• Meddwl Aflonydd’ - ar y fwydlen ar adeg dyngedfennol i’r diwydiant bwyd yng Nghymru
  • Bydd dros 600 o gynrychiolwyr yn clywed gan rai o brif arbenigwyr y diwydiant wrth i enw da’r sector bwyd a diod o Gymru barhau i dyfu’n rhyngwladol
  • Ymysg y siaradwyr  mae Claus Meyer, yn enwog yn rhyngwladol a’r un a daniodd y chwyldro bwyd yng ngwledydd Llychlyn

Bydd yr enwau mwyaf ym yn y byd bwyd a diod yn ceisio denu’r nifer mwyaf erioed o gynrychiolwyr i Blas Cymru / Taste Wales 2019 gyda’r neges glir fod angen i’r diwydiant feddwl yn wahanol a chyflymu twf cynaliadwy.

Trefnwyd rhai o storïau llwyddiant mwyaf y byd, y siaradwyr gorau a phrif feddylwyr y sector ar gyfer Blas Cymru / Taste Wales 2019, wrth i enw da bwyd a diod o Gymru dyfu ar y llwyfan rhyngwladol.

Prif siaradwr rhaglen lawn y gynhadledd, sy’n dwyn y teitl cyflymu twf cynaliadwy, yw Claus Meyer, sy’n enwog am Noma, a enillodd y teitl gaiff ei chwenychu gan gymaint  sef Bwyty Gorau’r Byd 4 gwaith, ac sy’n honni mai ei agwedd anghonfensiynol sy’n gyfrifol am ei lwyddiant rhyfeddol, sydd hefyd yn cynnwys tanio’r chwyldro bwyd yng ngwledydd Llychlyn a hyfforddi miloedd o bobl ifanc yn sector bwyd Bolivia.  Bydd Claus yn tynnu ar ei brofiadau fel bwydgarwr, dyn busnes a dyngarwr i ddangos sut all cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru sefyll allan ac ysbrydoli - adref a ledled y byd.

Bydd Tansy Drake yn rhannu ei meddyliau ar lwyddiant rhyfeddol smwddis innocent, lle y treuliodd naw mlynedd yn helpu adeiladu’r brand i’r pwerdy yr ydym yn gyfarwydd ag ef heddiw. Bydd Chris Hayward yn tynnu ar ei arbenigedd marchnad yn Kantar Worldpanel i esbonio sut mae disgwyliadau defnyddwyr yn newid. Bydd Kateline Porritt o thefoodpeople yn datgelu’r tueddiadau bwyd a diod diweddaraf o bedwar ban byd. Bydd y guru cyfryngau cymdeithasol, David Levin, a fanteisiwyd ar ei wasanaethau gan frandiau mawr fel KitKat a PG Tips, yn esbonio sut i greu cynnwys cymdeithasol er mwyn creu busnesau bwyd llwyddiannus.

Dywedodd arweinydd y  gynhadledd, Sara Edwards, sydd wedi dilyn ei diddordeb ei hun mewn bwyd trwy gydol ei gyrfa ddarlledu lwyddiannus: Mae gan yr holl siaradwyr hyn ddau beth yn gyffredin: maen nhw’n edrych ar bethau’n wahanol, ac maen nhw wedi profi llwyddiant anhygoel gan eu bod yn meddwl mewn ffordd wahanol i’r arfer.  Rydw i mor gyffrous i fod yn rhan o’r digwyddiad rhyfeddol hwn, ar yr adeg dyngedfennol hon i’r sector, ac alla i ddim aros i glywed sut all ‘meddwl aflonydd’ ysbrydoli cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i wneud pethau’n wahanol, gan gynnwys archwilio cyfleoedd technoleg newydd yn y diwydiant bwyd a sut i wreiddio arloesedd yn arferion ein busnesau.”

Cynhelir Blas Cymru/ Taste Wales 2019 ar 20 – 21 Mawrth yng ngwesty safonol y Celtic Manor, gan eto gynnull at ei gilydd gynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr o’r diwydiant bwyd ar gyfer y digwyddiad a chynhadledd masnach bwyd a diod rhyngwladol pwysig hwn.  Daw cynrychiolwyr a phrynwyr o bob rhan o Ewrop, yr Unol Daleithiau, y Dwyrain Canol ac o mor bell i ffwrdd â Siapan i ddarganfod cynnyrch blaengar o Gymru, rhwydweithio a gwneud ychydig o fusnes.

Cyhoeddwyd ynghynt y mis yma mai’r busnes bwyd a diod Princes fydd prif noddwyr digwyddiad a chynhadledd masnach rhyngwladol 2019.

 

Share this page

Print this page