Mae’r Gyfnewidfa Entrepreneuriaeth yma i ddwyn ynghyd bartneriaid er budd Entrepreneuriaeth Ieuenctid yng Nghymru. Gall rhieni, athrawon, pobl yn y byd academaidd neu aelodau o sefydliadau partner edrych ar yr wybodaeth er mwyn gweld sut y gallant gefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud. Rydym wedi creu rhestr o bartneriaid, adnoddau a hefyd restr o waith ymchwil a chyhoeddiadau ynghylch entrepeneuriaeth ynghyd â gwybodaeth am ein gwasanaethau, cystadlaethau a sut i gymryd rhan fel model rôl, oll yn yr un lle. Mae croeso i chi gysylltu â mi os credwch fod rhywbeth ar goll!
Uchelgais Syniadau Mawr Cymru yw cefnogi entrepreneuriaid ifanc, p’un a ydyn nhw’n newydd i daith yr entrepreneur, neu’n dymuno dechrau busnes nawr. Os ydych chi’n gweithio gyda pherson ifanc sydd eisiau gwybod mwy, ystyriwch rai o’r adnoddau canlynol wrthym ni sydd ar gael iddyn nhw
Cyfeiriwch nhw at Rhyddhau Syniadau Mawr
Gall pobl ifanc gael mynediad i sesiynau un i un gyda chynghorydd busnes, arweiniad cychwyn busnes a mynediad i'r offeryn rheoli busnes 'Simply Do Ideas'
Cyfeiriwch nhw at Newyddlen Syniadau Mawr Cymru
"Ydych chi’n barod i gwrdd â chynghorydd" Rhestr wirio
dysgwch a ydy’ch entrepreneur ifanc yn barod i gwrdd ag un o’n cynghorwyr busnes, ac os felly sut allwn ni eu helpu i gyflawni hynny
Ffurfioli cynlluniau a syniadau - Simply Do
Mae Simply Do yn galluogi entrepreneuriaid ifanc i weithio drwy eu syniadau a’u prosesu’n gydlynus er mwyn deall yn llawn beth ddylai eu camau nesaf fod. Cofrestrwch i fanteisio ar hyn.