Mae Hufenfa De Arfon wedi ennill dwy wobr am ei chaws Caerloyw Dwbl yng Ngwobrau Caws Rhithwir 2021, mewn cydweithrediad â Bwyd a Diod Cymru.

Enillodd cwmni cydweithredol ffermwyr gogledd Cymru y Caws Tiriogaethol Gorau a'r Caws Cymreig Gorau am ei gaws Caerloyw Dwbl, sy'n cael ei wneud i rysáit draddodiadol, sy’n gyfoethog, menynaidd a mwyn ei flas.

Dywedodd Ffion Davies, Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol Hufenfa De Arfon,

“Fel busnes rydym ni’n falch iawn ein bod wedi ennill dwy wobr am ein caws Caerloyw Dwbl yn y Gwobrau Caws Rhithwir. Rydym ni'n falch o'r caws o ansawdd gwych rydym ni'n ei gynhyrchu yn Hufenfa De Arfon, gan ddefnyddio dim ond y llaeth gorau o Gymru, a gynhyrchir gan ein 136 o ffermwyr Cymreig o bob rhan o ogledd a chanolbarth Cymru.

“Wrth i’r busnes ddychwelyd yn araf i’r ‘normal newydd’, mae’n wych cael rhywbeth i’w ddathlu.”

Wedi ei lleoli ar Benrhyn Llŷn, Hufenfa De Arfon yw cwmni cydweithredol llaeth hynaf a mwyaf Cymru. Dechreuodd weithredu gyntaf ym 1938 pan gafodd John Owen Roberts y weledigaeth o'r holl ffermwyr llaeth yn cydweithio i'w galluogi i farchnata eu llaeth eu hunain.

Heddiw, mae gan Hufenfa De Arfon 136 o ffermwyr Cymru o bob rhan o ogledd a chanolbarth Cymru sy’n cyflenwi llaeth i'w ddefnyddio i gynhyrchu ei gaws a'i fenyn llwyddiannus.

Lansiwyd y Gwobrau Caws Rhithwir yn 2020 yn ystod pandemig COVID-19 i hyrwyddo a dathlu diwydiant caws gwych Prydain mewn cyfnod o angen mawr.

Bwyd a Diod Cymru oedd prif noddwr Gwobrau Caws Rhithwir eleni.

Yn dilyn y gwobrau, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a Threfnydd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths:

“Hoffwn longyfarch Hufenfa De Arfon ar ei llwyddiant.

“Mae gennym ni draddodiad balch o wneud caws yng Nghymru ac mae'n rhan fawr o'n diwydiant bwyd a diod ffyniannus. O grefftwyr bychain i gynhyrchwyr mwy, mae gennym ni restr drawiadol o gawsiau sy’n ennill gwobrau ac rwy'n sicr y bydd hyn yn parhau i dyfu dros y blynyddoedd i ddod.

“Rydw i hefyd wrth fy modd mai Bwyd a Diod Cymru oedd prif bartner Gwobrau Caws Rhithwir 2021, sy'n hyrwyddo ac yn dathlu rhagoriaeth yn y diwydiant.”

I gael rhestr lawn o enillwyr y Gwobrau Caws Rhithwir ewch i: https://www.virtualcheeseawards.com/

I gael mwy o wybodaeth am Hufenfa De Arfon ewch i https://sccwales.co.uk/cy/  

 

Share this page

Print this page