Wrth godi ar frig y don lysieuol a fegan, mae The Parsnipship wedi caffael y cynhyrchydd caws amgen fegan wedi’i seilio ar gnau, Nutchi’s, gyda chefnogaeth gan Raglen Parod am Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru.

Erbyn hyn, mae’r hyn a ddechreuodd fel stondin marchnad ym Marchnad Glan-yr-afon yng Nghaerdydd yn 2007 yn fusnes arloesol sy’n cyflenwi cyfanwerthwyr mawr Cymru, Castell Howell a Blas ar Fwyd, yn ogystal â nifer o siopau fferm, delis, caffis a bwytai ar draws Cymru â’u bwyd llysieuol a fegan gwreiddiol ac unigryw. 

Bydd caffael Nutchi’s nid yn unig yn galluogi The Parsnipship i gynyddu ei ddetholiad fegan craidd, ond hefyd i ddatblygu’r dewis amgen i gaws, sydd wedi’i seilio ar gnau, ymhellach. 

Dywed Flo Ticehurst, Cyfarwyddwr The Parsnipship, “Yn The Parsnipship, rydym bob amser yn meddwl am sut gallwn ni ddatblygu ac amrywio, felly pan ddaeth y cyfle braidd yn serendipaidd i gaffael y busnes arloesol hwn, a sefydlwyd gan un fenyw, ni allwn beidio ag achub arno!

Fel busnes a brand, mae Nutchi’s yn rhannu llawer o’n gwerthoedd, yn fwyaf amlwg o ran annog diet sydd wedi’i seilio ar blanhigion, ond hefyd o ran cynaliadwyedd.  Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu brand a nwyddau Nutchi’s ymhellach, ac rydym wedi dechrau archwilio datblygu rhai cynhyrchion newydd, a fydd yn dod â’n dau frand at ei gilydd mewn ffordd brydferth a chytûn.”

Cafodd The Parsnipship gefnogaeth drwy Raglen Parod am Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan BIC Innovation, ar hyd y broses gaffael.  Dywedodd Flo am y gefnogaeth a gafwyd, “Rydyn ni’n fusnes bach ac roedd yn anodd gwybod sut i roi gwerth ar fusnes a rhoi cynnig at ei gilydd i’w gyflwyno i Nutchi’s.  Trwy gefnogaeth flaenorol gan y Rhaglen Parod am Fuddsoddiad, roedd y tîm yn adnabod ac yn deall ein busnes, ac fe wnaethon nhw ein helpu i ddrafftio Penawdau’r Telerau.”

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Ers ei lansio yn 2017, mae dros 180 o fusnesau bwyd a diod wedi elwa ar y Rhaglen Parod am Fuddsoddiad.  Mae’r rhaglen yn hanfodol o ran cefnogi perchenogion a rheolwyr i wella eu craffter busnes a sicrhau bod busnesau eu hunain wedi’u paratoi’n well ar gyfer buddsoddiad posibl.

“Mae’n braf gweld busnes bach yn ehangu yn ystod y cyfnod hwn, ac yn ymateb i’r galw gan y sector bwyd llysieuol a fegan sy’n tyfu’n gyflym”.

 

Share this page

Print this page