Arloesi a buddsoddi ar frig yr agenda mewn cynhadledd bwyd a diod - 2 Tachwedd, 2016
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod uchelgeisiol o bob rhan o Gymru’n cael eu hannog i fynychu cynhadledd fydd yn edrych ar arloesi a chyfleoedd ariannu cefnogol, er mwyn ceisio tanio twf o fewn y diwydiant. Cynhelir y Gynhadledd Arloesi a Buddsoddi Mewn Bwyd ar Gyfer Tyfu, a drefnir gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ac a fydd dan arweiniad gohebydd economaidd BBC Cymru, Sarah Dickins, ar 2 Tachwedd yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd a’r gobaith...