Mae trosiant y Sector Bwyd a Diod wedi cynyddu yn sylweddol i £6.9bn, sy’n golygu bod y diwydiant bron iawn â chyrraedd y targedau uchelgeisiol a osodwyd iddynt.
Yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, bod y diwydiant yn ffynnu, ac ar fin cyrraedd y targed o £7bn o drosiant erbyn 2020.
Bu Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw i’r amlwg yn sgîl Brexit, ac yn sôn am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r sector i oresgyn yr heriau hyn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Mae’r Sector Bwyd a Diod yma yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. Gyda throsiant gwerthiant y diwydiant yn cynyddu o £6.1bn i £6.9bn, rydym bron â chyrraedd y targed sydd yn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Bwyd a Diod, sef cyrraedd 7bn, yn gynnar.
“Mae hyn yn gynnydd aruthrol, ac rydym wedi gweld cryn dipyn o lwyddiannau ers cyhoeddi’r cynllun yn 2014. Mae’n adlewyrchu gwaith caled a chynnydd sylweddol ar ran busnesau mawr a bach ledled Cymru.
“Nid yw diddordeb pobl yn ein bwydydd a’n diodydd hyfryd ni yma yng Nghymru erioed wedi bod yn uwch. Mae ansawdd, gwasanaeth a gwreiddioldeb yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig yn cael cydnabyddiaeth Fyd-eang.
Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn gaffaeliad i ni. Mae’n cyfrannu mwy a mwy at ein heconomi ni, yn cyfrannu at greu swyddi a gyrfaoedd lle y mae sgiliau yn bwysig. Mae’n ychwanegu gwerth at ein cynnyrch amaethyddol ac mae’n dod â bri i’n cenedl. Mae enw da Cymru a’i phroffil yn lledaenu ar draws y byd. Mae gennym rywbeth gwerth chweil yma
“Ni allwn, fodd bynnag, anwybyddu’r heriau a’r ansicrwydd a ddaw yn sgîl Brexit. Er mwyn cynnal y momentwm hwn, mae’n rhaid i ni groesawu newid ac unrhyw gyfleoedd a fydd yn codi.
“Drwy barhau i ganolbwyntio ar gynyddu yr hyn sy’n gweithio, a bod yn gwbl barod am Brexit, fe fyddwn yn hollol barod i farchnata, gyda’r diwydiant mewn lle delfrydol i berfformio hyd orau ei allu. Rwy’n hyderus y byddwn yn parhau i lwyddo ac yn gwneud y gorau o Brexit ac yn cyflawni dros Gymru.”