Mae Calon Wen, prif gwmni llaeth organig Cymru, newydd ennill contract cyflenwi sylweddol yn Qatar yn dilyn taith fasnach Llywodraeth Cymru. Trwy bartneru gydag un o brif gwmnïau dosbarthu Qatar, bydd Calon Wen ar gael yn nifer o fanwerthwyr blaenllaw y wlad.
Mae Calon Wen, grŵp o 21 fferm deuluol organig ledled Cymru sy’n cynhyrchu caws, menyn, llaeth ac iogwrt rhew a ffres arobryn, wedi derbyn eu harcheb gyntaf am y gyfres gyfan.
Wrth siarad am yr archeb ddiweddar, dywedodd Stuart McNally, Rheolwr Gwerthiannau a Datblygu Busnes Calon Wen,
“Mae’r archeb gychwynnol hon yn un sylweddol i Calon Wen a gobeithiwn fasnachu ar 25% o allforion erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Roedd hwn yn benderfyniad bwriadol gan y cwmni i arallgyfeirio i farchnadoedd newydd y tu allan i wledydd Prydain er mwyn sicrhau cyflenwadau sefydlog i’n ffermwyr.
“Rydym yn rhagweld y daw allforion yn 30-40% o gyfanswm ein refeniw o fewn tair blynedd, fydd yn ein helpu i sicrhau bod gan ffermydd teuluol organig yng Nghymru fwy o werth economaidd a’u bod yn fwy abl i wynebu unrhyw amrywiadau yn y farchnad gartref.”
Ychwanegodd Dai Miles, Rheolwr Gyfarwyddwr Calon Wen a ffermwr,
“Cafodd yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn ei hwyluso gan ein rhan yn rhaglen allforio bwyd a diod Llywodraeth Cymru. Trwy fynd i gyfarfodydd cefndir, seminarau ac arddangosfeydd, cawsom yr hyder i fuddsoddi i ddatblygu gwerthiannau allforio, ac wrth i’r sector organig barhau i dyfu yn y marchnadoedd datblygol hyn, teimlwn fod cryn gyfle inni dyfu ymhellach.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rwyf yn falch iawn fod Calon Wen wedi llwyddo ennill y contract i gael eu cyfres gyfan o gynnyrch ar gael yn Qatar. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd datblygu marchnadoedd allforio presennol a newydd ar gyfer bwyd a diod o Gymru.
“Mae teithiau masnach, fel yr un a gafodd Calon Wen, yn hollbwysig ar gyfer gwerthu cynnyrch o Gymru ar draws y byd a helpu busnesau i ddysgu o ac adeiladu perthnasoedd gydag eraill yn eu priod ddiwydiant.
“Yn y dyddiau hyn wrth inni nesu at Brexit, mae’n bwysicach nac erioed ein bod yn eiriol dros gynnyrch o Gymru ac yn cefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru ymha ffordd bynnag y gallwn. Rydym wedi ymrwymo i raglenni cefnogol, megis ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod a’n rhaglenni Clystyrau Busnes, fydd yn helpu rhoi hwb i’r diwydiant yn y cyfnod ansicr hwn.”
Sefydlodd Calon Wen ei hun yn 2000 pan oedd pedwar ffermwr llaeth eisiau gwerthu eu llaeth eu hunain i bobl leol a phenderfynu sefydlu eu cwmni eu hunain. Erbyn hyn, mae Calon Wen bedair gwaith ei faint gwreiddiol ac mae ganddo lawer mwy o ffermydd teuluol, a thyfodd yn brif frand Cymru, yn cyflenwi Tesco, Morrisons a Waitrose, a nifer o fanwerthwyr annibynnol ledled Cymru.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am Calon Wen ewch i https://calonwen-cymru.com