Mae ymweliad datblygu masnach rhithwir diweddaraf Llywodraeth Cymru yn gobeithio adeiladu ar y buddsoddiad a wnaed eisoes yn rhanbarth y Dwyrain Canol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cynnwys nid un wlad ond pedair, Sawdi-Arabia, Kuwait, Oman a Bahrain.

Fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod i ddatblygu a chyrchu marchnadoedd newydd mewn ffyrdd newydd dramor, dyma ymweliad datblygu masnach bwyd a diod cyntaf Cymru yn y Dwyrain Canol y tu allan i'r Emiradau Arabaidd Unedig a Qatar.

Yn cymryd rhan yn yr ymweliadau datblygu masnach rhithwir mae wyth cynhyrchydd o Gymru sy'n cynnwys allforwyr profiadol fel Rachel’s Organic Dairy, Halen Môn a The Lobster Pot, yn ogystal ag allforwyr newydd sy’n cynnwys The Old Coach House Distillery a Good Carma Foods.

Wedi'i leoli yn Nhrefynwy, The Old Coach House Distillery yw'r ddistyllfa ddi-alcohol gyntaf yn y byd, ac mae’n cynhyrchu diod fotaneg ddistylliedig arobryn, STILLERS. Mae'r busnes teuluol yn cyflogi 10 o bobl ac yn cynhyrchu'r ddiod trwy ddistyllu perlysiau a sbeisys organig wedi'u cymysgu â dŵr ffynnon gorau Cymru mewn potiau copr gan ddefnyddio dull traddodiadol.

Dywedodd Cameron Mackay, Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata: “Rydyn ni’n teimlo bod angen diod soffistigedig, ddi-alcohol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol, ac fel dewis arall yn lle diodydd meddal llawn siwgr. Ar hyn o bryd rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth o'n brand ac mae allforio i rai marchnadoedd fel y Dwyrain Canol yn allweddol i hyn. Rydyn ni’n teimlo bod y Dwyrain Canol yn cynnig potensial sylweddol i STILLERS gan ei bod i raddau helaeth yn farchnad heb ei chyffwrdd ar gyfer diodydd di-galori premiwm heb siwgr ychwanegol.

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagorol gyda phob cwmni’n cymryd rhan mewn sesiwn friffio marchnad rithwir lle rydyn ni wedi cael cyfle i glywed gan ddosbarthwr rhanbarthol, deall yr amgylchedd rheoleiddio a’r tueddiadau bwyd a diodydd allweddol, ac yn olaf cael mewnwelediadau am wneud busnes yn y rhanbarth.

“Rydyn ni’n gyffrous iawn ein bod yn mynd â’n diodydd i farchnad y Dwyrain Canol ac yn gobeithio eu bod yn mwynhau profiad portffolio STILLERS.”

Cwmni arall sy'n cychwyn ar ymweliad datblygu masnach rhithwir y Gwlff yw The Lobster Pot, busnes teuluol ar Ynys Môn sy'n arbenigo mewn cyflenwi'r pysgod cregyn byw gorau i gwsmeriaid yn y DU, Ewrop a thu hwnt.

Dywedodd Julie Hill, Rheolwr Prosiect The Lobster Pot: “Gyda dros 70 mlynedd o frwdfrydedd dros ein pysgod cregyn byw safonol, cynaliadwy, rydyn ni’n cynnig cyflenwadau cyfanwerthu ac adwerthu o gimychiaid a chrancod brown byw trwy gydol y flwyddyn sy'n cael eu cyrchu’n gynaliadwy o gychod dibynadwy a phrofiadol o arfordiroedd Cymru a'r DU.

“Rydyn ni’n allforwyr profiadol ac mae gennyn ni ddiddordeb arbennig mewn ehangu ein maes allforio i wledydd y Gwlff, felly mae'r ymweliadau datblygu masnach hyn yn amhrisiadwy.

“Mae rhaglenni Allforio Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cwmnïau sydd â diddordeb mewn allforio, a’u rhoi mewn cysylltiad â phrynwyr a dosbarthwyr yn ôl categori’r cynnyrch er mwyn datblygu a chryfhau perthnasoedd busnes, masnach ac allforio.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth gan fod targedu ffrydiau newydd o refeniw ac allforio yn allweddol i’n cynllun busnes.”

Mae Clydach Farm - Bwyd Ci yn dymuno ehangu ymhellach i farchnad y Dwyrain Canol. Dywedodd Callum Griffiths, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Clydach Farm,

 “Dechreuon ni ein taith allforio, gan gyflenwi i selogion cŵn yn Ffrainc a'r Almaen i ddechrau. Lledaenodd enw Clydach yn gyflym gyda llawer o'n cymdogion Ewropeaidd, ac arweiniodd hyn aton ni’n cyflenwi canolfannau garddio, siopau anifeiliaid anwes ac archfarchnadoedd yn Rwmania, y Ffindir, y Weriniaeth Tsiec, Sbaen, Portiwgal a Chyprus.

“Nawr bod ein cynhyrchion newydd nid yn unig yn cynnwys bwydydd sych a danteithion ar gyfer cŵn, ond bwyd ci gwlyb hefyd, rydyn ni'n gobeithio ehangu ymhellach i'r Dwyrain Canol.”

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths AS yn credu bod llwyfan cryf ar gyfer twf pellach a all fod o fudd i bawb.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae ein diwydiant bwyd a diod wedi datblygu enw da am ansawdd a dilysrwydd ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu busnesau Cymru i elwa ar farchnadoedd byd-eang newydd a phresennol.

“Mae ein rhaglen allforio ar gael i bob busnes bwyd a diod sy'n ystyried allforio. Rydyn ni wedi arwain y ffordd ar ymweliadau masnach rhithwir ac maen nhw’n ffordd wych i lawer o gwmnïau bwyd a diod Cymru arddangos eu cynhyrchion gwych a’u galluoedd i gynulleidfaoedd rhyngwladol mewn fformat sy’n addas ar gyfer yr hinsawdd sydd ohoni.”

I gael mwy o wybodaeth am Raglen Datblygu Allforio a Masnach Llywodraeth Cymru, ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes/allforio

Share this page

Print this page