Dydd Iau nesaf (6 Ebrill) bydd Aldi yn cynnal digwyddiad bwyd a diod arbennig yn ei siop ym Mharc Tawe, Abertawe.

Mae’r archfarchnad yn cynnal y digwyddiad am yr ail flwyddyn yn olynol i arddangos casgliad o gynhyrchion gan gyflenwyr o Gymru mewn cydweithrediad â Rhaglen Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru.

Rhwng 10am a 4pm bydd siopwyr yn cael cyfle i flasu’r gwahanol gynhyrchion a chynnig adborth i Dîm Prynu Aldi, gyda detholiad o’r busnesau yna’n mynd ymlaen i weld eu cynhyrchion yn ymddangos yn siopau Aldi.

Mae’r busnesau fydd yn rhan o’r digwyddiad yn cynnwys siocled Wickedly Welsh, y cyflenwr bisgedi cartref moethus, Shepherd’s Biscuits, a’r busnes wyau teuluol, Ellis Eggs.

Bydd yna hefyd ddewis o ddiodydd i’w blasu yn cynnwys Au Vodka, San Francisco Bay Coffee a Dŵr Brecon Carreg.

Y llynedd, dewiswyd cynhyrchion chwech o’r cyflenwyr a gymerodd ran yn y digwyddiad i ymddangos ar silffoedd Aldi ar hyd a lled y wlad, yn cynnwys Lewis Pies, Tregores Waffles a Braces Scones.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: “Mae gennym ystod wych o gynhyrchion arloesol ac o safon yma yng Nghymru. Rwy’n falch bod Aldi yn ceisio cynyddu ei ddewis o fwyd a diod o Gymru a bod barn y cyhoedd yn cael ei chynnwys yn y broses ddethol.”

Ychwanegodd Julie Ashfield, Rheolwr Gyfarwyddwr Prynu yn Aldi: “Ar ôl llwyddiant digwyddiad y llynedd, rydym yn edrych ymlaen at arddangos hyd yn oed mwy o gynhyrchion gan gyflenwyr lleol yng Nghymru ac yn bwysicach na dim i glywed barn ein siopwyr.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyflenwyr o Gymru ac edrychwn ymlaen at ffurfio partneriaethau hirdymor gyda chyflenwyr yn dilyn y digwyddiad yma.”

Share this page

Print this page