Croeso i Adran Aelodau Bwyd a Diod Cymru - y rhan o'r wefan lle caiff tanysgrifwyr weld deunydd unigryw a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu twf a ffyniant y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Pam cofrestru?

Mae aelodau'n cael gweld:

  • Llyfrgell helaeth o adroddiadau am ddefnyddwyr a siopwyr sy'n cynnig llu o awgrymiadau ac yn rhoi cipolwg ar y farchnad fanwerthu a'r farchnad oddi allan i'r cartref.
  • Cipolwg ar yr hyn a ddysgir gan bartneriaid data o safon fyd-eang, gan gynnwys: Kantar Worldpanel a Kantar Consulting, y Sefydliad Dosbarthu Nwyddau Groser (IGD), CGA gan NielsenIQ, TheFoodPeople ac Euromonitor.
  • Cael gweld deunyddiau o Gynadleddau Blynyddol y Rhaglen Fewnwelediad.
  • Rhagor o brosiectau manwerthu ac ymchwil a gynhelir gan Bwyd a Diod Cymru, er enghraifft, cyfres o waith ar Werth Cymreictod.