5 Tachwedd 2021

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae dwy rywogaeth o fuail, y rhywogaeth Americanaidd a’r un Ewropeaidd
  • Mae gan y rhywogaethau Americanaidd niferoedd llawer uwch ac mae’r pwyslais yn dechrau symud oddi wrth gadwraeth yn unig tuag at eu defnyddio fel adnodd bwyd.
  • Mae buail yn cynnig cig gwahanol a all fod yn iachach na gwartheg gyda chyfraddau cynhyrchu bwyd tebyg os nad gwell
  • Un rhwystr sylweddol sy’n atal ffermio buail yw eu bod yn dueddol iawn o ddioddef twymyn catâraidd drwg ac mae gwybodaeth o’r Deyrnas Unedig am ei reoli ac effeithiolrwydd y brechiad yn hanfodol

 

Ychydig o gefndir y buail

Mamaliaid cnoi cil mawr yw buail y mae dim ond dwy rywogaeth ohonynt yn parhau ar hyn o bryd, Bison bison ( Y buail Americanaidd) a Bison bonasus (Y buail Ewropeaidd). Mae’r buail Americanaidd yn llawer mwy niferus (300-500,000) na’r buail Ewropeaidd (7-8,000) ond yn y gorffennol mae’r ddau wedi eu gwthio nes diflannu bron trwy or-hela eang. Oherwydd bod buail Americanaidd yn cael rôl gynyddol amlwg o ran cynhyrchu cig, lledr, cynnyrch llaeth a gwlân, ystyrir bod llai na 10% o gyfanswm y niferoedd yn cael eu hystyried yn wyllt heddiw gyda’r rhan fwyaf yn cael eu rheoli ar ffermydd. Mae hyn yn groes i’r sefyllfa o ran buail Ewropeaidd lle mae dwy ran o dair ohonynt yn pori’n rhydd mewn parciau natur cenedlaethol yn aml. Ond, er gwaethaf hyn, mae llawer wedi nodi bod y cynefinoedd y mae buail Ewropeaidd yn cael eu rheoli ynddynt yn golygu bod angen porthiant ychwanegol gan bobl sy’n gwneud llawer o’r boblogaeth “wyllt” yn debycach i rai sy’n cael eu ffermio.

 

Yn Ewrop, nodwyd bod y buail Ewropeaidd yn aml yn cael eu gweld fel arbenigwyr y fforestydd mewn cymhariaeth ag anifeiliaid sy’n pori fel eu cefndryd Americanaidd, ond mae llawer yn credu bod hyn yn deillio o’r ffaith bod buail wedi eu gorfodi i’r coedwigoedd a chael eu cadw yno oherwydd y bygythiadau yr oeddent yn eu hwynebu (gor-hela). Fel y cyfryw, yn y dyfodol gall gadael i fuail grwydro’n rhydd ar dir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer ailwylltio ar draws Ewrop fod yn ddewis posibl. Y cysyniad yw y gallant chwarae rhan yma o ran adferiad ecolegol y tir hwn yn hytrach na’r effeithiau ecolegol niweidiol sydd wedi cael eu gweld mewn cynefinoedd coediog. Yn y Deyrnas Unedig mae cadwraeth ac arallgyfeirio ar y gweill ar gyfer y rhywogaeth yma hefyd gyda phrosiect ar y ffordd i ddwyn buail crwydrol i chwarae rhan mewn ecoleg ac fel ffynhonnell refeniw wahanol trwy gynnig teithiau i ymwelwyr. Er ei fod yn swnio’n radical o bosibl mae’r syniad hwn wedi cael ei gynnig fel un i’w symud ymhellach eto trwy gyflwyno mega-lysyswyr yn ôl i diriogaethau hanesyddol blaenorol ar draws Ewrop gan gynnwys eliffantod ar gyfer rheoli ecosystemau.

