Mae fflapjacs ag elfen Gymreig gan fecws yng ngogledd Cymru, Siwgr a Sbeis nawr ar gael i'w prynu ledled y wlad ar ôl cael eu rhoi ar restr fanwerthu Co-op.

Gallwch brynu pecyn o chwe Fflapjac Bara Brith gan Siwgr a Sbeis yn 33 o siopau Co-op ledled Cymru - y tro cyntaf i'r becws gael ei rhoi ar restr gydol y flwyddyn gan fanwerthwyr mawr.

Bu i'r perchnogion, Rhian Owen a Rhian Williams, gwrdd yn yr ysgol yn Nyffryn Clwyd ac maent wedi troi eu brwdfrydedd tuag at goginio yn fusnes becws hynod lwyddiannus.

Dywedodd Rhian Owen, "Rydym wrth ein bodd bod ein Fflapjacs Bara Brith ar gael i bobl eu prynu a'u mwynhau ledled Cymru. Mae cael ein henw ar restr dros 30 o siopau Co-op yn newyddion gwych ac yn brawf i allu ac ymroddiad ein tîm yn Siwgr a Sbeis.

"Rydym wedi bod yn cyflenwi ein hystod Nadolig i Co-op ers sawl blwyddyn, ac maent wedi bod yn gwerthu ein Fflapjacs Bara Brith ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi hefyd. Ond dyma'r tro cyntaf i ni gael archeb gydol y flwyddyn gan fasnachwr mawr." 

"Gallwch brynu'r Fflapjacs Bara Brith yn siopau Co-op ledled Cymru, gan gynnwys Amlwch, Aberhonddu, yr Hendy-gwyn, a Phorthcawl."

Caiff yr holl fwyd pob eu gwneud gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a'u gwerthu gan lu o westai, bwytai, caffis, a siopau cyfleus. 

Yn fwy diweddar, mae'r cwmni wedi lansio ei wefan newydd, www.siwgrasbeis.com, lle gall cwsmeriaid archebu amrywiaeth o fwyd pob a bocsys te prynhawn, pecynnau pobi gartref a danteithion.

Mae Siwgr a Sbeis wedi bod yn creu a phobi ers 30 o flynyddoedd, gan ddechrau gyda siop fechan yn Llanrwst.

Cyn hir, roedd angen rhagor o le i baratoi teisennau, a phwdinau cynyddol boblogaidd y becws, felly symudasant i adeilad fferm addasedig cyfagos.

Gan ehangu ei weithredoedd yn raddol, mae'r busnes wedi aros yn driw i'w wreiddiau yn Llanrwst, ac mae'r becws bellach wedi'i leoli ar safle 5,000 troedfedd sgwâr, pwrpasol, ar gyrion y dref, sydd wedi'i gymeradwyo gan SALSA. 

Mae 15 o staff llawn amser yn gwneud bwyd pob a phwdinau anfarwol Siwgr a Sbeis - y mae nifer ohonynt wedi ennill sawl gwobr genedlaethol, yn eu plith Fflapjacs Bara Brith a gafodd seren aur gan feirniaid yng ngwobrau'r Great Taste.

Gan greu ryseitiau newydd o hyd, mae'r becws wedi mwynhau sawl uchafbwynt nodedig dros y tri degawd diwethaf. Ymysg y rhain mae cyflenwi Harrods â mins peis meringue almon, anfon pwdinau Nadolig moethus i Awstralia, a chreu teisen ar gyfer priodas yn Ffrainc.

Gydag awydd i ddefnyddio cymaint o gynhwysion Cymreig â phosibl, mae'r busnes wedi magu cysylltiadau â sawl cynhyrchydd adnabyddus. Yn eu plith mae Cwt Tatws, Halen Môn, Caws Cenarth, Hufenfa De Arfon, Welsh Lady Preserves, Aber Falls Gin, Toffoc, a Llaeth y Llan.

Dywedodd Rhian, "Rydym yn gwneud fflapjacs gwreiddiol, ac yn aml yn cynhyrchu amrywiaethau newydd megis cyrains duon a bricyll a chnau Ffrengig. Ond, gwnaethom benderfynu creu Fflapjac Bara Brith oherwydd ei fod yn wahanol a bod ganddo flas Cymreig unigryw.

"Maent yn dod mewn pecyn o chwe sgwâr sy'n wych ar gyfer rhannu ond mae hyn hefyd yn eu gwneud yn anrheg neu swfenîr delfrydol wrth ymweld â Chymru. Maent hefyd ar gael yn unigol sy'n wych ar gyfer picnic, cinio neu Bwyd i Fynd."

Yn aelod o Glwstwr Bwyd Da Bwyd a Diod Cymru, daw llwyddiant Siwgr a Sbeis i gyrraedd rhestr Co-op ar ôl cyflwyniad drwy raglen datblygu masnach Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: "Dyma newyddion rhagorol i fusnes gogledd Cymru sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y 30 mlynedd diwethaf. Rwyf wrth fy modd bod ymglymiad Siwgr a Sbeis â Rhaglen Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru wedi arwain at y fenter newydd hon gyda Co-op."

Dywedodd Kevin Buchan, Swyddog Cyrchu Lleol, "Mae Co-op i gyd yn ymwneud â chysylltu cymunedau, gwneud gwahaniaeth a chreu gwerth lleol ac felly rydym wrth ein bodd bod cyfle wedi dod i gryfhau ein perthynas â Siwgr a Sbeis ac arddangos eu fflapjacs traddodiadol drwy'r flwyddyn ym mwy na 30 o siopau Cymru.”

Share this page

Print this page