Cwblhaodd y cyfrifydd sydd newydd gymhwyso, James Carew, 25, o gwmni cynnyrch ffres Puffin Produce Ltd yn Sir Benfro, ei gymhwyster arholiadau Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ym mis Mawrth 2021 ac mae wedi derbyn y Wobr Aur fawreddog am ennill y marc cyfartalog uchaf yn y byd.

Ar ôl astudio mathemateg Safon Uwch yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, aeth James ymlaen i ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl graddio ymunodd â’r cwmni yn Hwlffordd fel dadansoddwr ariannol.

Wrth siarad am ei rôl dywedodd James, “Ar ôl gadael y brifysgol bachais ar y cyfle i weithio yn Puffin Produce, gan fy mod yn awyddus i chwarae fy rhan wrth yrru’r busnes yn ei flaen, ac roedd y ffaith eu bod wedi fy rhoi trwy’r cymwysterau ACCA yn gyffrous iawn. Bonws ychwanegol oedd y ffaith bod Puffin Produce ar garreg y drws ac roedd bod mor agos at adref yn atyniad enfawr.

“Pan adewais yr ysgol, doedd gen i ddim syniad clir o’r llwybr gyrfa roeddwn i eisiau ei ddilyn, felly dewisais radd roeddwn i’n credu allai agor drysau i amrywiaeth o swyddi yn y dyfodol. Gan fod gen i ddiddordeb mawr mewn mathemateg, gwnaeth hyn fy newis gradd yn benderfyniad eithaf hawdd.”

Ers y 1970au mae Puffin Produce wedi bod yn cynnig tatws a llysiau tymhorol gorau Cymru, wedi'u tyfu, eu casglu a'u pacio yn Sir Benfro. Gyda throsiant blynyddol o oddeutu £30 miliwn ac yn cyflogi 180 o bobl, Puffin Produce bellach yw'r cyflenwr mwyaf o gynnyrch Cymreig i nifer o fanwerthwyr a chyfanwerthwyr mawr yng Nghymru.

Dywedodd Jane Sadler, Rheolwr Adnoddau Dynol Puffin Produce, “Rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl yn Puffin Produce ac rydym ni’n hynod falch o bopeth mae James wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Ar ben hynny, mae'n wych cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'n galluogi i greu cymaint o swyddi gwerth uchel yn ein busnes. Rydym ni’n llawn cyffro ynghylch gyrfa James yn y dyfodol yma yn Puffin Produce.”

Ychwanegodd Jon Langmead, Cyfarwyddwr Cyllid Puffin Produce, “Mae’n hanfodol ein bod yn gallu cynnig swyddi gwerth uchel er mwyn cwrdd â’r cynlluniau twf uchelgeisiol sydd gennym ni ar gyfer ein busnes, ac felly mae’r gefnogaeth ariannol a gawsom ni gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud hyn wedi bod yn hanfodol. Mae gallu cynnig swyddi da a chyfleoedd gyrfa tymor hir i bobl leol fel James yma yn Sir Benfro yn greiddiol i'n llwyddiant.”

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths AS: “Hoffwn longyfarch James a Puffin Produce ar y llwyddiant gwych hwn. Mae'n enghraifft arbennig o sut y gall pobl ifanc hyfforddi, dysgu a chyflawni cymwysterau o'r radd flaenaf wrth weithio a chael profiad gwaith gwerthfawr.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi busnesau ledled Cymru i ddarparu swyddi o ansawdd uchel i’n pobl ifanc a’n graddedigion. Mae'n hanfodol bod amrywiaeth eang o swyddi ar gael yng nghefn gwlad Cymru er mwyn i ni allu cadw gweithwyr cymwys a phrofiadol tu hwnt.”

I gael mwy o wybodaeth am gefnogaeth i'ch busnes gan Lywodraeth Cymru, ewch i

https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/sgiliau-yn-y-gweithle

Share this page

Print this page