Mae dirprwyaeth o ganolfannau bwyd Cymru, dan arweiniad Is-adran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, wedi ymweld â Singapôr i fynychu Uwchgynhadledd Twf Asia 2022 a chwrdd â busnesau bwyd a diod o Singapôr a rhai rhyngwladol gyda’r nod o hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer eu buddsoddiad.

 

Roedd datblygu cyfleoedd ar gyfer arloesi cydweithredol a chodi proffil TasteWales/BlasCymru, digwyddiad bwyd a diod blaenllaw Cymru, yn hollbwysig i’r tîm.

 

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

 

“Mae arddangos ein galluoedd bwyd a diod ar lwyfan byd-eang yn hanfodol i ddenu mewnfuddsoddiad. Mae sefydlu cysylltiadau a meithrin perthnasoedd ym marchnad Asia yn hanfodol ar gyfer twf y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

 

“O 2014 i 2020 fe wnaethom osod targed uchelgeisiol i ni ein hunain o dyfu gwerth y diwydiant i dros £7bn. Gyda’n gilydd fe wnaethom gyflawni a rhagori ar y nod hwnnw ac rydym nawr yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Ein nod yw gweld gwerth trosiant sector gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru yn cynyddu’n gymesur bob blwyddyn na gweddill y DU, i o leiaf £8.5bn erbyn 2025.

 

“Roedd Uwchgynhadledd Twf Asia yn llwyfan gwych i amlinellu ein huchelgais i ddatblygu un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cynaliadwy yn y byd tra hefyd yn gallu ymgysylltu â busnesau bwyd aml-ryngwladol. Rydym eisiau creu sector bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol cyfrifol yn y byd.”

 

Yn ystod Uwchgynhadledd Twf Asia 2022 cyflwynodd y cynrychiolwyr Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ymgyrch Pwysau Iach Cymru Iach a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i gydweithio rhwng prifysgolion, busnesau a’r llywodraeth i lunio diwydiant bwyd y dyfodol, gan godi amlygrwydd Cymru i bob pwrpas.

 

Wrth ymweld â rhai o sefydliadau economaidd a bwyd cenedlaethol Singapôr, llwyddodd y grŵp i ddatblygu a chryfhau perthnasoedd ac yn Labordy Gwyddorau Bywyd Temasek, archwiliodd y cynrychiolwyr y cyfleoedd i sefydlu cysylltiadau â Labordy Cenedlaethol Singapôr ac IBERS yn Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, a Chanolfannau Arloesi Bwyd yng Nghymru.

 

Drwy gydol yr ymweliad bu’r cynrychiolwyr hefyd yn hyrwyddo TasteWales/BlasCymru 2023, gyda’r nod o ddenu busnesau a sefydliadau o Singapôr i fynychu’r digwyddiad yng Nghymru.

Share this page

Print this page