Bydd bwyd môr o Gymru yn cael ei arddangos yn Sbaen yn ddiweddarach y mis hwn yn nigwyddiad masnach mwyaf y byd ar gyfer y sector – Seafood Expo Global 2022.

Yn cynnwys mwy na 2,000 o gwmnïau o 89 o wledydd, bydd Seafood Expo Global yn cael ei gynnal yn Barcelona rhwng Ebrill 26 a 28.

Yn cael ei gydnabod fel ‘y lle’ i fod ar gyfer y diwydiant bwyd môr, mae’r digwyddiad yn denu cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y sector bwyd môr o bob cornel o’r byd sy’n chwilio am bopeth o fwyd môr i offer prosesu.

Pan gynhaliwyd y tro diwethaf (yn 2019), denodd Seafood Expo Global fwy na 29,000 o brynwyr gyda chynrychiolwyr o 155 o wledydd. Yn ôl arddangoswyr y flwyddyn honno, dywedodd 94% eu bod wedi cyflawni eu hamcanion arddangos, ac roedd bron pob un (99%) yn bwriadu arddangos eto yn y digwyddiad.

Bydd gan fwyd môr o Gymru bresenoldeb penodol yn y digwyddiad (stondin 4D201), a gynhelir yn y Fira Barcelona Gran Via.

Bydd ymwelwyr â’r stondin hefyd yn gallu clywed mwy am waith Clwstwr Bwyd Môr Cymru – prosiect dan arweiniad Cywain sy’n annog cydweithio ymhlith cwmnïau ac unigolion yn y diwydiant bwyd môr.

Bydd cyfle i flasu bwyd môr Cymreig bendigedig hefyd, wrth i’r cogydd Harri Alun o’r gwesty enwog, Carden Park, goginio samplau i’w harchebu trwy gydol y digwyddiad.

Mae Barcelona yn cael ei hystyried fel un o brif ganolfannau bwyd môr Ewropeaidd ac yn gyrchfan ar gyfer digwyddiadau masnach fel Seafood Expo Global.

Mae lleoliad yr arddangosfa 15 munud yn unig o ganol y ddinas; gyda dros 200,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr, mae'n un o'r lleoliadau arddangos mwyaf yn Ewrop.

Bydd y cyfanwerthwyr o Ogledd Cymru, Ocean Bay Seafoods, a The Lobster Pot yn Barcelona.

Dywedodd Richard Williams o Ocean Bay Seafoods, “Mae Ocean Bay Seafoods yn allforio cynnyrch i Ewrop yn bennaf; gyda'n cwsmeriaid mwyaf yn Sbaen, Ffrainc, Denmarc a'r Eidal. Mae’n hanfodol ein bod yn mynychu’r sioeau hyn i ehangu ein sylfaen cwsmeriaid a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant bwyd môr.

“Bydd yn dda cwrdd â chwsmeriaid presennol, ac wrth gwrs, rydyn ni’n gobeithio denu cwsmeriaid newydd. Dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gynnal yn Barcelona, ​​​​mae arddangosfeydd Seafood Expo Global blaenorol wedi cael eu cynnal ym Mrwsel, felly mae’n deimlad cyffrous cael arddangos mewn lleoliad newydd.”

“Mae cael presenoldeb penodol yn y digwyddiad hwn hefyd yn bwysig iawn i Gymru gyfan, a’n bod yn cael y cyfle i arddangos bwyd môr Cymreig o safon i’r byd.”

Dywedodd Tristan Wood o The Lobster Pot, “Mae’n ddigwyddiad enfawr. Mae'n fan cyfarfod i bawb sy'n ymwneud â bwyd môr o bob rhan o'r byd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n delwedd, gan gyflwyno ein henw i’r byd.

“Mae llawer o’n cwsmeriaid presennol yn mynychu, felly mae’n dda eu gweld wyneb yn wyneb. Ac mae hefyd yn rhoi cyfle i ni gwrdd â darpar gwsmeriaid newydd. Mae eleni yn bwysicach (ar ôl covid) nag erioed wrth i ni geisio ail-sefydlu perthnasau i ddiogelu gwerthiannau ac yn eu tro, swyddi.

“Ond nid yw’n ymwneud â chwsmeriaid yn unig, mae hefyd yn ymwneud â chwrdd â chyflenwyr. Daw llawer o’r dalfeydd o ddyfroedd Cymru lle mae gennym gadwyn gyflenwi eithriadol o ffyddlon. Fodd bynnag, mewn busnes tymhorol lle mae cwsmeriaid yn disgwyl cyflenwad trwy gydol y flwyddyn, rydym hefyd yn chwilio am bysgotwyr a chyflenwyr newydd o bob rhan o’r DU.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:

“Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i'n busnesau bwyd môr gwych yng Nghymru arddangos yr hyn y maent yn ei wneud orau.

Mae marchnad bwyd môr y byd yn un heriol a dyna pam ei bod yn bwysig i gwmnïau yn y sector fod yn rhan o ddigwyddiadau masnach rhyngwladol fel Seafood Expo Global.

Mae gan fwyd môr Cymru enw da eisoes am ansawdd a rhagoriaeth, a bydd cael presenoldeb yn Barcelona yn dod â’r bwyd i sylw cynulleidfa ehangach fyth, a darpar gwsmeriaid.”

Share this page

Print this page