 

Mae’n hysbys bod buail Americanaidd yn tyfu’n drymach na’u cefndryd Ewropeaidd, ac mae eu niferoedd yn uwch, ond efallai mai’r ffaith eu bod yn haws i’w dofi yw’r rheswm eu bod yn cael eu hystyried ar gyfer cynhyrchu cig yn llawer mwy cyffredin. Nodir bod buail yn well na gwartheg am ddefnyddio porthiant o safon isel a all weithredu fel niche y gall y rhywogaeth hon fanteisio arno o safbwynt y Deyrnas Unedig. Nodir bod ffermio buail yn America ac yng Nghanada yn llawer symlach na ffermio gwartheg cyfatebol gydag arddull rheoli llawer llai dwys. Ni ellir helpu buail pan fyddant yn lloea a gwelwyd bod ganddynt gyfraddau marwolaeth isel iawn wrth loea rhwng 1-3% mewn cymhariaeth â cholledion cyfatebol yn yr UDA o 5 -7% mewn gwartheg. Mae gan fuail addasiadau metabolig i allu goddef oerni, gyda lloeau 6 mis oed eisoes yn gallu dioddef tymhered <0°C (gallu nad yw llawer o fridiau o wartheg yn gallu ei gyrraedd nes byddant yn 12 – 16 mis oed) ac awgrymir bod buail yn gostwng eu cyfradd fetabolig yn y gaeaf. Gall hyn fod yn fuddiol iawn i gyfateb â’r lleihad yn argaeledd bwyd yn y gaeaf a helpu i hwyluso pori trwy’r flwyddyn mewn cymhariaeth â rhywogaethau eraill o wartheg sy’n cael eu ffermio (a all fod angen eu rhoi dan do neu borthiant ategol). Mae buail yn gweithredu’n dda fel buches unigol ac maent yn hawdd eu symud o un borfa i’r llall sy’n gofyn am lai o weithwyr a gorfodaeth na gwartheg. O ystyried bod buail yn gyfartal o ran pwysau carcas os nad yn uwch ac yn lloea yr un mor aml â gwartheg, un o’r unig brif ystyriaethau eraill i’w cymharu yw’r galw am dir a phorfa. Ar sail data o UDA dangoswyd, yn ddibynnol ar borthiant lleol, ei bod yn bosibl i niferoedd buail gyrraedd lefelau cynhyrchu bîff a mynd tu hwnt iddynt pan fydd y porthiant ar ei orau. Mae hyn yn addawol iawn o ran defnyddio buail yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig o ystyried nad manteision cynhyrchiant bellach yw popeth wrth wneud penderfyniadau ar ffermydd.

 

Cig ar yr asgwrn

Cofnodwyd yn helaeth bod llawer o boblogaeth defnyddwyr y byd yn dod yn fwy ymwybodol o’u diet, gan fynnu llai o gynnwys braster ‘drwg’ a mwy o fanteision iechyd oddi wrth eu bwydydd. Nodwyd y gall cig buail fod yn ddewis iachach na chig eidion oherwydd bod y maetholion ynddo yn wahanol, yn neilltuol llai o fraster (ond mwy o asidau brasterog amlannirlawn “iach”) a phroffiliau colesterol. Felly mae stecen ddi-fraster buail yn llawer nes o ran calorïau i frest cig cyw nag ydynt i doriadau tebyg o gig eidion mewn sawl achos (gweler y tabl isod). Mae cig buail yn nodedig am fod â blas cyfoethog, lliw tywyll ac mae’n brin iawn o fraster, gyda dim ond ychydig o frithder.

 

Cig ar yr asgwrn

Cofnodwyd yn helaeth bod llawer o boblogaeth defnyddwyr y byd yn dod yn fwy ymwybodol o’u diet, gan fynnu llai o gynnwys braster ‘drwg’ a mwy o fanteision iechyd oddi wrth eu bwydydd. Nodwyd y gall cig buail fod yn ddewis iachach na chig eidion oherwydd bod y maetholion ynddo yn wahanol, yn neilltuol llai o fraster (ond mwy o asidau brasterog amlannirlawn “iach”) a phroffiliau colesterol. Felly mae stecen ddi-fraster buail yn llawer nes o ran calorïau i frest cig cyw nag ydynt i doriadau tebyg o gig eidion mewn sawl achos (gweler y tabl isod). Mae cig buail yn nodedig am fod â blas cyfoethog, lliw tywyll ac mae’n brin iawn o fraster, gyda dim ond ychydig o frithder.

