnyrch i lu o brynwyr a dosbarthwyr wyneb yn wyneb unwaith eto, gan ddangos eu bod yn dal i fod ar agor ar gyfer busnes ac yn ceisio sicrhau cyfleoedd allforio newydd yn y rhanbarth.

Roedd y cwmnïau a gymerodd ran yn cynnwys: Dairy Partners, Rachel's Organic, Mario's Ice Cream, Calon Wen, Hilltop Honey, Distyllfa Old Coach House, Morning Foods, Tŷ Nant a Hybu Cig Cymru.

Gwnaed pob ymdrech i sicrhau diogelwch y ddirprwyaeth gyda'r mesurau canlynol yn cael eu rhoi ar waith:

  • Gweithgareddau bach y tu allan i'r sioe i leihau cysylltiadau posibl
  • Masgiau wyneb gorfodol
  • Sgriniau amddiffynnol ar gyfer pob stondin
  • Rhwystrau i atal ymwelwyr rhag cerdded ar y stondin heb wahoddiad

 

Croesawyd y mesurau hyn gan yr arddangoswyr ac rydyn ni’n hapus i adrodd na chafwyd unrhyw achosion o haint C-19 ymhlith y ddirprwyaeth!

Mae adborth gan y grŵp wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda rhai cwmnïau eisoes yn sicrhau busnes newydd o ganlyniad i’r sioe, gan roi tystiolaeth bod digwyddiadau masnach wyneb yn wyneb fel Gulfood yn parhau i fod yn weithgaredd masnach rhyngwladol allweddol i gysylltu â phrynwyr masnachol allweddol a hyrwyddo Bwyd a Diod o Gymru i’r Byd.

 

Share this page

Print this page