Pan ymwelodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, â Mona Island Dairy ar Ynys Môn, roedd wrth ei bodd fod cynnydd yn cael ei wneud cyn i’r ffatri agor yn swyddogol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Gyda recriwtio ar gyfer 15 o staff allweddol ar y gweill ac uwch reolwyr eisoes wedi’u penodi, mae'r datblygiad 25,000 troedfedd sgwâr bron â chael ei gwblhau a bydd yn gallu cynhyrchu 7,000 tunnell o gawsiau Cymreig a chyfandirol bob blwyddyn.

Canmolodd y Gweinidog y Rheolwr Gyfarwyddwr Ronald Akkerman a'r tîm am eu hymrwymiad i adeiladu'r gwaith caws mwyaf arloesol yn Ewrop yma yng Nghymru, gyda chymorth grant o £3m gan Lywodraeth Cymru.

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn wych ymweld â Mona Dairy, mae potensial gwirioneddol iddi hybu ein diwydiant llaeth. 

"Fel y ffatri gaws allyriadau di-garbon gyntaf yn Ewrop, mae'n ddatblygiad blaengar gyda diwydiant bwyd a diod Cymru yn arwain y ffordd unwaith yn rhagor. 

"Rwy'n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r datblygiad hwn ac mae pawb yn edrych ymlaen at ei gweld yn agor y Gwanwyn hwn."

Wedi’i leoli ym Mharc Diwydiannol Mona, bydd y llaethdy sero-net yn cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy ac yn codi safonau drwy weithredu dulliau traddodiadol a blaengar i weithgynhyrchu Edam, Gouda, Cheddar, ac amrywiaeth o gawsiau artisan gan ddefnyddio llaeth o ffermydd lleol.

Ymunwyd â Ms Griffiths ar daith o amgylch y ffatri gan Mr Akkerman, y Cadeirydd David Wynne-Finch, a Dr Graham Jackson.

Disgwylir i'r gwaith cynhyrchu ddechrau ym mis Mehefin, a bydd llaeth yn cael ei ffynonellu o dros 40 o ffermydd llaeth Cymreig o fewn y flwyddyn gyntaf o agor.

"Roedd yn bleser cael y Gweinidog gyda ni heddiw a chael y cyfle i arddangos y cyfleusterau anhygoel hyn," meddai Mr Akkerman.

"Rydyn ni ar y trywydd iawn i agor yn nes ymlaen yn y Gwanwyn, ac ar hyn o bryd rydyn ni’n hysbysebu i lenwi 15 o swyddi gweithredol yn yr wythnosau i ddod, gydag wyth arall yr haf hwn.

"Erbyn 2023 bydd gennyn ni weithlu o 100 neu fwy o bobl yn cyflwyno dulliau newydd ac arloesol nas gwelwyd erioed o'r blaen wrth brosesu caws."

Ychwanegodd: "Rydyn ni eisoes yn derbyn adborth cadarnhaol a diddordeb mawr ynglŷn ag agor Mona Island Dairy gan ddarpar gwsmeriaid, ymgeiswyr am swyddi a'r sector bwyd a diod, yma yn y DU ac yn rhyngwladol.

"Mae'r sylfeini wedi'u gosod a’r unig beth sydd ar ôl bellach ydi rhoi’r cyffyrddiadau olaf a sicrhau bod gennyn ni’r bobl iawn yn eu lle, felly mae popeth yn barod i'w lansio.

"Allwn ni ddim aros i ddechrau arni a diolch i bawb am eu cefnogaeth, yn enwedig y gymuned wledig yma ar Ynys Môn."

Am restr lawn o swyddi gwag a rhagor o wybodaeth am Mona Island Dairy, ewch i’r wefan: www.monadairy.com.

Share this page

Print this page