Bydd strategaeth sgiliau newydd yn cael ei lansio’n ddiweddarach yr wythnos yma wrth i aelodau blaenllaw o’r diwydiant bwyd a diod geisio hybu sgiliau a denu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr.

Wrth i werth y sector barhau i dyfu, mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi ymgynghori’n eang ar gyfer creu’r strategaeth sgiliau gyntaf dan arweiniad y diwydiant er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sydd ar y gorwel yn sgîl gweithlu sy’n heneiddio, anhawster denu a chadw talent, ynghyd â’r ansicrwydd o safbwynt cyflenwi gweithwyr yn y cyfnod wedi Brexit.

Mae gweithgynhyrchu bwyd a diod eisoes yn cyflogi dros 20,000 o bobl yng Nghymru ac mae cyflogau wedi codi 13% er 2012. Prif nod y cynllun sgiliau yw creu newid cadarnhaol yn y ffordd y mae pobl yn gweld y diwydiant a hyrwyddo’r llu o yrfaoedd cyffrous y gall gynnig.

Er mwyn tanlinellu ei bwysigrwydd mae nifer o gwmnïau blaenllaw, gan gynnwys Halen Môn, Bangor Mussels a Puffin Produce, wedi ymrwymo i adduned sgiliau Cymru, ac mae disgwyl i eraill eu dilyn yn y gynhadledd a thros yr wythnosau nesaf. Fel rhan o’r adduned, byddant yn ymrwymo i gyfres o gamau, gan gynnwys danfon llysgenhadon y cwmni i ysgolion, derbyn ymweliadau yn eu safleoedd gweithgynhyrchu a hyrwyddo cyfleoedd gyrfaol yn eu cymunedau lleol.

Elfen allweddol arall o’r cynllun yw mynd i’r afael â’r prinder sgiliau sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant. Gwneir hynny trwy ddarparu mwy o brentisiaethau trwy greu cyrsiau a gynlluniwyd gan y diwydiant ac a ariannwyd yn briodol.

Un o’r enghreifftiau cyntaf o hyn ar waith fydd lansio prentisiaeth lefel 3 newydd mewn peirianneg bwyd. Wrth ymateb i ymchwil yn amlygu’r bwlch sgiliau sy’n bod ar hyn o bryd, daeth busnesau a phartneriaethau sgiliau’r diwydiant at ei gilydd i gynllunio cwrs pwrpasol i ddiwallu’r anghenion presennol. Rhagwelir mai’r dull hwn fydd y model ar gyfer cydweithio i’r dyfodol wrth i’r diwydiant barhau i weithio’n agos â Llywodraeth Cymru i ddatblygu cyrsiau prentisiaeth sy’n gweddu i’w pwrpas ac sy’n tanio arloesedd a chynyddu cynhyrchiant

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Andy Richardson,

“Bu’n brofiad gwych gweithio’n agos â chymaint o bobl ar draws y sector i greu’r hyn sydd, yn y bôn, yn ymateb dan arweiniad y diwydiant i un o’r prif broblemau sy’n wynebu busnesau.

“Trwy wrando’n agos ar y sawl sy’n gweithio yn y diwydiant bob dydd, rydym erbyn hyn yn deall mwy am yr hyn sydd ei angen arnynt i dyfu. Fel bwrdd, rydym yn benderfynol o fwrw ati i weithredu’r cynllun a gweithio gyda budd-ddeiliaid ehangach ar godi proffil rhai o’r gyrfaoedd gwych sydd ar gael yn ein diwydiant llwyddiannus sy’n tyfu’n gyflym.”    

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

“Mae hon yn fenter gan y diwydiant a ddatblygwyd gyda chefnogaeth y llywodraeth ac mae’n enghraifft ddisglair arall o werth gweithio ar y cyd. Rwyf unwaith eto’n ddiolchgar i’r bwrdd sy’n rhoi o’u hamser ac egni yn frwdfrydig i danio twf yn y sector bwyd a diod.

“Roeddwn yn arbennig o falch o weld fod y cynllun yn cwmpasu meysydd allweddol fel cynyddu prentisiaethau a hybu sgiliau ac arloesedd. Mae’r cynigion hyn yn gwbl gydnaws â’n Cynllun Gweithredu Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r bwrdd i’w cyflawni.”

 

 

 

Share this page

Print this page