Mae ein bwytai gorau yng Nghymru yn dathlu llwyddiant, gyda rhai yn ennill gwobrau newydd tra bod eraill yn cadw eu gwobrau presennol gan ganllaw bwytai mwyaf mawreddog y DU ac Iwerddon - y Michelin Guide Great Britain and Ireland 2022.

Cafodd cyfanswm o saith bwyty yng Nghymru wobrau. Eisoes yn fwyty un seren Michelin, mae bwyty Gareth Ward, Ynyshir ym Machynlleth wedi’i ddyrchafu i ddwy seren Michelin, y ddwy seren gyntaf erioed i’w dyfarnu yng Nghymru. Mae’r gan y bwyty eisoes 5 rhoséd AA, safle uchaf Cymru yn y Harden’s Guide, a theitl y bwyty gorau yng Nghymru yng Ngwobrau Bwytai Cenedlaethol 2021.

Dywedodd y cogydd Gareth Ward, “Mae’n llwyddiant enfawr i’r tîm cyfan ac rydym ni wedi ein syfrdanu’n llwyr ac yn falch o fod wedi ennill 2 seren. Mae hefyd yn bwysig iawn i Gymru ac yn sicr yn dechrau cadarnhau'r sîn fwyd fel un sydd cystal â'r gorau yn y byd. 3 seren amdani nesaf!”

Ymhlith y 19 bwyty sydd newydd dderbyn un seren Michelin yn y DU, dyfarnwyd un i fwyty Home James Sommerin ym Mhenarth, tra dyfarnwyd y llall i SY23 yn Aberystwyth, sydd hefyd wedi derbyn Gwobr Arbennig ar gyfer Agoriad y Flwyddyn.

Yn dynn wrth sodlau ei lwyddiant yn cyrraedd rownd derfynol Great British Menu BBC2, dywedodd rhan-berchennog a chogydd SY23 Nathan Davies: “Mae derbyn seren Michelin yn freuddwyd wedi’i gwireddu, mae’n wobr o safon sy’n cael ei chydnabod yn fyd-eang. Rydw i wedi gweithio mewn ceginau â sêr Michelin a bûm yn Brif Gogydd Ynyshir am rai blynyddoedd, bwyty lleol gwych sydd newydd dderbyn ei ail seren ar yr un diwrnod!

“Felly rydw i wedi bod yn yr amgylchedd hwn ers nifer o flynyddoedd, ond does dim byd yn eich paratoi i dderbyn eich seren eich hun ar gyfer bwyty rydych chi wedi'i ddylunio a'i adeiladu o'r dechrau’n deg. Mae gen i dîm rhagorol ac mae hon yn wobr iddyn nhw'n gymaint ag ydyw i mi. Mae agor bwyty fisoedd cyn i'r pandemig ddechrau a gorfod cau am sawl mis ar fwy nag un achlysur wedi bod yn anodd iawn, ond mae goroesi hyd yma a ffynnu ac ennill un o'r gwobrau uchaf eu parch yn y diwydiant wedi bod yn wych. Roedd ennill gwobr Michelin am Agoriad y Flwyddyn i Brydain ac Iwerddon yn wirioneddol anhygoel hefyd.

“Mae ein bwyd yma ym mwyty SY23 yn hyrwyddo’r gorau o’r cynnyrch lleol sydd ar gael i ni; o gig oen a chig eidion lleol o fryn cyfagos i bysgod a physgod cregyn sydd wedi’u dal dafliad carreg i ffwrdd yn y marina lleol. Mae cynhwysion sydd wedi'u cadw, eu sychu, eu heplesu a'u piclo yn ein galluogi i ddefnyddio cynnyrch lleol anhygoel trwy gydol y flwyddyn. Rydym ni’n ddiolchgar bod gennym ni gynhyrchwyr bwyd mor anhygoel ar garreg ein drws a’n bod hefyd wedi cael cefnogaeth wych gan ein cymuned leol - rydym ni’n ddiolchgar iawn am hynny."

Mae Chapters yn y Gelli Gandryll newydd dderbyn Seren Werdd Michelin am ragoriaeth mewn gastronomeg gynaliadwy, tra bod Palé Hall yn Llandderfel wedi cadw ei Seren Werdd Michelin ers y llynedd.

Agorwyd bwyty Chapters ym mis Gorffennaf 2019, a’i nod yw cefnogi cynhyrchwyr ar raddfa fach a busnesau annibynnol lleol eraill. Meddai’r cogydd Mark McHugo: “Rydym ni wrth ein bodd i dderbyn Seren Werdd, mae’n llwyddiant gwych a gan mai ni yw’r unig fwyty newydd o Gymru sy’n ymddangos yn y canllaw, rydym ni’n arbennig o falch – diolch Michelin! Mae'n golygu cymaint i ni. Mae cael ein cydnabod am yr hyn rydym ni’n gweithio mor galed i'w gyflawni ac wrth ein bodd yn ei wneud yn rhyfeddol.

“Creu bwyty gyda chynaliadwyedd wrth ei wraidd yw sail ein holl benderfyniadau. Rydym ni’n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn gwybod, pan fyddan nhw’n mwynhau pryd o fwyd yma, eu bod hefyd yn cefnogi’r economi leol gyda chynnyrch lleol yn ganolog i’n bwydlenni. Rydym ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth a gawn gan ein staff, gwesteion, teulu, ffrindiau a chyflenwyr.”

Y bwytai sy'n dathlu eu llwyddiant parhaus o'r llynedd, gan gadw un seren Michelin, yw'r Beach House, Oxwich; Sosban & The Old Butchers, Porthaethwy; The Whitebrook, Gwenffrwd a'r Walnut Tree, Llanddewi Ysgyryd.

Wrth sôn am lwyddiannau Cymru yn ôl safonau Michelin sy’n cael eu cydnabod yn fyd-eang, dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Llongyfarchiadau mawr i bob un o’n bwytai â sêr Michelin – y rhai sy’n derbyn gwobrau newydd a’r rhai sydd wedi cynnal eu safon ragorol i gadw eu sêr.

“Mae’r sylw i fanylion y mae ein cogyddion llwyddiannus yn ei roi i greu eu prydau anhygoel yn talu teyrnged i’r brwdfrydedd a’r ymroddiad mae ein cynhyrchwyr yn ei roi i gynhyrchu ein bwyd a’n diod unigryw.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pob agwedd o’n cadwyn gyflenwi bwyd a diod, a gyda’n cynhwysion o’r radd flaenaf yn ysbrydoli ac yn ymddangos ar fyrddau’r bwytai gorau, mae’n sicrhau bod Cymru’n parhau i fod ag enw da byd-eang am ragoriaeth.”

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Vaughan Gething: “Mae hwn yn llwyddiant ysgubol ac yn hwb gwirioneddol i’n sector lletygarwch, ar ôl dwy flynedd anodd a heriol. Mae’n destament i dalent a gwytnwch y sector yng Nghymru ac mae’n bleser mawr gen i longyfarch yr holl fusnesau ar yr anrhydeddau hyn. Maen nhw’n rhoi lletygarwch Cymru ar y map, gan ddod yn sefydliadau cyrchfan sy’n rhoi hwb i economïau lleol. Dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.”

Gellir gweld canlyniadau llawn Canllaw Michelin Prydain ac Iwerddon 2022 yma.

 

Share this page

Print this page