Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn ceisio cryfhau a meithrin cysylltiadau â darpar bartneriaid a buddsoddwyr wrth iddynt ymweld â De Corea yr wythnos hon.

Fel rhan o Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru â’r rhanbarth o 25-30 Mawrth, bydd pum cwmni bwyd a diod o Gymru yn cael y cyfle i arddangos eu cynnyrch i lu o ddosbarthwyr a phrynwyr manwerthu, pob un yn gobeithio sicrhau busnes newydd.

Nod yr ymweliad yw manteisio ar gyfleoedd rhwydweithio a chydweithio rhwng y cynhyrchwyr, Llywodraeth Cymru a De Corea yn ogystal â chryfhau cysylltiadau busnes, masnach a thwristiaeth.

Wrth wneud sylwadau cyn yr ymweliad, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Mae’r ymweliad masnach hwn â De Corea yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru arddangos eu cynnyrch gwych a meithrin perthnasoedd gwaith newydd.

“Mae allforion ar gyfer y sector wedi tyfu yn y degawd diwethaf ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cwmnïau yng Nghymru i’w weld yn parhau.

“Mae ein rhaglen cymorth allforio ar gael i bob busnes bwyd a diod ac mae’n helpu allforwyr uchelgeisiol, newydd a sefydledig. Rwy’n falch ein bod yn cefnogi’r grŵp hwn o gynhyrchwyr i archwilio marchnad De Corea yn uniongyrchol a datblygu cysylltiadau pellach.”

Ymhlith y cwmnïau Cymreig sy’n cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Masnach mae Tŷ Nant, Cradoc’s Savory Biscuits, Havabier, Tan Y Castell ac Edwards.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y cynadleddwyr yn cael cyfle i arddangos cynnyrch i brynwyr, mewnforwyr a dosbarthwyr dethol a datblygu busnes newydd trwy gyfres o sesiynau briffio yn y farchnad, ymweliadau â siopau a chyfleoedd i gwrdd â phrynwyr.

Mae’r siop gigydd o’r gogledd, Edwards, yn un o’r cynhyrchwyr sy’n mynd i Dde Corea ac yn gobeithio dod o hyd i bartner masnachu addas yn y rhanbarth ar gyfer eu cynnyrch porc.

Dywedodd Jeremy Stoker, Rheolwr Datblygu Gwerthiant y DU a Rhyngwladol Edwards,

“Ein hamcan wrth fynychu’r Ymweliad Datblygu Masnach yw adeiladu ar yr ymchwil desg ITD a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu’r cyfle ar gyfer ein cynnyrch porc yn Ne Corea a chwrdd â chwsmeriaid posibl.”

Mae Bobby Nanua, perchennog Dŵr Tŷ Nant yng Ngheredigion hefyd gobeithio darganfod cysylltiadau allforio newydd yn Ne Corea,

“Mae hwn yn gyfle gwych i ehangu ein cyfleoedd allforio i’r rhanbarth. Ein nod yw archwilio cyfleoedd gyda chwsmeriaid a dosbarthwyr newydd yn Ne Corea. Ein prif ffocws yw manwerthwyr, safleoedd gwerthu premiwm HoReCA, gwestai 4 a 5 seren, bwytai moethus allweddol a siopau a arweinir gan ddylunio.”

Cynhaliwyd ymweliad datblygu masnach rhithwir Cymreig â De Corea ym mis Mehefin 2021, a arweiniodd at nifer o fusnesau’n sicrhau archebion, a disgwylir i archebion gynhyrchu dros £1m eleni, gan wneud De Corea y gweithgaredd masnach rithwir mwyaf llwyddiannus a gynhaliwyd gan Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. Mae hyn oherwydd bod gan farchnad De Corea awydd mawr am gynhyrchion o ansawdd uchel.

Mae datgloi marchnadoedd newydd yn dod â hyd yn oed mwy o gyfleoedd i'r busnesau hyn nid yn unig arddangos eu cynnyrch o safon ledled y byd, ond hefyd i gynhyrchu mwy o refeniw a chynyddu elw.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes i allforio, ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes/allforio

Share this page

Print this page