Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn arddangos eu cynhyrchion dros gyfnod y Nadolig trwy gyfrwng cân, gyda fersiwn arbennig o ‘Deuddeg diwrnod y Nadolig’.

Fel rhan o ymgyrch Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste i annog siopwyr i brynu cynhyrchion o Gymru’r Nadolig yma, cymerodd llu o gynhyrchwyr ran mewn fideos yn cynnwys fersiwn arbennig o ‘Deuddeg diwrnod y Nadolig’.

Perfformiwyd y geiriau dwyieithog gan grŵp o gantorion o Dde Cymru - a daeth y grŵp o wyth at ei gilydd yn arbennig ar gyfer ymgyrch Nadolig #CaruCymruCaruBlas.

Maen nhw’n aelodau o C.Ô.R (Côr Osian Rowlands), côr cymysg a ffurfiwyd yn wreiddiol i godi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Caerffili 2015. Mae’r côr nawr yn gwneud gwahanol brosiectau corawl, gan gynnwys traciau sain ar gyfer ffilmiau a digwyddiadau elusennol.

Trefnwyd fersiwn #CaruCymruCaruBlas o ’Deuddeg diwrnod y Nadolig’ gan arweinydd y côr Osian Rowlands a recordiwyd y gân yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd.

Mae'r cynhyrchwyr wedi recordio fideos 'Nadolig Llawen/Merry Christmas' sydd, ynghyd â fideos 'Deuddeg Diwrnod y Nadolig' hefyd i'w gweld ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnodau #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste - neu trwy ddilyn y ddolen hon https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/LoveWalesLoveTaste

Daw'r cwmnïau sy'n cymryd rhan* o bob cwr o Gymru a'r sector bwyd a diod, ac maen nhw’n cynnwys cynhyrchwyr bach, crefftus yn ogystal â busnesau mwy.

Lansiwyd ymgyrch Bwyd a Diod Cymru #CaruCymruCaruBlas Llywodraeth Cymru i ddechrau yn ystod haf 2020 fel ffordd o ddiolch i'r rhai sy'n gweithio ddydd a nos i fwydo'r genedl yn ystod y pandemig coronafeirws.

Wedi'i groesawu gan fusnesau o bob rhan o sectorau bwyd a diod Cymru cydiodd yr ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yn nychymyg y cyhoedd a denodd gefnogaeth gan enwogion ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Wrth fwyta allan a siopa ar gyfer y Nadolig, mae pobl yn cael eu hannog i chwilio am gynhyrchion bwyd a diod o Gymru. Mae cyfoeth o gynnyrch o Gymru ar gael yn rhwydd ar fwydlenni, mewn archfarchnadoedd ac mewn siopau’r stryd fawr - hefyd ar-lein gan ddefnyddio adnoddau megis map cynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru a grëwyd gan Cywain (cywain.cymru).

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, “Dechreuodd #CaruCymruCaruBlas fel ‘diolch’ i’r rhai sy’n gweithio yn niwydiant bwyd a diod Cymru. Ond mae wedi tyfu i fod yn ffordd drawiadol a newydd i arddangos sector bwyd a diod bywiog Cymru a rhai o’r cynhyrchion rhagorol sydd ar gael.

“Mae yna llawer iawn o ddewis wrth brynu mewn siopau ac ar-lein, ac wrth fwyta allan. Gobeithio y bydd pobl y Nadolig yma yn cefnogi busnesau Cymru yn ystod cyfnod hynod bwysig i gynhyrchwyr bwyd a diod.”

 

Share this page

Print this page