Eifion Pughe
Ffrem Cilywinllan, North Montgomeryshire
Gyda hafau sychach a chostau mewnbwn amrywiol ar gynnydd, mae Eifion a Menna yn awyddus i weld a allan nhw dyfu perlysiau a meillion gyda'u gwndwn glaswellt i gynyddu goddefgarwch i sychder ochr yn ochr â lleihau'r angen i brynu gwrtaith.
Wrth iddyn nhw ragweld mai’r ffordd ymlaen fydd cyflwyno perlysiau a chymysgeddau codlysiau i'w glaswellt, bydd y prosiect yn ymchwilio i ba ddull sefydlu sydd fwyaf effeithiol ac effeithlon i sefydlu gwyndwn cymysg newydd. Bydd y prosiect yn cymharu:
- Llwyddiant sefydlu’r gwyndwn cymysg
- Cost sefydlu ar draws gwahanol fethodolegau
- Effaith ar fioleg y pridd a gaiff ei mesur trwy fonitro’r cyfrif llyngyr ym mhob llain
Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
- Cefnogi gwelliant mewn storio carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
- Cynnal a gwella'r ecosystem