Mae busnesau cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn Singapôr i hyrwyddo eu cynhyrchion o’r radd flaenaf.

Wedi’i drefnu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Ymweliad Datblygu Masnach â Singapôr yn darparu llwyfan i ymgysylltu â phartneriaid, dosbarthwyr a phrynwyr posibl yn y rhanbarth. Mae nodau’r ymweliad yn tynnu sylw at ystod amrywiol Cymru o gynhyrchion o ansawdd uchel, gan gynnwys cynhyrchion cig, llaeth, pobi ac alcohol.

Mae Singapôr yn mewnforio tua 90% o’i bwyd a diod, ac mae’n wlad sydd â photensial mawr ar gyfer allforion bwyd a diod o Gymru, wrth i’r sector anelu at dwf pellach.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths,

“Mae’r Ymweliad Datblygu Masnach hwn yn gyfle gwych i arddangos bwyd a diod ardderchog Cymru, a chefnogi ein busnesau i adeiladu cysylltiadau pwysig ar lwyfan rhyngwladol.

“Mae gan Singapôr botensial mawr i’r diwydiant a dymunaf ymweliad llwyddiannus i’r cynhyrchwyr sy’n mynychu. Edrychaf ymlaen at glywed am yr effaith gadarnhaol y bydd y cyfle datblygu masnach hwn yn ei chael ar ein sector bwyd a diod.”

Mae’r cwmnïau sy'n cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Masnach yn cwrdd â phrynwyr, ymweld â siopau, a mynychu digwyddiadau rhwydweithio, a fydd yn caniatáu i'r cynhyrchwyr ryngweithio'n uniongyrchol â mewnforwyr, manwerthwyr a defnyddwyr Singapôr.

Yn bresennol yn bersonol bydd Daffodil Foods, Daioni a Zero2Five. Yn y cyfamser, y rhai sy’n darparu cynhyrchion i’w blasu yw Village Bakery, Monty’s Brewing, Snowdonia Cheese, Tan Y Castell, Penderyn, Halen Môn, Morgan’s Brew Tea a Distyllfa Castell Hensol.

Un o’r cwmnïau sy'n gobeithio adeiladu ar y cysylltiadau sydd eisoes wedi'u creu yn y rhanbarth yw Daffodil Foods, cwmni annibynnol bach sy'n cynhyrchu cynhyrchion llaeth a chynhyrchion planhigion.

Dywedodd Lynne Rowlands, Cyfarwyddwr Daffodil Foods, “Mae cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Masnach hwn yn gyfle gwych i ni. Ar hyn o bryd rydym yn allforio i Hong Kong a Japan, drwy gysylltiadau a wnaed yn nigwyddiadau BlasCymru/TasteWales blaenorol Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn awyddus i dyfu ein busnes allforio ac yn ymwybodol bod Te Prynhawn yn boblogaidd iawn yn Ne-ddwyrain Asia. Felly, rydym yn mynychu'r Ymweliad Datblygu Masnach â Singapôr i siarad â phrynwyr ac arbenigwyr a dysgu mwy am y farchnad hon. Gobeithiwn y gallwn ddod o hyd i fewnforwyr, dosbarthwyr a chwsmeriaid ar gyfer ein Hufen Tolch Cymreig i helpu i dyfu ein busnes drwy Singapôr a Malaysia.”

Un o’r cwmnïau sy’n rhan o restr gref o gynhyrchwyr Cymreig yn y sioe arddangos cynnyrch yw’r becws teuluol arobryn, Tan Y Castell. Dywedodd y perchennog Paul Mear,

“Mae’n bleser mawr cyhoeddi y bydd Becws Tan Y Castell yn cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Masnach â Singapôr, menter sy’n cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru. Mae ein hymweliadau blaenorol yn Japan, De Corea ac Awstralia, boed yn bersonol neu’n rhithwir, yn dyst i’r cynllunio rhagorol a’r partneriaethau strategol sy’n cael eu meithrin drwy’r digwyddiadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi hwyluso cyflwyniadau ystyrlon i ddosbarthwyr a phartneriaid allweddol yn gyson, gan ein helpu i ehangu i farchnadoedd newydd.”

Oherwydd ei pherthynas gref â’r Deyrnas Unedig, ac fel rhan o’r Gymanwlad, mae ymwybyddiaeth o gynnyrch Cymreig a gwerthfawrogiad o fwyd a diwylliant Prydain yn Singapôr.

Mae Singapôr yn borth i farchnadoedd eraill yn Ne-ddwyrain Asia, a gyda thwf economaidd o 4.6% yn 2021 a chynnyrch domestig gros y pen yn cyrraedd dros £58,000, mae gan bobl leol bŵer prynu uchel felly mae marchnad ar gyfer cynhyrchion Cymreig crefftus o safon uchel yn bodoli.

Mae datgloi marchnadoedd newydd yn dod â hyd yn oed mwy o gyfleoedd i'r busnesau hyn nid yn unig i arddangos eu cynnyrch o safon ledled y byd, ond hefyd i gynhyrchu mwy o refeniw a chynyddu elw.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo eich busnes gydag allforio, ewch i https://:busnescymru.llyw.cymru/allforio

Share this page

Print this page