Mae grŵp o chwe chwmni diodydd o Gymru’n teithio i Fanceinion yr wythnos nesaf – gan obeithio cipio sylw sector lletygarwch Prydain yn y sioe Northern Restaurant & Bar Show 2020 (Mawrth 17 ac 18).

Mae’r digwyddiad masnachu hwn yn y ganolfan Central Convention Complex ym Manceinion yn ‘siop un alwad’ i’r diwydiant lletygarwch ac arlwyo. Bydd yr arddangosfa’n cwmpasu holl elfennau’r sector, o fwyd a diod i offer arlwyo, gosodion a dodrefn.

Mae’r grŵp yn arddangos o dan nawdd Cywain – rhaglen sy’n ymroddedig i ddatblygu micro-fusnesau a mentrau bach a chanolig, sy’n newydd neu sy’n bodoli eisoes, yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Bydd y cynhyrchwyr hyn o Gymru i’w gweld dros ddau ddiwrnod yn y Sioe ac yn eu mysg mae’r mentrau o Ogledd Cymru, Anglesey Brewhouse, The Mug Run (Y Rhyl), Distyllfa Dinorwig (Caernarfon), a Hafod Brewing Company Ltd (Yr Wyddgrug).

Mae’r Old Coach House Distillery o Fynwy a Flowerhorn Brewery o Gaerdydd yn dod â’r cyfanswm i chwech.

Bydd stondin Cywain yn arddangos nifer o gynhyrchion hefyd gan aelodau o’r Clwstwr Bwyd Da, yn cynnwys Halen Môn, Mountain Mead, Trailhead Fine Food (jyrci cig eidion), Cwm Farm (creision chorizo, a salami) a Cradoc’s Savoury Biscuits (pretzels hallt a chraceri halen y môr).

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydw i’n falch iawn o weld y bydd cynhyrchwyr o Gymru yn arddangos yn nigwyddiad Northern Restaurant & Bar Show 2020.

“Mae cannoedd o fusnesau bwyd a diod gwych yn gweithredu yng Nghymru, ac mae’r rhai a fydd yn mynychu’r Sioe ymysg y goreuon. Mae Cywain - a ariennir gan ein Rhaglen Datblygu Gwledig - yno i helpu i feithrin a datblygu busnesau fel y rhai a fydd yn cael eu harddangos yn ystod y digwyddiad a’u cynorthwyo i wireddu eu potensial yn y sector.

“Felly, rydym ni’n falch iawn y bydd carfan mor gryf o fusnesau o Gymru wrth law i ddangos rhai o’r enghreifftiau gorau posibl o gynnyrch o Gymru, ac i hybu enw da Cymru fel cartref i rai o fwydydd a diodydd gorau’r byd.”

CWMNÏAU SY’N ARDDANGOS DDYDD MAWRTH 17 MAWRTH

MUG RUN COFFEE ROASTING

Mae Tim Parry, craswr coffi sydd wedi ei seilio yn y Rhyl, wedi bod yn perffeithio ei sgiliau coffi ers 2013. Mae’n ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn gallu dod â blas dwfn allan o’i ffa coffi a ddaw o ffynonellau moesegol ar draws y byd.

Busnes teuluol yw Mug Run Coffee Roasting ac mae’n darparu coffi o un tarddle a choffi wedi blendio o raddfa arbenigol. Mae’n cael ei rostio a’i falu i’r lefel berffaith ac mae ar gael i gwsmeriaid manwerthu a lletygarwch.

Egwyddorion y busnes yw cefnogi tyfwyr, gan ddefnyddio deunydd pacio diraddadwy ac ailddefnyddiadwy a chefnogi mentrau lleol lle bynnag y gall – gan ddarparu coffi gwych ar yr un pryd!

Yn Northern Restaurant & Bar, bydd Mug Run yn arddangos ei samplau o goffi un tarddle a choffi wedi blendio a bydd ganddo esiamplau o ddeunydd pacio – gan gynnwys prosiectau wedi eu teilwra’n arbennig.

Rhagor o fanylion: www.mug-run.com

ANGLESEY BREWHOUSE

Mae Anglesey Brewhouse yn fenter deuluol sy’n cyfuno’r elfen deuluol gyda chariad at yr ardal leol.

Mae Karen a Phil Chadwick (Mr a Mrs C) yn rheoli’r gwerthu a’r cynhyrchu yn y bragdy sydd wedi ennill gwobr Great Taste, a’u mab Adam Kershaw yw’r prif fragwr.

Mae tri chwrw wedi’u crefftio â’r llaw yn rhan o’u prif gynhyrchion, ac mae’r teulu’n dweud bod ychydig bach o ‘hud yr ynys’ – Ynys Môn hynny yw – yn mynd i mewn i bob potel.

Ysbrydolwyd eu cwrw Rhosneigr IPA (4.6%abv) gan olygfeydd lleol o’r haul yn machlud ac mae’n gwrw euraid, canolig o gorff, sy’n hawdd ei yfed. Mae Trearddur Bay EBS (3.8% ABV) yn gwrw melyngoch sydd â blas y brag wrth ei yfed a blas hopys ysgafn ffrwythus wrth ei lyncu. Yna mae Beaumaris SP – cwrw golau sesiwn 4.0% ABV sy’n gwrw ysgafn ffres ac adfywiol sy’n berffaith ar brynhawn o haf.

Diolch i lwyddiant eu prif gyrfau maen nhw newydd adeiladu bragdy deg baril pwrpasol newydd sbon.

