Mae Cig Oen Morfa Heli Gŵyr wedi ymuno â bwydydd fel Champagne, Parma Ham a Melton Mowbray Pork Pies yn dilyn ennill statws enw bwyd gwarchodedig gan y Comisiwn Ewropeaidd.

O 27 Gorffennaf ymlaen, bydd enw Cig Oen Morfa Heli Gŵyr yn cael ei warchod ymhellach gan statws Enw Tarddiad Gwarchodedig Ewrop (PDO), sy'n un o dri dynodiad arbennig Enw Bwyd Gwarchodedig Ewrop (PFN).

Ar 11 Awst 2021, Cig Oen Morfa Heli Gŵyr oedd y cynnyrch newydd cyntaf i dderbyn statws Dynodiad Daearyddol y DU o fewn cynllun GI newydd y DU, a sefydlwyd ar ôl i'r DU adael yr UE. Yna penderfynwyd y byddent yn ceisio am warchodaeth Ewropeaidd, i gynorthwyo gwerthiant a chydnabyddiaeth ryngwladol ymhellach. Dyma'r cynnyrch Dynodiad Daearyddol newydd cyntaf yn y DU i dderbyn gwarchodaeth Ewropeaidd.

Dim ond Cig Oen Morfa Heli Gŵyr y gellir ei werthu gyda logo PFN Ewropeaidd a UKGI, sy'n gwarantu y daw'r cynnyrch o ŵyn a anwyd ac a fagwyd ar arfordir Gogledd Gŵyr yng Nghymru. Gall cynhyrchwyr Cig Oen ddangos bod nodweddion eu cig yn cael eu dylanwadu gan eu hardal gynhyrchu unigryw.

O dan gynllun enw bwyd gwarchodedig yr UE, mae rhai cynhyrchion bwyd a diod yn derbyn gwarchodaeth gyfreithiol ledled Ewrop rhag dynwarediad a chamddefnydd.  Gwnaed y cais am statws PDO i'r Comisiwn Ewropeaidd gan DEFRA ar ran Cig Oen Morfa Heli Gŵyr. Mae cyflawni statws PDO Ewropeaidd yn weithdrefn helaeth a chymhleth, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cynorthwyo Cig Oen Morfa Heli Gŵyr drwy'r broses. 

Dan a Will Pritchard sy'n rhedeg fferm deuluol Cig Oen Morfa Heli Gŵyr  ar Benrhyn Gŵyr. Wrth siarad am eu cyflawniad gwych, dywedodd Dan: “Mae pawb yn Cig Oen Morfa Heli Gŵyr yn falch iawn ein bod wedi derbyn statws GI yr UE yn ddiweddar.  Mae'n dangos bod ein cynnyrch o wir darddiad ac o safon uchel.

“Rydym yn hynod falch o'r hyn rydym yn ei gynhyrchu ac mae'n wych ei fod yn cael ei gydnabod a'i ddathlu .”

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Hoffwn longyfarch Cig Oen Morfa Heli Gŵyr am y cyflawniad aruthrol hwn.  Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth a bri rhyngwladol pellach i'r cynnyrch, ac hynny'n haeddianol iawn.  Bydd cwsmeriaid yn gwybod eu bod yn prynu cynnyrch Cymreig rhagorol a hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r llwyddiant hwn. 

“Mae gan Gymru rai o'r cynnyrch gorau yn y byd, ac mae'n wych gweld Cig Oen Morfa Heli Gŵyr yn cael ei restru ochr yn ochr â Champagne a Parma Ham ”.

Share this page

Print this page