Mae’r ffermwr gwenyn o Ogledd Cymru, Laurence Edwards, yn codi’r tymheredd ar ei fêl drwy lansio menter newydd – Hot Fire Honey.

Yn gyd-berchennog ar y cwmni mêl arobryn Black Mountain Honey Ltd, y mae’n ei redeg gyda’i bartner Helen Bresser, mae Laurence wedi cyfuno mêl naturiol felys gyda tsilis tanllyd a dyfwyd yng Nghymru i greu ‘mêl poeth’.

Hot Fire Honey yw’r canlyniad, a gellir ei ddefnyddio fel dresin, fel marinâd, neu ei ddiferu dros bitsa i roi cic melys-boeth. Mae ar gael i’w brynu’n uniongyrchol o wefan y cwmni www.hotfirehoney.co.uk.

Wedi iddo ennill dwy wobr Great Taste yn 2020 ar gyfer Black Mountain Honey, creu Hot Fire Honey (Ltd) yw’r cam nesaf i Laurence – ffermwr gwenyn o Nercwys sy’n cadw gwenyn ers saith mlynedd.

Trodd at Glwstwr Mêl Cymru i gael cefnogaeth a chyngor wrth sefydlu ei fusnes newydd – ac fe’i cyflwynwyd i aelodau o’r Clwstwr Bwyd Da, Owen a Michelle Rosser o Pembrokeshire Chilli Farm.

Meddai Laurence, “Ro’n i eisiau creu cynnyrch cwbl Gymreig, felly rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda Pembrokeshire Chilli Farm. Maen nhw’n darparu cymysgedd unigryw i ni o’u powdr tsili o Gymru, ac rydyn ni’n cymysgu hwnnw gyda’n mêl Black Mountain Honey. Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â chynhyrchydd arobryn gwirioneddol wych o Gymru.”

Meddai Owen a Michelle Rosser o Pembrokeshire Chilli Farm, “Mae Laurence wedi creu cynnyrch arbennig a dyfeisgar, ac rydyn ni wrth ein boddau’n cael bod yn rhan ohono. Diolch i’r Clwstwr Bwyd Da a Chlwstwr Mêl Cymru hefyd am helpu i gysylltu’n dau gwmni bwyd Cymreig.”

Mae clystyrau Bwyd a Diod Cymru yn meithrin cysylltiadau rhwng busnesau yn y sector. Fe’i hwylusir gan Cywain, sy’n cefnogi datblygiad busnesau sy’n ceisio tyfu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Meddai arweinydd Clwstwr Mêl Cymru, Haf Wyn Hughes, “Mae lansio Hot Fire Honey yn enghraifft arall o sut gall cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru greu rhywbeth cyffrous a newydd drwy feithrin cysylltiadau a chydweithio. O wneud hynny, gallant ehangu eu marchnad, a denu cwsmeriaid o’r tu hwnt i’w cynulleidfa draddodiadol.”

I ychwanegu at rinweddau Cymreig Hot Fire Honey, mae finegr seidr o berllan Llanblethian Orchards, a bu Laurence hefyd yn gweithio gyda’r crefftwr pitsa lleol A Pesto i berffeithio’i rysáit. Cafodd gymorth cynhyrchu, potelu a labelu gan aelod arall o’r Clwstwr Bwyd Da – Goch and Co.

Mae Laurence yn gobeithio y bydd ei rysáit at ddant y beirniaid yng ngwobrau Great Taste. Ac mae’n bwriadu cynnig ei fêl Hot Fire Honey yn y gystadleuaeth bwyd a diod glodfawr eleni.

Meddai Laurence, “Dw i’n meddwl bod yna gynnyrch gwych yma. Gobeithio bydd y beirniaid yn mwynhau’r cyfuniad o fêl o Gymru, tsilis o Gymru a finegr o Gymru.”

Ychwanegodd, “Ein hoff ffordd ni o fwynhau mêl Hot Fire Honey ydy ei dollti’n denau dros bitsa pepperoni tân coed neu gyda chasgliad o gawsiau o Gymru.”

Fodd bynnag, mae’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar gyfer gwobrau Great Taste yn agosáu, ac mae sefydlu’r cwmni newydd, creu brand ar gyfer y cynnyrch a chynhyrchu digon o’r cynnyrch i’w brofi yn y Ganolfan Technoleg Bwyd ar Ynys Môn wedi bod yn her dda i’r tîm yn Hot Fire Honey.

“Heb help y Clwstwr Mêl, fyddai yna ddim cwmni o gwbl. Aeth popeth drwodd yn gyflym iawn, ac mae Haf bob amser wedi bod yn ofnadwy o gefnogol o’n mentrau busnes.”

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae cysylltu busnesau bwyd a diod bach yng Nghymru drwy’r clystyrau wedi helpu llawer o fusnesau yn ystod yr amser anodd hwn, gan gynnig cefnogaeth, cyngor a chydweithio.

“Mae annog cydweithio o’r fath yn caniatáu i’r ysbryd arloesol a mentrus sydd wrth wraidd sector bwyd a diod Cymru i dyfu, ac i gefnogi’n busnesau.

“Mae lansio mêl Hot Fire Honey yn enghraifft ragorol o’r manteision a ddaw o gydweithio rhwng busnesau, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt – ac i’r holl gwmnïau o Gymru sydd wedi rhoi eu henwau ar gyfer gwobrau Great Taste.”

 

 

Share this page

Print this page