Bydd cynhyrchwyr sudd a busnesau diodydd meddal yn ymuno â bragwyr a gwinllannoedd mewn clwstwr diodydd newydd sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru.

Cyhoeddir y clwstwr yn swyddogol yn nigwyddiad Bwyd a Diod Cymru BlasCymru/TasteWales ar 23 Mawrth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, a bydd yn elfen allweddol o gynllun economaidd tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bwyd a diod.

Ar hyn o bryd mae cynhyrchwyr cwrw, seidr, dŵr potel, sudd a gwin yn gweithredu ledled Cymru a bydd y rhwydwaith clwstwr newydd yn dod â chynhyrchwyr o bob maint a lleoliad at ei gilydd i ymdrin â materion y sector cyfan, rhannu ymarfer gorau a datblygu a thyfu’r sector diodydd.

Bydd croeso i holl fusnesau diodydd Cymru ymuno, gydag amrywiaeth o drafodaethau a gweithgareddau i sbarduno arloesi pellach yn ogystal â datrys problemau cyffredin yn y sector.

Bydd y clwstwr newydd yn ymuno â nifer sydd eisoes yn bodoli dan Bwyd a Diod Cymru, fel y clwstwr bwyd môr, clwstwr nutricymru a chlwstwr bwydydd da, er mai dyma’r cyntaf o’i fath i’r sector diodydd.

Mae’r clystyrau’n gysylltiedig â nifer o fentrau ehangach a gefnogir gan Lywodraeth Cymru fel Arloesi Bwyd Cymru, gan gynnig llwyfan a gwybodaeth i fusnesau allu goresgyn rhwystrau cyffredin a manteisio ar gyfleoedd masnachol. Bydd gweithgareddau’n cynnwys rhannu adnoddau, peilota gwasanaethau newydd a chyrchu ymchwil newydd.

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC cyn y lansiad swyddogol:

“Mae ein clystyrau presennol wedi profi’n ffordd lwyddiannus i greu rhwydwaith ar draws amrywiol is-sectorau bwyd a diod i wella ymarfer gorau, rhannu syniadau a datblygu busnesau gyda’n gilydd. Gyda lansio’r clwstwr diodydd, rwy’n edrych ymlaen at weld y diwydiant diodydd yng Nghymru’n parhau i ffynnu a thyfu yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Andy Richardson,

“Mae sector diodydd Cymru’n hynod o amrywiol gyda degau o fusnesau mawr a bach yn cynhyrchu pob math o ddiodydd alcoholig a meddal. Mae’r clwstwr newydd hwn yn llwyfan rhagorol ar gyfer cyfathrebu ar draws sectorau a bydd o fudd i bob cynhyrchydd yn unigol yn ogystal â gwthio’r diwydiant cyfan yn ei flaen.”