Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i ni agor ein drysau i ddarpar newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant bwyd a diod yn Sioe Frenhinol Cymru ond erbyn hyn rydym yn ôl yn well nag erioed ac am ymuno â llawer o bartneriaid gan gynnwys cyflenwr mwyaf Cymru o gynnyrch Cymreig, sef Puffin Produce Sir Benfro.

Nod Parth Gyrfaoedd Bwyd a Diod 2022 yw arfogi’r hen a’r ifanc gyda’r modd a’r ffyrdd i benderfynu, cynllunio a chystadlu am gyfleoedd yn niwydiant bwyd a diod Cymru. Am bob swydd sydd ar gael dim ond un ymgeisydd sydd yn y sector hwn, felly mae angen i ni ddenu pobl yn ôl a dangos i'r genhedlaeth iau fyd hynod ddiddorol cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd

Mae cyfleoedd swyddi yn y diwydiant bwyd a diod yn amrywio’n fawr o ddatblygu cynnyrch newydd i reoli ansawdd, o logisteg i reolwyr warws, o farchnata a brandio i gyllid, nid felly yn ymwneud â bwyd yn unig.

Ymunwch â ni a’n partneriaid niferus yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni (18-21 Gorffennaf) yn ein Parth Gyrfaoedd Bwyd a Diod yn Adeilad Clwyd Morgannwg i ddarganfod mwy.

  • Dosbarthiadau meistr coginio tatws gyda'r arbenigwraig bwyd Nerys Howell
  • Sgyrsiau am yrfaoedd gan bobl ysbrydoledig sy'n gweithio yn y diwydiant
  • Parth chwarae i blant gyda wagenni fforch godi a reolir o bell
  • Profi tatws a gemau tatws
  • Prisio bwyd a gwirio ansawdd
  • Cipolwg ar farchnata a defnyddwyr
  • Cystadlaethau gyda'n masgot Sioe Frenhinol Tomi Taten, heriau a llawer mwy!

Bydd ein hysbysfwrdd swyddi byw hefyd yn helpu pobl i ddarganfod beth sydd ar gael a gweld sut y gallwn agor drysau i ddyfodol yn y sector bwyd a diod.

Os ydych yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru, dewch i’n gweld ni a’n partneriaid i ddarganfod mwy…

  • Sgiliau Bwyd Cymru
  • Gweithlu Bwyd Cymru
  • Arloesi Bwyd Cymru
  • Gyrfaoedd Blasus
  • Clwstwr Cynaliadwyedd
  • Clwstwr Diodydd
  • Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy

….a pheidiwch ag anghofio cadw llygad barcud am Tomi Taten ar ein stondin ac o amgylch y sioe.

Am fwy o wybodaeth ewch i gyrfaoeddbwyddiod.cymru

Share this page

Print this page