Rhagor o fanylion: Facebook @AngleseyBrewhouse

OLD COACH HOUSE DISTILLERY LTD

Mae GIN-ESQUE®, sy’n cael ei gynhyrchu yn Sir Fynwy gan ddefnyddio dulliau traddodiadol, yn ddiod fotanegol wedi’i distyllu sy’n ddi-alcohol bob amser ac sydd wedi ei chreu gyda pherlysiau organig.

Mae’r cynhyrchion sy’n debyg i jin gan Old Coach House Distillery Ltd yn cynnig profiad ‘hollol ddi-alcohol’ newydd gyda phroffiliau blas amlwg sy’n feddal ar y tafod ac yn dal ei flas yn dda o’i gymysgu gyda thonig.

Rhwng y ddau, mae gan y biocemegydd planhigion David O’Brien a’r gwyddonydd bwyd Farhana Rahman O’ Brien fwy na 40 mlynedd o brofiad. Maen nhw wedi creu diodydd botanegol wedi’u distyllu â’r llaw sydd heb unrhyw flasau a melysyddion ychwanegol, lliwiau artiffisial na chalorïau.

Yn y Sioe, bydd Old Coach House Distillery yn arddangos ei ddwy ddiod - Celtic Myst a Silk Roots.

Mae Celtic Myst yn gyfuniad perlysieuol o ‘nodau sitrws pinwydd gyda chwa o rosmari’ ac mae’n dwyn ei ysbrydoliaeth o’r cenhedloedd Celtaidd.

Mae Silk Roots yn gyfuniad aromatig, cynnes o ‘glof a chardamom gyda chwa o sinamon’ sy’n tynnu ei ysbrydoliaeth o’r Llwybrau Sidan.

RHAGOR O FANYLION: www.oldcoachhousedistillery.co.uk

CWMNÏAU SY’N ARDDANGOS DDYDD MERCHER 18 MAWRTH

FLOWERHORN BREWERY

Yn rhedeg bragdy Flowerhorn mae’r ddau gyfaill Andrew Traynor ac Arran McHugh, oedd wedi cyfarfod yn y brifysgol ac wedi sylweddoli eu bod yn rhannu’r un mwynhad o gwrw crefft.

Ar ôl y brifysgol, cafodd y ddau swyddi yn y diwydiant bragu; a’r llynedd, gyda chymorth gan deulu a chyfeillion, aethent ati i lansio bragdy wedi ei seilio yng Nghaerdydd, Flowerhorn Brewery. Yn y fan honno mae’r ddau yn defnyddio cynhwysion ffres o safon wedi eu cyfuno â brandio swrrealaidd ac unigryw (daw enw’r bragdy o enw pysgodyn) i greu eu cyrfau Flowerhorn.

Mae eu hamrywiaeth craidd o gyrfau potel 330ml yn cynnwys Capo (5.1% ABV) Citra Pale Ale, Loops (5.7%ABV) Mango Lactose IPA, a Pharmaceutical Stimulant (6.3%ABV) Coffee Milk Stout.

Ac ar Ddydd Gŵyl Dewi lansiwyd cwrw unwaith yn unig cyntaf Flowerhorn – Mantis (7%ABV) Passion Fruit IPA. Mae wedi ei greu gan ddefnyddio rhywogaeth newydd o hopys o’r enw Strata, ac mae’n debyg mai Flowerhorn yw un o’r bragdai cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio hwn.

Rhagor o fanylion: Instagram @flowerhornbrewery

DISTYLLFA DINORWIG

Mae Distyllfa Dinorwig yn cipio blas y tir drwy ddefnyddio planhigion sy’n tyfu yn Eryri a dŵr o ffynnon fynyddig i greu eu Jin Llechen Las/Blue Slate Gin adnabyddus.

Mae distyllfa fechan Jessica Eade a Lew Hardy i’w chael ar dir hen fwthyn chwarelwr, yng nghysgod chwareli llechi Dinorwig. Yn y fan honno maen nhw’n distyllu jin mewn meintiau bychain gan ddefnyddio amrywiaeth lleol o gynhwysion botanegol ac maen nhw wedi tyfu llawer o’r rheiny yn eu gardd eu hunain.

Mae’r busnes teuluol hwn wedi llwyddo i gynhyrchu jin cyfoes sydd wedi ennill gwobrau yn arddull London Dry a’i ostwng i gryfder yfed o 42% ABV.

RHAGOR O FANYLION: www.dinorwigdistillery.co.uk

HAFOD BREWING COMPANY LTD

Mae Hafod Brewing Company yn ymfalchïo yn ei ‘fragu Cymreig blasus o fodern’.

Ochr yn ochr â’i dîm, mae’r perchennog a’r pen fragwr Phill Blanchard yn cynhyrchu amrywiaeth mawr o gyrfau casgen, baril a photel sy’n hyfryd o gytbwys ym mragdy 15 casgen y cwmni yn nhref farchnad yr Wyddgrug yng Ngogledd Cymru.

Mae’r diodydd yn cynnwys cwrw amlycaf y fenter - Landmark Best Bitter; y cwrw tywyll moethus, wedi’i drwytho â grug Moel Famau; a’r Moldbreaker – lager ffres ar ddull pilsner.

Yn ymuno â’r triawd o ffefrynnau yn sioe Northern Restaurant & Bar bydd Sunrise (cwrw golau sesiwn), Honey Honey (cwrw golau adfywiol wedi’i fragu â mwy na 50 kilo o fêl Mecsico), Bilberry Brew (cwrw copr ffrwythus wedi’i ffrwytho â llus Cymreig a gasglwyd yn lleol). Ac yn newydd i’r ystod mae Pilgrim, cwrw golau â blas yr hopys sydd wedi ei fragu â hopys Pilgrim a Simcoe.

RHAGOR O FANYLION: www.welshbeer.com

 

 

 

 

Share this page

Print this page