Mae casgliad o ryseitiau sy’n dod â bwydlen o brydau o bob rhan o’r byd ynghyd i ddathlu amrywiaeth cymuned pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru wedi ennill gwobr fyd-eang adnabyddus. Mae ‘The Melting Pot’ gan Maggie Ogunbanwo, wedi ennill gwobr Y Gorau yn y Byd yn y Gwobrau Gourmand World Cookbook yn y categori mudwyr.

Gwobrau Gourmand World Cookbook yw'r cystadlaethau rhyngwladol mwyaf yn y sector bwyd, gyda 227 o wledydd a rhanbarthau yn cystadlu. Wedi'i sefydlu ym 1995 gan yr arbenigwr coginio dylanwadol o Sbaen, Edouard Cointreau, mae'r gwobrau'n anrhydeddu'r llyfrau bwyd a gwin gorau, yn rhai wedi'u hargraffu neu rai digidol, yn ogystal â rhaglenni teledu bwyd, ac maen nhw wedi'u cymharu ag Oscars y genre llenyddiaeth bwyd.

Syniad Maggie Ogunbanwo yw ‘The Melting Pot’, sydd â’i gwreiddiau yn Nigeria, ond sydd bellach yn byw yng ngogledd Cymru, ac yn rhedeg ei busnes ei hun o’r enw ‘Maggie’s An African Twist to your Everyday Dish’, yn gwneud cynhyrchion bwyd Affricanaidd, fel sbeisys a sawsiau.

Wrth sôn am ennill y wobr dywedodd Maggie, “Mae ennill y wobr hon yn freuddwyd wedi dod yn wir. Alla i ddim credu’r peth, mae’n anrhydedd go iawn i ennill, ac i fod ymhlith y llyfrau coginio gorau yn y byd, mae’n wirioneddol anhygoel!

“Mae’r llyfr yn ddathliad o’r ryseitiau amrywiol a gyfrannwyd gan aelodau o’r gymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. 

Mae’r ryseitiau’n dwyn ynghyd flasau, ysbrydoliaeth a thraddodiadau o Bali i Zimbabwe a’r straeon cyfoethog y tu ôl i bob pryd, gan gydnabod bwyd fel iaith gyffredinol y gallwn ni i gyd gyfathrebu a rhannu drwyddi.”

“Hoffwn ddiolch i’r 16 cyfrannwr arall a helpodd fi i feddwl am y ryseitiau gwych hyn, yn ogystal ag Is-adran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru am eu ffydd a’u cymorth gyda’r llyfr hwn. Ni fyddai wedi bod yn bosibl hebddynt.”

Lansiwyd y llyfr coginio gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths mewn lansiad rhithwir ym mis Mawrth y llynedd.

Meddai’r Gweinidog: “Llongyfarchiadau mawr i Maggie sy’n parhau i wneud gwaith rhagorol yn arddangos y Gymru gyfoes drwy lygaid y rhai yn y gymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.

“Mae ‘The Melting Pot’ yn atgyfnerthu ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol, ac rwy’n falch iawn bod Maggie wedi cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu.”

Mae'r casgliad o ryseitiau yn dwyn ynghyd flasau, ysbrydoliaeth a thraddodiadau o Bali i Zimbabwe a'r straeon cyfoethog y tu ôl i bob pryd. Ymhlith y ryseitiau mae Ffriterau Pysgod Hallt o Jamaica; Kibbeh wedi’u Stwffio o Syria; Reis Jollof Cyw Iâr o Nigeria; Macher Jhol o Fangladesh a Cawl Ajiaco Fegan o Golumbia.

Mae’r 16 cyfrannwr i ‘The Melting Pot’ yn cynnwys Charmaine ac Earl Smikle; Isabelle, Feryal A, Rehana N a Jenan Al-Shebibi (Women Connect First); Latifa Al Najjar (Syrian Dinner Project); Valerie Creusailor; Wayne Booth; Yve a Lascelles Forrest; Bernie Davies; Chioma Njoku; Derin Omole (Twale Cuisine); Justina John; Omo Idegun (Cymdeithas Affrica Wrecsam); Peter Merezana ac Intan Permata.

Graddiodd Maggie o Brifysgol Lagos yn Nigeria gyda Bsc Anrh mewn Microbioleg. Dilynodd PgD mewn Rheoli Lletygarwch, yn ogystal â TAR mewn Arbenigedd Bwyd. Mae hi wedi cyflawni nifer o swyddi rheoli o fewn a thu allan i'r diwydiant bwyd. Yna symudodd ymlaen i sefydlu a rhedeg ei busnes ei hun.

Mae Maggie hefyd yn aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ac mae’n gallu defnyddio ei phrofiad o weithio gyda busnesau bach a chanolig a gwybodaeth amrywiol am fwydydd Affrica a’r byd.

Share this page

Print this page