Mae dau fusnes bwyd artisan o Gymru'n cydweithio i greu cyfleoedd newydd ar gyfer eu cynnyrch a chynyddu manteision iechyd cwsmeriaid.

Mae Cradoc's Savoury Biscuits o Aberhonddu yn defnyddio olew hadau rêp a gynhyrchwyd gan Pembrokeshire Gold ym Maenorbŷr fel rhan o'i ymgyrch i leihau cynnwys braster dirlawn ei gracers.

Yn gynhyrchydd cynnyrch premiwm, mae ryseitiau Cradoc’s yn llawn gwenith, ceirch, llysiau a ffrwythau ffres, hadau, perlysiau a sbeisys. Mae'r cracers yn cael eu gwerthu ar-lein ac mewn manwerthwyr annibynnol, delis a siopau fferm.

Roedd Allie Thomas, a sefydlodd y becws 12 mlynedd yn ôl gyda'i merch Ella, yn chwilio am ddewis arall yn lle menyn a fyddai'n cyd-fynd â strategaethau iechyd a lles Llywodraeth Cymru ac yn cynyddu premiwmeiddo ystod Cradoc’s.

Mae'r cwmni'n aelod o’r fenter Clwstwr Bwyd Da. Wedi'i hwyluso gan Cywain, mae'r Clwstwr yn meithrin cysylltiadau rhwng busnesau yn y sector ac yn cynnig cyfle i aelodau dderbyn cyngor busnes, mynychu digwyddiadau a rhwydweithio â chwmnïau eraill o Gymru.

Dywedodd Allie, “Fel aelodau o Glwstwr Bwyd Da Bwyd a Diod Cymru, rydym wedi mynychu cyfres o raglenni mewnwelediad categori ar greu bwydydd iachach, a lle mae cyfle i gynyddu datblygiad cynnyrch newydd. Dechreuon ni edrych ar sut y gallem addasu ein ryseitiau bisgedi i ddisodli menyn, sy'n uchel mewn braster dirlawn, gyda dewisiadau amgen iachach.”

Daeth y cyfle hwnnw pan gyflwynwyd Allie i'r tyfwr hadau rêp, Harry Thomas o Pembrokeshire Gold — a ddechreuodd werthu ei olew oerwasgedig 18 mis yn ôl.

Dywedodd Allie, “Cawsom ein cyflwyno i’n gilydd gan gyd-aelod o'r Clwstwr Bwyd Da, Pembrokeshire Chilli Farm, sy'n tyfu'r tsili y mae Pembrokeshire Gold yn ei ddefnyddio yn ei olew tsili blasus. Anfonodd Harry yn Pembrokeshire Gold rai samplau atom, ac roedd lliw a blas yr olew yn hyfryd. Hefyd, mae hadau rêp oerwasgedig yn uchel yn Omega 3 a 6, cyfansoddion ffenolig uchel a fitamin E; mae ganddo fuddion iechyd anhygoel sy'n gyfartal ag olew olewydd, ac mae'n gallu gwrthsefyll gwres pobi - felly fe benderfynon ni newid 20% o'n cynhwysyn had rêp presennol i gynnyrch Pembrokeshire Gold oerwasgedig.”

Dywedodd Harry Thomas o Pembrokeshire Gold ei fod yn gyffrous i weithio gyda Cradoc's. Dywedodd, “Mae cyfarfod Allie a thîm Cradoc’s wedi bod yn wych, ac mae'n hyfryd gallu cyflenwi ein holew fel deunydd crai i fusnes arall yng Nghymru.”

Harry yw'r drydedd genhedlaeth o'i deulu i redeg Park Farm, lle - yn ogystal ag olew hadau rêp - mae'n tyfu gwenith, haidd a ffa. Yn 2021, crëwyd cyfleuster malu ar y fferm i gynhyrchu Olew Hadau Rêp Oerwasgedig Hynod-goeth Pembrokeshire Gold.

Croesawyd y cydweithrediad gan Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, a ddywedodd: “Crëwyd grwpiau clwstwr Bwyd a Diod Cymru i annog a hwyluso cydweithio a chydweithredu rhwng mentrau bwyd a diod Cymru.

“Mae’n wych gweld Cradoc’s Savory Biscuits a Pembrokshire Gold yn gweithio gyda'i gilydd. Dyma gynghrair lwyddiannus arall a gyflawnwyd drwy aelodaeth clwstwr, sydd o fudd i gynhyrchwyr, cwsmeriaid a chynaliadwyedd amgylcheddol.”

Yn gwmni cymharol newydd, lansiodd Pembrokeshire Gold ei boteli cyntaf o Olew Hadau Rêp Oerwasgedig Hynod-goeth ym mis Ionawr 2022. Nawr mae'r busnes yn cynhyrchu dros 1,000 litr y mis sy'n cael ei botelu ar y fferm a'i werthu trwy wefan Pembrokeshire Gold, manwerthwyr annibynnol, siopau fferm a delis. Cynhyrchir olewau wedi'u trwytho hefyd, fel y mae meintiau mwy ar gyfer cwsmeriaid arlwyo a gweithgynhyrchu. Mae Pembrokeshire Gold hefyd wedi mynd ymlaen i ennill achrediad SALSA mewn tri mis yn unig, a fydd yn agor cyfleoedd newydd i'r busnes.

Meddai Harry, “Mae olew hadau rêp oerwasgedig Cymreig ac olewau wedi'u trwytho Pembrokeshire Gold wedi’u cynhyrchu o'r cae i'r fforc yn wir — a ni yw'r unig gwmni yng Nghymru sy'n tyfu, cynaeafu, gwasgu a photelu ar y fferm. Mae hyn yn rhoi cynhyrchu cynaliadwy wrth galon 'Pembrokeshire Gold' gydag angerdd am yr amgylchedd ar ein fferm deuluol garbon-negyddol. Mewn ymrwymiad pellach i'r amgylchedd, rydym hefyd yn dewis peidio â defnyddio unrhyw blastig untro yn ein deunydd pecynnu.”