   

Calorïau

Braster g/100g

Protein (%)

Colesterol (mg/100g)

Astudiaeth 1 (darn 85 g)

Llygad yr asen Buail

148

2.40

22.1

61

Llygad yr asen cig eidion

180

6.50

22

72

Llygad yr asen Porc

165

4.90

22.3

71

Brest cyw iâr

167

0.70

23.6

62

Astudiaeth 2 (cyhyr longissmus dorsi) anifeiliaid crwydrol

Buail

-

0.011

-

43.8

Cig eidion

-

0.010

-

52.3

Elc

-

0.008

-

50.2

Cyw iâr

-

0.007

-

59.3

Astudiaeth 3

Buail di-fraster

-

2.4

-

-

Cig eidion di-fraster

-

8.1

-

-

Buail mâl

-

7.4

-

-

Cig eidion mâl

-

10

-

-

Astudiaeth 4 (100g llygad yr asen amrwd)

Cig eidion lotiau porthi

274

22.06

17.65

68

Buail lotiau porthi

169

10.56

19.72

39

Cig eidion ar laswellt

230

16.81

16.81

75

Buail ar laswellt

179

9.82

22.32

71

Hyd yn hyn yn y Deyrnas Unedig dim ond llond llaw o ffermwyr sy’n gweithio gyda buail i gynhyrchu bwyd. Mae prisiau’r Deyrnas Unedig (gweler y tabl isod) a awgrymir ar gyfer toriadau cig buail yn llawer uwch na’r gwerthoedd cyfatebol yn yr archfarchnadoedd ar gyfer toriadau cig eidion gan roi syniad o werth uchel y cynnyrch hwn, ond, mae prisiau gwerthu uniongyrchol cig eidion o safon uchel mewn rhai enghreifftiau yn cyfateb neu’n uwch na rhai’r buail.

(£/kg)

Buail

Cig eidion archfarchnad

Cig eidion ar laswellt yn uniongyrchol

Cig eidion ar laswellt yn uniongyrchol (2)

Ffiled o Gig Eidion

54

29.92

66

56.25

Syrlwyn Cig Eidion

36.5

17.03

39.8

33.75

Stecen Ffolen                                             

31.25

13.12

26

25.95

Stecen Mâl                                      

16.33

7.52

13.9

16.5

Mins Gorau                                 

14.8

5.32

11.9

14.5

Fel y nodwyd o’r blaen, mae buail yn llawer gwell am drosi porthiant o safon isel gydag ychydig iawn o lafur felly gallai cymhariaeth uniongyrchol o’r elw gros o ystyried pob mewnbwn ac allbwn newid y gymhariaeth rhwng cig eidion â buail yn hawdd iawn. Mewn astudiaeth yn UDA, dangoswyd bod ffermio buail yn gyffredinol yn rhatach (er gwaethaf y costau uwch ymlaen llaw wrth brynu anifeiliaid) na gweithrediadau lloeau-buchod cyfatebol ac y gallai’r elw cyffredinol fod yn gymaint â 12 gwaith uwch y pen. Ochr yn ochr â hyn, mae gan fuail oes fridio lawer hwy sy’n golygu bod eu cynhyrchiant ar hyd eu hoes yn uwch na gwartheg. 

Tabl wedi ei gymryd o Peyton (2018)

Eitem

Cost Llo-Buwch Bîff (mewn Doleri)

Cost Llo-Buwch Buail (mewn Doleri)

Heffer Gyfnewid

100

150

Costau Porthiant

390.44

228

Costau Amrywiol

147.02

118.95

Costau Sefydlog

168.27

273.6

Cyfanswm Costau

805.74

770.55

Elw (mewn Doleri)

Llo bîff 600 pwys

Llo blwydd buail 575 pwys

 

Am bob 100 pwys

Y pen

Am bob 100 pwys

Y pen

Pris Talu Costau

134.04

804.24

134.14

771.33

Pris Gwerthiant Presennol

154.87

929.33

400

2300

Cyfanswm yr elw

20.83

125.09

265.86

1529

Twymyn catâraidd llidiog (MCF)

