Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai Fferm Cilgwenyn yn Sir Gaerfyrddin yw enillydd Gwobr Seren ar ei Chynnydd Cynaliadwyedd y Ffair Bwydydd Da ac Arbenigol oherwydd ei hagwedd gyfannol tuag at fusnes ar ôl trawsnewid pwll glo segur yn fferm wenyn newydd sbon sy'n cynnig mêl carbon niwtral.

Dechreuodd Rhodri Owen a Richard Jones eu busnes masnachol yn Llangennech yn 2010 ar ôl cadw gwenyn am flynyddoedd lawer cyn hynny. Maen nhw bellach yn cynhyrchu mêl crefftus amrwd Cymreig o wahanol rannau o Gymru sydd ar gael i'w brynu ar-lein.

Fodd bynnag, wrth wraidd eu busnes mae eu gwerthoedd moesegol a chynaliadwyedd i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Dros y blynyddoedd maen nhw wedi rhoi nifer o fentrau ar waith i gynhyrchu mêl carbon niwtral sy'n cynnwys creu eu trydan eu hunain trwy bŵer yr haul a phlannu digon o goed i wneud iawn am 30 mlynedd o gynhyrchu jariau a chaeadau. Maen nhw hefyd yn rhoi yn ôl i'w cymuned trwy hyfforddi cyn-filwyr am ddim i helpu i frwydro yn erbyn PTSD.

Wrth siarad am y wobr, dywedodd Rhodri: “Rydyn ni’n falch iawn o gael ein cydnabod am ein gwaith yn helpu i achub ein planed. Mae cynaliadwyedd a'r amgylchedd yn allweddol i'n cynllun busnes. Nid oedd a wnelo erioed ag arian, ond cred gadarn mewn helpu'r amgylchedd a darparu Mêl Cymreig amrwd gonest a heb ei ddifetha i’r cyhoedd gan wenynwyr.

“Rydyn ni wedi bod yn poeni am yr effaith a gawn fel rhywogaeth ar y blaned sy'n effeithio ar fioamrywiaeth, ecoleg a'r hinsawdd ers peth amser. Rydyn ni i gyd yn cydblethu ond eto ni, fel bodau dynol, sy’n creu'r effaith fwyaf, ac nid mewn ffordd dda bob tro.

“Rydyn ni'n sicrhau ein bod ni'n lleihau ein hallyriadau trwy ddefnyddio dim ond rhannau sy'n gynaliadwy, rydyn ni'n cynhyrchu ein trydan ein hunain a phan mae angen i ni brynu trydan, dim ond ynni gwyrdd rydyn ni'n ei brynu.

“Rydyn ni’n gynaliadwy o ran ynni ac hefyd yn sicrhau bod ein holl gynhyrchion yn cael eu cyflenwi mewn deunyddiau ailgylchadwy. Mae ein jariau gwydr wedi'u gwneud o 88% o ddeunydd wedi'i ailgylchu, mae ein caeadau dur yn ailgylchadwy, ac hefyd wedi'u gwneud o rywfaint o ddeunydd wedi'i ailgylchu, ac mae ein labeli a'n blychau yn cael eu hailgylchu eto gyda chyfran o'r deunydd wedi'i ailgylchu. Felly rydyn ni’n rhydd o blastig ond mae egni'n cael ei ddefnyddio wrth eu cynhyrchu. Er mwyn lliniaru hynny rydyn ni’n plannu coed ar ein tir ein hunain i ddal CO dros oes o 100 mlynedd. Rydyn ni’n plannu llawer o goed i sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion y busnes am flynyddoedd lawer i ddod.

“Yn ogystal â phrynu ein mêl Cymreig mae pawb yn cefnogi nid yn unig amaethyddiaeth a ffermio ond hefyd yn helpu i leihau’r perygl o newid hinsawdd. Cynorthwyir hyn trwy sicrhau bod peillio yn digwydd wrth i amrywiaeth planhigion sicrhau eu bod yn goroesi. A pho fwyaf o'n mêl crefftus amrwd sy'n cael ei fwyta, po fwyaf y mae pawb yn helpu i leihau CO, lleihau plastigau, lleihau effaith busnesau ar yr hinsawdd a chreu peillwyr mwy naturiol."

Mae Fferm Cilgwenyn yn rhan o Glwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd yn cefnogi ac yn datblygu arferion busnes cynaliadwy ledled diwydiant bwyd-amaeth Cymru. Gwneir hyn trwy ddefnyddio'r dull helics triphlyg llwyddiannus, gyda Llywodraeth Cymru, diwydiant a'r byd academaidd, yn gweithio law yn llaw i fynd i'r afael â phroblemau cyffredin y diwydiant.

Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ei gweledigaeth cynaliadwyedd strategol ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru yn y dyfodol.

Wrth sôn am Cilgwenyn yn ennill y wobr hon, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Llongyfarchiadau enfawr i Rhodri, Richard a phawb ar Fferm Cilgwenyn ar eu llwyddiant. Mae Gwobrau’r Ffair Bwydydd Da ac Arbenigol yn hyrwyddo pawb sy'n gwneud ein diwydiant bwyd a diod mor hynod ac ysbrydoledig. Mae Cilgwenyn yn enghraifft wych i eraill ar yr hyn y gellir ei gyflawni yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu busnesau bwyd a diod Cymru i ganolbwyntio ar dwf a chynhyrchedd cynaliadwy, eu heffaith ecolegol a’u heffaith ar yr hinsawdd ynghyd â gwaith teg a chodi safonau ledled y diwydiant. Rydyn ni am i Gymru fod yn un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd yn ogystal â pharhau i fod ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth.”

Un o’r ffyrdd mae Llywodraeth Cymru yn ceisio prif ffrydio ethos cynaliadwyedd ledled y diwydiant ar hyn o bryd yw cefnogi arloeswyr ysbrydoledig trwy ei Chlwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod.

Mae'r Clwstwr Cynaliadwyedd yn agored i bob maes arbenigol, ond ei unig ffocws yw ceisio cael un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cynaliadwy yn y byd. Y gobaith yw, trwy ddarparu fforwm ar gyfer rhannu arfer cynaliadwy, y gall yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn un rhan o'r diwydiant, fod yn llwyddiannus mewn man arall hefyd.

Y Clwstwr Cynaliadwyedd fydd y canolbwynt canolog, yn darparu gwybodaeth i fusnesau, dod yn llygaid a chlustiau'r diwydiant a bydd yn datblygu rhwydweithiau ac arbenigedd diwydiant i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes cynaliadwyedd.

Am ragor o wybodaeth am sut y gallai’r Clwstwr Cynaliadwyedd fod o gymorth i chi, cysylltwch â Mark Grant ar mark.grant@levercliff.co.uk.

Share this page

Print this page