• Bydd y buddsoddiad yn cynyddu capasiti cynhyrchu dros 70%
  • Mae uwchraddio’r safle yn nodi’r buddsoddiad mwyaf erioed gan Princes mewn diodydd ysgafn
  • Mae llinellau cynhyrchu diodydd bach ac oer newydd bellach wedi'u gosod
  • Mae 30 o swyddi wedi'u creu yn ardal Caerdydd, gyda 60 o weithwyr eraill yn ymuno eleni

Mae grŵp bwyd a diod rhyngwladol Princes wedi cwblhau’r cam cyntaf o’i fuddsoddiad arfaethedig o £60 miliwn yn ei safle gweithgynhyrchu yng Nghaerdydd, gan osod saith llinell cynhyrchu diodydd ysgafn newydd o'r radd flaenaf.

Mae safle Princes Caerdydd yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer sudd ffrwythau, sy’n gweithgynhyrchu Princes, Jucee a chynhyrchion o dan labeli cwsmeriaid eu hunain. Ar hyn o bryd mae'r safle'n cynhyrchu pecynnau un litr, sudd amgylchynol, amlbecynnau ac unedau arddangos nwyddau sy’n barod i’w masnachu.

Ar ôl cwblhau'r prosiect – buddsoddiad cyfalaf mwyaf erioed y Grŵp mewn diodydd ysgafn – bydd gan safle Princes Caerdydd y gallu i gynhyrchu diodydd amgylchynol, diodydd bach a diodydd oer, gan gynyddu’r capasiti cynhyrchu cyffredinol dros 70%.

Bydd Princes hefyd yn gallu ehangu ei amrediad o gynnyrch y tu hwnt i sudd ffrwythau a mynd i farchnadoedd newydd, yn ogystal â chyflwyno meintiau a fformatau pecynnu ychwanegol i ateb y galw gan gwsmeriaid. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn lleihau ôl troed carbon Princes drwy gynyddu effeithlonrwydd a defnyddio deunyddiau carton sy'n fwy ecogyfeillgar.

Mae'r safle yn un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, ac mae ei weithrediadau'n cefnogi cannoedd o swyddi rhanbarthol mewn busnesau a diwydiannau sy'n darparu deunyddiau a gwasanaethau crai. O ganlyniad i'r gwaith uwchraddio, mae dros 30 o weithwyr newydd wedi ymuno â Grŵp Princes ar ei safle yng Nghaerdydd, gyda 60 arall i'w recriwtio eleni.

Dywedodd Barry McDonnell, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp Princes "Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein rhaglen fuddsoddi gwerth £60 miliwn yng Nghaerdydd, a fydd yn diogelu'r safle a'n galluoedd gweithgynhyrchu yn y dyfodol, yn cynyddu cynhyrchiant ac yn galluogi Princes i fynd i farchnadoedd newydd. Wrth gwrs, mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn heriol, ond cydweithiodd ein timau prosiect a’n timau gweithredol ymroddedig ar y safle i fabwysiadu arferion diogel o ran COVID-19, wrth weithio i ateb y galw cynyddol gan gwsmeriaid a defnyddwyr am ein cynnyrch a bwrw ymlaen â’r gwaith adeiladu. Rydym wrth ein bodd bod y buddsoddiad sylweddol hwn yn parhau i fod ar y trywydd iawn i'w gwblhau yn 2021 o ganlyniad i'w gwaith caled."

"Drwy'r rhaglen ddatblygu hon, rydym wedi ymrwymo'n gadarn i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy a llwyddiannus i'r diwydiant diodydd ysgafn, ac at weithgynhyrchu ym Mhrydain yn gyffredinol, a darparu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor o ansawdd uchel yn yr ardal."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: "Mae'n wych bod Princes wedi cwblhau’r cam cyntaf o ehangu eu gweithrediadau yng Nghaerdydd yn sylweddol.

"Mae'r newyddion hyn i'w groesawu'n fawr ar ôl blwyddyn mor eithriadol o anodd i'n cynhyrchwyr bwyd a diod a'n heconomi gyfan.

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r prosiect hwn a bydd yn allweddol wrth helpu Princes i fynd i farchnadoedd newydd a chyffrous, cyrraedd eu targedau lleihau gwastraff a chreu cyfleoedd cyflogaeth newydd yn y diwydiant."

Bydd y prosiect buddsoddi yng Nghaerdydd yn parhau drwy gydol 2021, lle bydd y ffatri'n parhau i fod yn gwbl weithredol. Yn ogystal â chyflwyno llinellau cynhyrchu diodydd oer a diodydd bach, bydd y prosiect yn cynnwys gosod a chomisiynu lle ar gyfer storio deunyddiau pacio ac atebion ar gyfer paledi.

Drwy gydol pandemig COVID-19, mae ymroddiad gweithwyr allweddol yn safle gweithgynhyrchu Caerdydd a safleoedd eraill Princes ledled y DU wedi chwarae rhan hollbwysig o ran ateb i’r cynnydd sydyn yn y galw gan gwsmeriaid a defnyddwyr. Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol a mesurau iechyd a diogelwch wedi cael eu rhoi ar waith.

 

 

Share this page

Print this page