Mae olew hadau rêp oerwasgedig yn olew amlbwrpas y gellir ei ddefnyddio mewn sawl dull coginio. Mae olew hadau rêp oerwasgedig yn cynnwys llai o fraster dirlawn nag olewau coginio eraill, gan gynnwys olew olewydd ac olew cnau coco. Yn uchel mewn brasterau annirlawn - yn enwedig brasterau mono-annirlawn - mae olew hadau rêp hefyd yn ffynhonnell dda o fitamin E.

Mae hadau rêp yn cael eu plannu yn yr hydref ac yn y gwanwyn maent yn cynhyrchu blodau melyn llachar nodedig iawn, sy'n mynd ymlaen i gynhyrchu'r codennau sy'n cael eu cynaeafu yn yr haf. Mae'r had rêp yn cael ei lanhau a'i sychu'n ysgafn cyn cael ei roi mewn gwasg sgriw i echdynnu'r olew. Yn wahanol i'r broses goethi, nid oes angen ychwanegu gwres a thoddyddion ychwanegol i’r broses oerwasgu. Yna caiff yr olew ei hidlo a'i storio mewn cerwyni i'w potelu.

Ers ei lansio, mae Pembrokeshire Gold wedi derbyn cymorth busnes gan Cywain a'r Clwstwr Bwyd Da ac mae wedi mynychu digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru y llynedd ac, yn fwy diweddar, y Farm Shop & Deli Show yn yr NEC yn Birmingham.

Meddai Harry, “Rydym wedi cael cefnogaeth wych, ac rydym wedi gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau na fyddem wedi gallu eu mynychu ar ein pen ein hunain. Fel aelod newydd o'r Clwstwr Bwyd Da, mae cwrdd â chynhyrchwyr eraill o Gymru a thrafod syniadau wedi bod yn amhrisiadwy.”

Mae Cradoc's wedi tyfu o fod yn fenter pen bwrdd cegin i fod yn gwmni arobryn sy'n allforio i wledydd gan gynnwys yr Unol Daleithiau, yr Eidal, Iwerddon, Qatar, Sbaen a'r Emiradau Arabaidd Unedig.

Esboniodd Allie, “Caws oedd y catalydd. Rydym yn wallgof am gaws yn ein teulu, ond nid oedd y bisgedi yn ddigon da. Roeddem yn bwyta caws artisan gyda chracers wedi’u cynhyrchu ar lefel dorfol, ac roeddem yn meddwl y byddai'n well cael bisgedi Cymreig wedi'u gwneud gyda gofal a chynhwysion lleol.”

Mae amrywiaeth Cradoc’s yn cynnwys mathau fel Hadau Sbigoglys a Seleri, Sinsir Tsili a Garlleg, a'r gracer Betys a Garlleg ‘chwyldroadol i’r farchnad', sydd â lliw pinc unigryw.

Mae'r cwmni bellach yn cyflogi tîm pobi wyth aelod — gan gynnwys prentisiaid — yn ei fecws achrededig gan SALSA, gyda chynlluniau i gymryd uned gyfagos drosodd i gynhyrchu cynnyrch heb glwten cyn bo hir.

Ond nid yw'r cysylltiad â Pembrokeshire Gold wedi'i gyfyngu i olew, gan fod Allie yn edrych i mewn i'r posibilrwydd o ymgorffori'r had rêp ei hun i fod yn rhan o Gracers Cradoc’s.

Dywedodd Allie, “Pan oeddem yn y Farm Shop & Deli and Food & Drink Expo yn Birmingham, roedd gan Pembrokeshire Gold rai o'r hadau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r olew. Mae'r stwnsh fel arfer yn sgil-gynnyrch sy'n cael ei fwydo i dda byw, ond mae ganddo flas a ffibr, ac rwyf am ei brofi i weld a ellir ei ddefnyddio mewn bisgedi i gynyddu cynnwys mwynau a lleihau gwastraff.”

Yn ôl Allie, mae bod yn rhan o'r Clwstwr Bwyd Da ac o dan Fwyd a Diod Cymru mewn digwyddiadau, wedi helpu Cradoc's i godi ei broffil a chael gafael ar wybodaeth a hyfforddiant.

“Fel aelodau Clwstwr, rydym yn rhan o dîm; nid ydym wedi ein hynysu. Rydym wedi cael cymaint o gymorth gan bobl eraill yno sydd wedi bod yn ein sefyllfa ni ac sydd un cam o’n blaenau ar y daith ar hyn o bryd.

“Mae Bwyd a Diod Cymru yn ymgyrch farchnata hynod ddylanwadol, ac rydym wedi cael prynwyr bwyd a diod o bob cwr o'r byd yn dweud pan fyddant yn camu i garped coch y stondin mewn digwyddiadau, eu bod yn gwybod eu bod yng Nghymru a bydd bwyd a diod o safon yno.”

Dywedodd Kate Rees, Rheolwr Datblygu Bwyd Da De Cymru, “Sefydlwyd y Clwstwr Bwyd Da i gefnogi Cynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru drwy gydweithio a rhannu gwybodaeth. Mae gweld aelodau ein clwstwr yn gweithio gyda'i gilydd i wella eu busnesau yn wych, ac ni allem fod yn fwy balch o gefnogi Pembrokeshire Gold, Cradoc's a'u cynnyrch anhygoel. “ 

Share this page

Print this page