Ni fu erioed amser gwell i fwyd a diod Cymreig, gyda’r nifer o gynhyrchion sy’n derbyn statws enw bwyd gwarchodedig Ewropeaidd bron â dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf, a’r nifer o enwebiadau am wobrau mawreddog Great Taste Awards yn cyrraedd y nifer mwyaf erioed.
Mae gwerthiannau hefyd yn dra uchel ac mae’r targed ar gyfer 2020 o gynyddu gwerthiant i £7 biliwn ar y llwybr cywir i’w gyflawni ychydig flynyddoedd yn gynnar.
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn taro’r drwm ledled y DU ac yn ategu’r neges fod bwyd a diod Cymreig ymhlith y gorau yn y byd o ran ansawdd a gwerth.
Ar gyfer pobl yn Llundain, bydd cyfle i flasu mwynderau cynnyrch rhagorol Cymru, o gig oen hyfryd, i gawsiau hufennog a gwin arobryn.
Er mwyn helpu pobl i fynd i hwyl y dathliadau bydd cyfleoedd blasu yn dechrau wythnos yn fuan wrth i gwsmeriaid Waitrose yn Oxford Street a Canary Wharf gael blasu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd gan y wlad i’w cynnig gyda chawsiau traddodiadol a chacennau cri, iogyrtiau a wafflau, ynghyd â chwrw neu whisgi Cymreig.
Gan aros yn Llundain, bydd marchnad boblogaidd Borough Market hefyd yn llawn danteithion a diodydd Cymreig i’w blasu mewn sioe ryfeddol tri diwrnod o hyd ar Ddydd Gŵyl Dewi gan gynnwys cynhyrchwyr gwadd o Gymru o Radnor Preserves, a Rhug Estates ochr yn ochr â’r stondinau marchnad sefydledig ar y diwrnod cyntaf. Wedi hynny bydd stondinau â thema yn gwerthu pethau melys, cyffeithiau, bara lawr Selwyn Seaweed a chawsiau a phiclau.
Bydd teithwyr trên i orsaf Paddington yn cael gwledd wrth i gynhyrchwyr Cymreig arddangos eu cynnyrch ar y platfformau, tra bydd cymudwyr ar drenau yn gallu blasu cacennau Cymreig traddodiadol gyda’u paned boreol - tê Welsh Brew wrth gwrs. Ac fel pe na bai hynny’n ddigon, bydd côr o Gymru wrth law i ddiddanu teithwyr gyda datganiadau cyffrous o emynau a chaneuon adnabyddus i lonni’r dydd.
Mae adwerthwyr hefyd yn cymryd rhan gyda Waitrose, Asda, Co-op, Morrisons ac Ocado yn cynnal eu digwyddiadau arddangos eu hunain gyda chyflenwyr o Gymru yn eu Prif Swyddfeydd yn hyrwyddo’r cynnyrch gorau o Gymru. Bydd 34 o siopau Asda yn defnyddio’r pecyn adwerthwyr Bwyd a Diod Cymru ‘Dyma Ddathliad. Dyma Gymru.’ i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru.
Mae’r dathliadau Dydd Gŵyl Dewi hyn yn rhan o ymgyrch #GwladGwlad gan Lywodraeth Cymru, gan sicrhau fod Cymru a’i gynnyrch o’r radd flaenaf yn cael yr holl sylw ar ddiwrnod ein nawddsant.
Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru ar gyfer Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig,
"Bob blwyddyn mae ein dathliadau bwyd a diod Cymreig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi yn mynd yn fwy ac yn well wrth i enw da ein cynnyrch dyfu. Mae gennym gynhyrchion rhagorol i’w dangos a’r cynhwysion Cymreig gorau yn unig sy’n cael eu defnyddio. Hoffwn ddiolch i'n cynhyrchwyr am arddangos eu cynnyrch yn Llundain ac ehangu’r gred sydd gan ddefnyddwyr ac adwerthwyr fel ei gilydd ymhellach bod bwyd a diod Cymreig o'r ansawdd uchaf. Ein her nawr i ddefnyddwyr yw rhoi ein cynnyrch ar brawf - ac rwyf fi’n gwbl hyderus y bydd yn llwyddiant.”
Un o’r cynhyrchwyr fydd yn mynychu’r dathliadau yn Borough Market fydd Ruth Davies o Cwm Farm Charcutier,
"Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain ac yn edrych ymlaen at arddangos ein cynnyrch. Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth o salami a chorizo byrbryd yn ogystal â detholiad o selsig wedi'i halltu a selsig ffres. Edrychwn ymlaen at gyfarfod â phobl yn Borough Market i drafod ein cynnyrch a rhannu ein brwdfrydedd am ansawdd ein cynnyrch. "
Cwmni Cymreig arall sy’n falch iawn o gymryd rhan yn y dathliadau yng ngorsaf Paddington yw Welsh Brew Tea fel mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr a’r sylfaenydd, Alan Wenden yn egluro,
"Rydym wrth ein boddau o gael cymryd rhan yn nathliadau Dydd Gŵyl Dewi Bwyd a Diod Cymru yng ngorsaf Paddington. Mae Welsh Brew yn frand Cymreig eiconig ac mae bod yn Llundain ar ddiwrnod cenedlaethol Cymru yn ein galluogi i hyrwyddo Cymru a tharddiad cynhyrchion Cymreig i ddefnyddwyr.”
Yn ogystal â’r digwyddiadau yn Llundain, bydd siopau ledled Cymru yn naturiol yn arddangos eu bwyd a diod Cymreig gorau ac yn herio mwy o’u cwsmeriaid i brynu cynnyrch Cymreig - oherwydd yr ansawdd, y gwerth a’r tarddiad.
Mae Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn cael ei ddathlu ledled y byd ar 1af o Fawrth ac mae’n rhan bwysig o etifeddiaeth Cymru, fel y mae bwyd a diod, sydd yn un o brif drysorau Cymru. Peidiwch â methu’r dathliadau Dydd Gŵyl Dewi hyn a’r cyfle i fwynhau’r danteithion gorau o ansawdd sydd ar gael ledled Cymru.