A ydych chi’n bwriadu datblygu a lansio cynhyrchion newydd neu gynhyrchion wedi'u hailfformiwleiddio sy'n bodloni gofynion defnyddwyr, sy'n hyfyw yn ariannol, sy'n bodloni safonau diogelwch bwyd, ac sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau gwybodaeth bwyd diweddaraf?

Os felly, bydd cyfres ZERO2FIVE o Weithdai Datblygu Cynnyrch Newydd yn eich tywys drwy'r dull Porth Llwyfan ar gyfer ddatblygu cynhyrchion newydd o’r cysyniad i’r lansiad.

Cynhelir y gweithdai rhyngweithiol hyn, a ariennir yn llawn, yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng Nghaerdydd.

 

1. Datblygu Cynhyrchion Newydd - Adeiladu Briff

Dydd Iau 11 Ebrill, 10yb – 1yp

Er mwyn datblygu a lansio cynhyrchion newydd llwyddiannus, mae angen ichi ddechrau gyda briff datblygu cynhyrchion newydd cynhwysfawr.

Mae'r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer cwmnïau sydd â syniad am gynnyrch y maent am ei ddatblygu ymhellach neu'r rhai sydd am greu syniadau ar gyfer cynhyrchion newydd.

Cofrestrwch nawr

 

2. Datblygu Cynnyrch Newydd - Proses y Porth Llwyfan

Dydd Mawrth 23 Ebrill, 9.30yb – 1.30yp

Mae'r broses o ddatblygu cynnyrch newydd a phresennol wedi'i seilio ar Broses y Llwyfan. Dysgwch sut i ddatblygu a gweithredu eich gât llwyfan eich hun i gefnogi datblygiad effeithiol cynhyrchion.

Cofrestrwch nawr

 

3. Datblygu Cynnyrch Newydd - Datblygu Cynnyrch Diogel

Dydd Iau 9 Mai, 9.30yb – 1.30yp

Mae diogelwch bwyd yn hanfodol i unrhyw gwmni gweithgynhyrchu bwyd a diod, yn enwedig wrth lansio cynhyrchion newydd neu wedi'u hailddatblygu.

Ymunwch â ni yn y gweithdy hwn i ddarganfod ystyriaethau diogelwch bwyd allweddol y dylid eu rhoi i'ch cynnyrch a'ch proses cyn lansio

Cofrestrwch nawr

 

4. Datblygu Cynnyrch Newydd – Gofynion Labelu Cyfreithiol

Dydd Mawrth 21 Mai, 10yb – 1yp

Unwaith y byddwch wedi datblygu cynnyrch diogel a chwblhau'r rysáit, bydd angen i chi feddwl am y wybodaeth a fydd yn cael ei hargraffu ar y pecyn a pha ddeddfwriaeth y mae'n rhaid cydymffurfio â hi.

Yn y gweithdy hwn byddwn yn llywio'r rhestr o ofynion labelu gorfodol gan ddefnyddio esboniadau ac arddangosiadau syml. Byddwn hefyd yn amlygu gwybodaeth wirfoddol arall y gallech fod am ei chynnwys a beth i'w ystyried os ydych am wneud honiadau am faeth neu iechyd.

Cofrestrwch nawr

 

Share this page

Print this page