Hoffai Llywodraeth Cymru longyfarch Fay Francis ar ei hanrhydeddau Blwyddyn Newydd, gan dderbyn MBE am ei gwasanaeth i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.

Mae Fay wedi gweithio fel contractwr allanol dros y 12 mlynedd diwethaf, gan ddarparu cymorth arbenigol i gynhyrchwyr a busnesau yng Nghymru ar gynlluniau Enw Bwyd Gwarchodedig yr UE (PFN) a chynlluniau Dynodiadau Daearyddol y DU (GI) ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod.

Mae penderfyniad a brwdfrydedd Fay i ddatblygu Dynodiadau Daearyddol yng Nghymru wedi helpu i sicrhau bod Cymru'n perfformio'n well na gweddill y DU o  ran ceisiadau llwyddiannus yr UE ac o ran Dynodiadau Daearyddol y DU. Mae cyfanswm o 19 o Ddynodiadau Daearyddol yng Nghymru hyd yma, ac mae sawl cais arall ar y gweill.

Mae Fay wedi helpu i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Cymru ac wedi helpu i arddangos i'r byd y cynhyrchion eithriadol y gall Cymru eu cynnig, gan alluogi aelodau teulu Dynodiadau Daearyddol Cymru i rannu eu treftadaeth, eu dilysrwydd a'u harbenigedd unigryw  drwy eu statws uchel ei fri. 

Bydd cyfraniad Fay yn gadael gwaddol  y bydd Cymru, ei chynhyrchwyr a'i dinasyddio yn parhau i elwa arno am flynyddoedd i ddod wrth i nifer y Dynodiadau Daearyddol barhau i dyfu ac wrth i’r rhain gyfrannu at sicrhau bod Cymru’h dod yn genedl flaenllaw ym maes bwyd. 

Edrychwn ymlaen at gynnal y berthynas waith ardderchog â Fay a hoffem ddiolch yn ddiffuant iddi am ei chyfraniad a'i gwasanaeth i Ddiwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Share this page

Print this page