Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein deddfwriaeth sefydlu yma yng Nghymru ac i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei thargedau ar gynaliadwyedd, mae prosiect Sgiliau Bwyd Cymru a gyflenwir gan Lantra, wedi gweithio’n ddiweddar ar y cyd â Cynnal Cymru ac Eco Studio i ddatblygu Rhaglen Hyfforddiant Cynaliadwyedd yn benodol ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod.

 

Pwrpas y cwrs hyfforddi yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i gyfranogwyr ddatblygu systemau a gweithredoedd sy'n briodol i'w sefyllfa, ac sy'n mynd i'r afael â rheolaeth amgylcheddol ac effaith gymdeithasol.

 

Mae modiwlau 1 i 3 yn mynd i’r afael ag elfennau penodol cynaliadwyedd gan gynnwys datgarboneiddio, dim gwastraff, cymorth i systemau naturiol, cyflogaeth deg a chyfrifol, llesiant cymdeithasol a staff, ac effaith gymunedol. Tra bydd modiwlau 4 i 6 yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu eu strategaeth gynaliadwyedd bwrpasol eu hunain, gan integreiddio’r elfennau penodol i ddull cyfannol, hirdymor a fydd yn cyd-fynd â pholisi’r llywodraeth ar lefel Cymru a’r DU, sy’n cyd-fynd â strategaethau cynaliadwyedd corfforaethau mwy, ac yn apelio at gwsmeriaid.

 

Mae'r cwrs yn rhoi llawer o gyfle i gyfranogwyr drafod, i gymryd rhan mewn gwaith grŵp ac i ddysgu gan eu cyfoedion. Mae’r dysgu yn gymhwysol yn hytrach na damcaniaethol, a mesurir llwyddiant gan ganlyniadau ymarferol. Mae'n ofynnol i bawb sy'n cymryd rhan gynhyrchu strategaeth datblygu cynaliadwy sy'n briodol i'w busnes erbyn diwedd y cwrs.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hyfforddi neu'r cyllid sydd ar gael cysylltwch â Sgiliau Bwyd Cymru

 

www.sgiliaubwyd.cymru         wales@lantra.co.uk

Share this page

Print this page