Felly pam nad yw buail yn cael eu ffermio yn amlach yn y Deyrnas Unedig? Heblaw’r angen i gynyddu’r farchnad ac ymwybyddiaeth o’r cynnyrch, un o’r rhwystrau mawr yw’r pryder presennol am duedd y buail i ddioddef twymyn catâraidd llidiog (MCF). Mae symptomau’r afiechyd yn cynnwys gwres mawr, colli awch bwyd ac anorecsia, dallineb, llawer o grawn o’r trwyn, llygaid yn dyfrio yn ddrwg, diarrhoea, a phresenoldeb gwaed yn yr ysgarthion a’r wrin. Ni all y dwymyn gael ei thrin yn uniongyrchol mewn anifeiliaid heintiedig ac mae’n gofyn am ofal i’w cynnal (hylifau, gwrthfiotig oherwydd bod bacteria yn debycach o effeithio arnynt a thriniaethau gwrth-lid) ond pan ddaw’r symptomau yn amlwg fe’u cysylltir â chyfraddau marwolaeth uchel. Achosir yr afiechyd gan feirysau gammaherpes y prif ddau a drafodir yw feirws alcelaphineherpes 1 (AlHV-1) a feirws herpes y defaid 2 (OvHV-2). Gall yr afiechyd effeithio ar anifeiliaid carnog fel gwartheg, byffalo dŵr, buail, ceirw, gafrewig, elc a cheirw Llychlyn ond yn ddiddorol gall hefyd effeithio ar foch. Mae agwedd feirol yr afiechyd yn parhau yn bresennol yn yr amgylchedd yn yr anifeiliaid sy’n eu cario sydd heb symptomau fel defaid, geifr a gnw. Y cyfnod mwyaf heintus i ddefaid fod mewn perygl o ollwng celloedd feirol yn drwm yw pan fydd ŵyn yn 6 - 9 mis oed. Mewn systemau ŵyna yn y gwanwyn mae hyn hefyd yn gyfnod o berygl gan fod tymheredd is yn cynyddu’r amser y gall y feirws oroesi. Er bod heintiadau yn digwydd mewn gwartheg, nodwyd bod llwybrau heintio defaid i wartheg yn llawer llai cyffredin ac yn aml mae angen dos feirol drwm iawn, ond, awgrymwyd bod buail yn fwy tebygol o ddioddef oddi wrth y llwybr trwy ddefaid. Yn un astudiaeth dangoswyd bod cyswllt rhwng buail a defaid am un diwrnod mewn marchnad wedi arwain at achosion arwyddocaol o’r dwymyn, a chadarnhaodd hefyd y casgliadau ymchwil nad yw trosglwyddo o fuail heintiedig i fuail yn digwydd. Ond mae potensial ar gyfer afiechyd sy’n cael ei drosglwyddo’n fertigol (anifail i’w epil) gan y gwelwyd celloedd feirol yn y colostrwm a thrwy’r brych. Ar hyn o bryd mae treialon brechlyn yn digwydd i warchod rhag colledion economaidd nid yn unig mewn buail ond hefyd mewn gwartheg a buail mewn ardaloedd lle mae mwy o risg a gwelwyd ei fod yn effeithiol. Aseswyd brechlynnau’r OvHV-2 o MCF, a fyddai’n risg i’r buail yn y Deyrnas Unedig, hefyd ac mae ymgeisydd addawol hyd yn oed yn cael ei werthuso ymhellach fel rhan o brosiect Partneriaeth Arloesedd Ewrop (EIP) yng Nghymru. Mae’r prosiect hwn yn gobeithio asesu effeithlonrwydd y brechlyn a hefyd strategaethau eraill ar gyfer rheoli MCF i gynnig llwybrau cynhyrchu cig amrywiol fel buail, byffalo ac elc yn fwy diogel.

Mae’r strategaethau rheoli ar sail y wybodaeth uchod yn cynnwys:

  • Osgoi cyswllt rhwng rhywogaethau sy’n cronni risg (defaid, geifr) â buail
  • Gwell bioddiogelwch ar ffermydd sy’n ymdrin â defaid neu eifr neu’n rhyngweithio â nhw
  • Gwell hylendid a diheintio
  • Gofal yn y gwanwyn pan fydd y celloedd feirol yn goroesi yn yr amgylchedd am fwy o amser
  • Cynnydd yn y gofal yn ystod y gwanwyn/hydref pan fydd yr ŵyn/myn yn codi’r risg fwyaf o heintiad (o gymryd bod y system yn un sy’n ŵyna yn y gwanwyn)

