Wedi’i lansio gan y National Skills Academy for Food and Drink (NSAFD) a’r Food and Drink Federation (FDF), bydd y Pasbort Gyrfaoedd yn cyflymu’r broses o’ch rhoi ar restrau byr am gyfweliadau a chynefino mewn swyddi newydd, gan arbed amser ac arian i wneuthurwyr, a rhoi talent newydd awyddus ac ymroddedig ar y trywydd cyflym i mewn i’r sector

Ymgynullodd cynulleidfa o Aelodau Seneddol, Gweision Sifil a phobl ddylanwadol o’r byd gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, yn ogystal â’r Gweinidog Seneddol Victoria Prentis, i glywed y cyhoeddiad a siarad am eu rôl mewn datblygu, treialu ac addo i gefnogi a chymeradwyo’r Pasbort Gyrfaoedd Bwyd a Diod.

Dywedodd Louise Cairns, Prif Weithredwr yr NSAFD:

“Mae’r Pasbort Gyrfaoedd Bwyd a Diod yn cynrychioli newid mewn sut y mae’r diwydiant yn agor ei ddrysau i dalent newydd awyddus. Mae’n dystiolaeth gadarnhaol bod deiliaid y Pasbort wedi penderfynu ceisio gyrfa mewn bwyd a diod ac wedi gweithio’n galed i brofi hynny.

“Mae mwy a mwy o gwmnïau yn cydnabod y gwerth sydd gan y Pasbort i’w gynnig - i’w busnes ac i geiswyr swyddi. Ochr yn ochr â’r FDF, mae maint y diddordeb a’r ymrwymiad gan y diwydiant wedi ein plesio’n fawr ac rydyn ni’n sicr y bydd y lansiad swyddogol yn gwneud y Pasbort yn rhan gyfarwydd o strategaethau recriwtio’r dyfodol.”

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynllun peilot Pasbort cenedlaethol cynhwysfawr yn ogystal â chynllun peilot yn 6 Carchar Cymru.

Mae’r cyflogwyr o Gymru yn cynnwys Castell Howell, Mona Dairy, Halen Môn, Glanbia, R F Brookes, Hufenfa De Arfon, O P Chocolate a Llaeth y Llan yn ogystal â chwmnïau llai megis In the Welsh Wind, Tan y Castell, Brød Danish Bakery ac maen nhw i gyd yn gweld y buddion y bydd y cynllun yn ei roi i’w busnesau. Mae hefyd wedi’i gefnogi gan BIC Innovation, Levercliff a sefydliadau eraill er mwyn helpu hyrwyddo’r sector fel dewis gyrfa ac rydyn ni’n falch iawn o gael cefnogaeth y DWP, Elusennau, Awdurdodau Lleol a Cholegau i helpu hyrwyddo’r sector Bwyd a Diod fel dewis gyrfa yng Nghymru.

Dywedodd Arwyn Watkins Cadeirydd/Rheolwr Gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian:

Byddwn yn annog ein partneriaid busnes a’n rhanddeiliaid yn weithredol i gefnogi ac ymrwymo.

Dywedodd Linda Grant o BIC Innovation:

Cofrestrodd BIC Innovation ar gyfer yr Addewid Pasbort Gyrfaoedd fel y gallwn chwarae ein rhan mewn annog mwy o bobl i ymuno â’n sector Bwyd a Diod Cymreig arbennig a chanfod gyrfaoedd diddorol a llawn cyffro yn y sector.

Dywedodd Rheolwr AD Mona Dairy, Sarah Croud:

 “Mae’r cynllun yn gefnogaeth enfawr i’r diwydiant bwyd, gan gefnogi gweithwyr cyfredol o fewn y sector ac hefyd darparu’r hyfforddiant hanfodol angenrheidiol i bobl sy’n edrych i ymuno â’r diwydiant bwyd.

Fel arwydd o lansiad Pasbortau Gyrfaoedd, cynhaliodd yr NSAFD a’r FDF derbyniad ar y cyd yn Nhŷ’r Cyffredin lle bu ceiswyr swyddi, gwneuthurwyr ac Aelodau Seneddol yn trafod ffyrdd o helpu’r sector i recriwtio staff newydd a sicrhau llwyddiant y cynllun.

I addo cefnogaeth eich busnes neu am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r Pasbortau Gyrfaoedd, ewch ihttps://fdcp.co.uk/join-our-pledge/ (Saesneg yn unig)

Share this page

Print this page