Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o brif ddigwyddiadau diwydiant bwyd y byd yn Tokyo yr wythnos nesaf (7-10 Mawrth 2023). Mae Foodex Japan yn un o arddangosfeydd bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Asia, ac mae'n cynnig cyfleoedd i ehangu busnesau ac yn cynnig atebion i'r diwydiant.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd chwe chwmni bwyd a diod o Gymru yn mynychu Foodex o dan faner Cymru, pob un eisiau archwilio marchnadoedd newydd, cadw mewn cysylltiad â thueddiadau ac arloesi a datblygu cysylltiadau â phrynwyr tramor.
Disgwylir i tua 1,400 o arddangoswyr o 44 o wledydd a rhanbarthau o bob rhan o’r byd fynychu’r digwyddiad, a ddylai roi mynediad gwerthfawr i’r cwmnïau Cymreig sy’n bresennol at ddosbarthwyr, mewnforwyr, gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr.
Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:
“Mae Foodex Japan yn rhoi cyfle gwych i’r chwe chwmni o Gymru sy’n mynychu arddangos eu cynnyrch o safon uchel.
“Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein busnesau bwyd a diod i sicrhau marchnadoedd allforio newydd, meithrin perthnasoedd gwaith a chodi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
“Hoffwn ddymuno digwyddiad llwyddiannus iawn i bob un o’r cwmnïau Cymreig sy’n teithio i Tokyo.”
Ymhlith y cynhyrchwyr fydd yn bresennol mae Daffodil Foods, Hilltop, Tan y Castell, Calon Wen, The Clarendon Food Company T/A Welsh Lady Preserves ac Arloesi Bwyd Cymru.
Un o’r gwneuthurwr o Gymru sydd wedi profi llwyddiant mewn digwyddiad masnach Foodex yn y gorffennol ac sy’n gobeithio adeiladu ar hyn ymhellach yw’r becws o Sir Benfro, Tan y Castell.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Busnes ac Allforio, Ryan Miles:
"Rwy'n hapus i gadarnhau ein bod wedi penderfynu mynychu Foodex yn Tokyo am yr eildro. Mae'n gyfle cyffrous i ni adeiladu ar y llwyddiant a gawson yn ystod y digwyddiad blaenorol a gwella ein presenoldeb yn Japan. Bydd ein tîm, o dan arweiniad Paul Mear, y Sylfaenydd, a finnau yn bresennol i arddangos ein pice ar y maen arobryn a Bara Byr Pob Menyn Cymreig.
“Rydyn ni wedi bod yn allforio ein cynnyrch i Japan ers cwpl o flynyddoedd bellach, ac rydyn ni’n ei gweld fel un o’n marchnadoedd rhyngwladol mwyaf hanfodol. Mae ein presenoldeb yn Foodex yn dyst amlwg i'n hymrwymiad i ehangu ein brand yn Japan a manteisio ar y cyfleoedd am dwf sy'n bodoli yn y farchnad hon. Rydyn ni hefyd yn allforio i Ogledd America ac Ewrop, ac wrthi'n archwilio cyfleoedd newydd yn Ne Corea a Tsieina.
“Rydyn ni’n hyderus y gallwn adeiladu ar ein llwyddiannau yn y gorffennol a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer twf yn Japan a thu hwnt. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at gwrdd â phartneriaid presennol a darpar bartneriaid a’u cyflwyno i’n detholiad hyfryd o gacennau cri a bisgedi.”
Cwmni arall sy’n arddangos yw Daffodil Foods Ltd o ogledd-orllewin Cymru sy’n arbenigo mewn cynnyrch llaeth wedi’i frandio. Maen nhw ar hyn o bryd yn allforio eu Hufen Tolch Cymreig i Japan a Hong Kong ac yn gobeithio datblygu eu presenoldeb ymhellach fel y dywed y sylfaenydd a’r cyfarwyddwr Lynne Rowlands,
“Rwy’n edrych ymlaen at fynd i Japan a chael presenoldeb yn Foodex. Dyma fydd fy nhro cyntaf yma. Rydyn ni wedi bod yn allforio i Japan am y flwyddyn ddiwethaf ac yn llawn cyffro am y cyfle i gwrdd â mwy o gwsmeriaid.
“Mae gan ddefnyddwyr Japaneaidd ddiddordeb arbennig yn ein te prynhawn Prydeinig ac rydyn ni’n allforio ein Hufen Tolch Cymreig i archfarchnadoedd ledled y wlad.
“Rydyn ni hefyd yn defnyddio Foodex i gyflwyno ein cynnyrch newydd, ein Compote Mafon, sy’n ategu’r hufen tolch cyfoethog, llyfn, a gobeithio’n fawr y bydd hyn yn ennyn rhywfaint o ddiddordeb.”
Bydd y cwmni mêl a surop masarn o’r Drenewydd, Hilltop, yn mynychu ac yn defnyddio Foodex fel llwyfan i ddatblygu presenoldeb eu brand, a’u perthnasoedd, ar gyfer cyfleoedd allforio yn y dyfodol fel y dywed y rheolwr gyfarwyddwr, Scott Davies:
“Rydyn ni wedi symud i safle cynhyrchu newydd o’r radd flaenaf lle rydyn ni ar hyn o bryd yn pecynnu 8,000 tunnell y flwyddyn, gyda’r posibilrwydd o gynyddu i 30,000 tunnell y flwyddyn. Rydyn ni’n cyflenwi i fanwerthwyr blaenllaw’r DU fel Tesco, Aldi, Morrisons, Sainsbury ac Ocado ond yn gobeithio defnyddio Foodex fel agoriad i’r farchnad allforio.
“Mae’n gyfle gwych i ni fynychu Foodex Japan ac i arddangos ein detholiad o gynnyrch brand Hilltop a label eu hunain i brynwyr o bob rhan o Asia.”
Bydd arddangosfa o frandiau bwyd a diod Cymreig eraill yn cael ei cynnal fel rhan o arddangosfa Bwyd a Diod Cymru hefyd.
Bydd cwmnïau bwyd a diod o Gymru ar stondin Cymru Wales yn Neuadd 1, Stondin 1B700-C yn Foodex Japan rhwng 7 a 10 Mawrth 2023.