Mae busnesau bwyd a diod bach a chanolig eu maint yng Nghymru ar fin elwa ar brosiect rhyngwladol €1.2 miliwn sy'n cael ei gyllido trwy raglen Ardal yr Iwerydd Interreg i ehangu eu gwybodaeth a'u gallu i ateb y galw cynyddol am fwyd iach newydd.

Mae prosiect Ecosystem Bwyd Iach yr Iwerydd (AFHES), sy'n cael ei gyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gynnal gan BIC Innovation yng Nghymru, yn dod â phartneriaid ynghyd o Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Iwerddon a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys rhanbarthau Galicia, Llydaw a Gwlad y Basg.

Amcan y rhaglen yw helpu busnesau bwyd a diod o Gymru yn rhanbarth Ardal yr Iwerydd i fod yn fwy cystadleuol trwy roi'r sgiliau a'r cyfleoedd i rwydweithio sydd eu hangen arnyn nhw i ddatblygu cynnyrch newydd a marchnadoedd newydd, trwy hyfforddiant, mentora a chynghori.

Bydd y rhwydwaith o gwmnïau a sefydliadau sy'n perthyn i'r bartneriaeth ryngwladol newydd yn rhannu gwybodaeth, arbenigeddau ac arferion gorau â'i gilydd i ateb gofynion marchnadoedd allweddol.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Mae yna gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn y galw am fwyd iach arloesol. Rydyn ni am helpu busnesau bach a chanolig i fanteisio ar y cyfleoedd newydd hyn a bydd y prosiect rhyngwladol newydd hwn yn eu helpu i wneud hynny.

"Bydd y rhaglen hon, sy'n cael ei noddi gan yr UE gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn helpu ein busnesau bach a chanolig i fod yn fwy cystadleuol ac i gynyddu'u gwerthiant yn y sector newydd hwn.  Yr un pryd, bydd yn cryfhau'n perthynas â rhanbarthau eraill yn Ewrop, rhywbeth mor bwysig y dyddiau hyn."

Share this page

Print this page