Dim ond blwyddyn ers lansio’u busnes, mae’r cynhyrchydd bwyd Cymreig sy’n seiliedig ar blanhigion, Do Goodly Dips, wedi sicrhau eu rhestriad cenedlaethol cyntaf gyda manwerthwr mawr.

Mae dipiau Do Goodly bellach ar gael mewn 60 o siopau Morrisons yng Nghymru a De Orllewin Lloegr, a ledled y wlad drwy’r archfarchnad ar-lein Ocado.

Mae’r cwmni sydd wedi’i leoli yn Cross Hands yn ganlyniad i gydweithrediad rhwng ffrindiau Richard Abbey a Scott Davies.

Dywedodd Richard, “Mae Scott yn gogydd medrus iawn sydd wedi gweithio mewn nifer o fwytai seren Michelin, ac rydw i'n dod o gefndir masnachol. Roedden ni eisiau creu cynhyrchion unigryw a blasus gyda phwrpas, yn yr ystyr eu bod yn gwneud lles i chi ac eraill, ac yn lleihau unrhyw effaith niweidiol ar ein planed anhygoel, dyna pam y galwon ein hunain yn Do Goodly Dips”

Yn fegan, di-glwten ac heb unrhyw siwgr ychwanegol nac ychwanegion artiffisial, mae Do Goodly Dips yn seiliedig yn gyfan gwbl ar blanhigion. Gan ddefnyddio cymaint o gynhwysion Cymreig â phosib, mae'r pâr wedi creu pedwar dip blasus sydd ychydig yn wahanol - Squashed Pea Guacamole, Tasty Tomato & Bean Houmous, Superstar Salsa, a Mighty Beetroot Borani - pob un â nodwedd iachus fel darparu ffibr neu brotein.

Mae Superstar Salsa Do Goodly wedi plesio’r beirniaid yng Ngwobrau Great Taste 2021 hefyd ac wedi derbyn gwobr un seren yn gynharch wythnos hon.

Ethos y cwmni yw ‘gwneud da, bod yn dda, blasu’n dda’, ac mae 10% o’r holl elw yn mynd at yr elusen iechyd meddwl Mind. Mae cynaliadwyedd hefyd yn bwysig ac mae popeth yn ailgylchadwy ac yn cael ei ailgylchu lle bo hynny'n bosibl.

Dywedodd Richard, “Rydyn ni hefyd wedi creu ein hystod i gael oes silff hirach na’r rhan fwyaf o ddipiau eraill, a hynny mewn ffordd naturiol, sy’n helpu i leihau gwastraff bwyd.” 

Mae dipiau Do Goodly eisoes yn boblogaidd mewn siopau annibynnol, delis a siopau fferm, ac mae cael eu cynnwys ar restrau Morrisons ac Ocado wedi dod ar ddiwedd cyfnod llwyddiannus iawn i’r busnes, sy’n ymfalchïo yn eu gwreiddiau Cymreig.

“Mae’r flwyddyn gyntaf anhygoel yma wedi hedfan, ac rydyn ni wrth ein boddau’n gweld ein dipiau’n cael eu gwerthu yn genedlaethol ac mewn archfarchnadoedd.”

Mae'r camau nesaf ar gyfer y busnes yn cynnwys twf pellach o fewn y sector masnach groser ac ehangu'r tîm cryf o dri sydd ganddynt ar hyn o bryd.

Mae Do Goodly yn ffynnu gyda chymorth gan Cywain – un o brosiectau Menter a Busnes sy’n cefnogi datblygiad busnesau sy'n ceisio sicrhau twf o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru gan weithio ar y cyd â Rhaglen Datblygiad Masnach Bwyd a Diod Cymru. Roedd Do Goodly yn rhan o raglen agoriadol ‘Her Ehangu’ Cywain sydd wedi’i gynllunio er mwyn helpu busnesau i ehangu a magu hyder masnachol.

Dywedodd Richard, “Mae Cywain wir wedi helpu ein busnes i dyfu. Mae’r rhaglen ‘Her Ehangu’ wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol a byddwn yn annog mwy o gwmnïau bwyd a diod bach i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. Mae hyn wedi’i gyplysu â chyflwyniadau i’r prif fanwerthwyr a mentora a ddarperir gan raglen fasnach Bwyd a Diod Cymru sydd wedi bod yn amrhisiadwy.”

Dywedodd Louise McNutt, Rheolwr Datblygu Cywain, “Mae'r llwyddiant ysgubol y mae Richard a Scott wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn dyst i'r gwaith caled, y dycnwch a'r profiad maen nhw wedi'u dwyn i'w busnes. Mae eu dull proffesiynol, eu parodrwydd i fachu ar gyfleoedd a'u hawydd i wneud da yn disgleirio trwy bob cyswllt rydw i wedi'i gael gyda nhw. Hefyd, mae eu dipiau'n flasus dros ben!”

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, “Rwy’n falch iawn o glywed am y camau llwyddiannus y mae Do Goodly Dips yn eu cymryd i mewn i’r byd manwerthu ehangach a hoffwn longyfarch Richard, Scott a’r tîm ar eu llwyddiant hyd yn hyn.

“Mae hefyd yn amlwg fod mentrau megis yr ‘Her Ehangu’ gan Cywain yn cael effaith gadarnhaol wrth gefnogi ac annog busnesau i ddatblygu eu syniadau a thyfu.”

Share this page

Print this page