Dywed llais sector bwyd a diod Cymru (Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru) fod busnes yn ffynnu yng Nghymru diolch i enw da Cymru am gynhyrchu cynnyrch ffres a naturiol.  Mae’n dweud hefyd a bod cwsmeriaid o bob rhan o wledydd Prydain yn galw am gael rhagor o gynnyrch o Gymru ar silffoedd yr archfarchnadoedd.  

 Dyma ddywed ymchwil a gyhoeddwyd yn adroddiad ‘Gwerth Cymreictod’ sy’n dangos fod galw cryf gan siopwyr o bob rhan o wledydd Prydain am gynnyrch o Gymru.  Mae hefyd yn dangos y byddai'n well gan bron i hanner poblogaeth Prydain brynu cig oen a brand Cymru arno nag unrhyw gig oen arall.   

A bydd y galw am gynnyrch a brandiau o Gymru yn cael ei drafod yn y Sioe Fawr sy’n cael ei chynnal rhwng Llun 23 Gorffennaf - Iau 26 Gorffennaf.  Eleni, bydd Nigel Barden, cogydd ar y rhaglen Drivetime ar BBC Radio 2, yn arwain digwyddiad arbennig ar gyfer aelodau o ddiwydiant bwyd Cymru.  Bydd y cogydd teledu a’r cyn werthwr gwinoedd yn sgwrsio â chynrychiolwyr o Waitrose, Asda, Co-op, Marks and Spencer, Sainsbury’s ac Aldi ynghylch eu profiadau o weithio gyda chynhyrchwyr o Gymru ac yn trafod pan fod cynnyrch Cymru mor boblogaidd gyda siopwyr.  

Bydd Bwrdd Bwyd a Diod Cymru a Chonsortiwm Mân-werthu Cymru yn cydweithio i gynnal y digwyddiad a fydd yn amlygu amrywiaeth ac ansawdd cynnyrch Cymru.  Bydd Nigel Barden hefyd yn hyrwyddo cystadleuaeth goginio rhwng dau o gogyddion gorau Cymru a fydd yn defnyddio'r cynnyrch o Gymru sydd ar gael mewn archfarchnadoedd ledled gwledydd Prydain.  

Wrth siarad cyn y digwyddiad, meddai'r darlledydd bwyd a diod y BBC, Nigel Barden:  “Fel cenedl, mae Cymru’n dda gyda bwyd ac mae'n amlwg fod mân-werthwyr yn teimlo hynny hefyd gan fod y galw am gynnyrch o Gymru’n dal i dyfu.  Mae defnyddwyr a mân-werthwyr yn gwerthfawrogi adnabyddiaeth cryf bwyd a diod o Gymru a’r ansawdd y mae’n ei gynrychioli.  Gyda chefnogaeth cynrychiolwyr y diwydiant megis Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, bydd y sector yn dal i fynd o nerth i nerth.  Rwyf wrth fy modd y byddaf yn arddangos popeth sydd gan Gymru i'w gynnig i rai o fân-werthwyr amlycaf gwledydd Prydain ac yn hyrwyddo llwyddiant cynnyrch gwych Cymru”.

Bydd y digwyddiad yn y Sioe, dathliad blynyddol ffermio Cymru, yn cynnwys 200 o gynhyrchwyr bwyd a diod gan gynnwys Braces Bakery a Hilltop Honey. Mae’n cael ei gynnal yn y Lolfa Fusnes yn Neuadd Fwyd y sioe ac mae’n rhan o strategaeth Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i hyrwyddo tŵf a chynaliadwyedd yn y diwydiant.  

Meddai Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:  “Mae yna berthynas waith arbennig rhwng Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Llywodraeth Cymru a Chonsortiwm Mân-werthu Cymru.  Mae’r fath berthynas yn hanfodol gan ei fod mewn gwirionedd yn cyfuno’r gadwyn gyflenwi i sicrhau fod bwyd a diod Cymru’n cymryd eu priod le fel rhan gyffrous ac iach a ddeiet nid yn unig pobl Cymru ond hefyd pobl gwledydd Prydain a'r farchnad allforio.  Rwyf wrth fy modd fod y Bwrdd yn gweithio gyda Chonsortiwm Mân-werthu Cymru heddiw ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod cymaint o randdeiliaid â phosibl yn y digwyddiad.

 I gael rhagor o wybodaeth ynghylch ‘Gwerth Cymreictod’ ewch i <https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/sites/foodanddrink/files/documents/value_of_welshness.pdf>  

Share this page

Print this page