 

Ystyriaethau eraill

Er bod gan ffermio buail nifer o fanteision posibl fel marchnad niche newydd i’r Deyrnas Unedig mae hefyd yn dod ag ystyriaethau eraill. Mae buail ymhlith yr anifeiliaid magu mwyaf a gallant fod yn beryglus, gyda nifer uwch o anafiadau dynol oherwydd buail yn cael eu cofnodi nag unrhyw anifail arall ym Mharc Cenedlaethol Yellowstone yn UDA. Fel y cyfryw mae’n hanfodol bod hyfforddiant a gweithdrefnau diogelwch ar sail gwybodaeth yn cael eu datblygu a’u rhoi i ffermwyr, er gwaethaf hyn dim ond mor ddiweddar â 2015 y cyhoeddwyd astudiaethau i’r ystyriaethau iechyd a diogelwch penodol sy’n angenrheidiol ar gyfer unigolion sy’n trin buail. Arweiniodd hyn at greu dogfennau trin buail ar sail gwybodaeth a chynhaliwyd cyfarfodydd am ddiogelwch gweithwyr buail yn UDA. Un o’r risgiau mwyaf a’r amser trymaf o ran llafur yn gysylltiedig â buail yw yn ystod cyfnod eu lladd. Yn ystod y cyfnod hwn mae angen casglu’r anifeiliaid i’w cludo i ladd-dai ac yn ystod hyn gall straen ac anafiadau ddigwydd i’r anifeiliaid a phobl. Oherwydd bod penglog y buail yn fwy trwchus na gwartheg, mae’n gyffredin yn UDA a’r Deyrnas Unedig i’r anifeiliaid gael eu saethu ar y safle gan saethwyr hyfforddedig fel dull o’u lladd ac mewn rhai achosion, gall fod yn fwy trugarog a diogel i gyflawni hyn ar y fferm cyn cludo’r carcas. Yn yr un modd, cyn y gall ffermio buail ddod yn fwy cyffredin yn y Deyrnas Unedig, mae’n debygol y byddai angen addasiadau i ladd-dai i hwyluso peiriannau addas i’r diben o brosesu a pharatoi’r anifeiliaid yma.

Ond un fantais yw bod buail yn cynhyrchu tua thraean yn llai o fethan y flwyddyn na gwartheg sy’n cynnig potensial lliniaru addawol o newid o gynhyrchu gwartheg i fuail. Ar sail ffigyrau astudiaeth gallai hyn weithredu fel gostyngiad mewn CO2 cyfatebol y flwyddyn i bob buwch sy’n cael ei chyfnewid am fuail o 3.69 tunnell gydag allyriadau nodweddiadol car arferol yn 4.6 tunnell fetrig, felly mae bob tro y mae buail yn cymryd lle buwch yn cyfateb i dynnu un car oddi ar y ffordd am flwyddyn.

Yn olaf, gwyddys bod buail yn cael problemau yn ymwneud â diffyg copr a all arwain at weld yr anifail yn colli cyflwr ac effeithiau negyddol eraill. Felly bydd angen i’r ystyriaethau maeth ystyried cael cydbwysedd rhwng lefelau copr yn ofalus i osgoi’r risg i iechyd o roi rhy ychydig neu ormod o ategion bwyd i anifeiliaid. Yn ogystal â hyn, rhaid i ffermwyr buail ystyried yr holl faterion sy’n ymwneud â ffermio gwartheg gan gynnwys parasitiaid gastroberfeddol, yr iau a’r ysgyfaint, diciau gwartheg ac afiechydon resbiradol gwartheg er enghraifft.

 

Crynodeb

Dengys ffermio buail addewid fel ffordd o reoli ecosystemau gan gynhyrchu cig coch iachach ac mwy cyfeillgar i’r amgylchedd yr un pryd. Er bod sawl ystyriaeth yn ymwneud â datblygu seilwaith y byddai angen eu hystyried i greu system gynhyrchu buail eang yn y Deyrnas Unedig, mae’r pryder allweddol cyntaf yn ymwneud ag afiechyd. Mae MCF yn risg sylweddol i unrhyw boblogaeth o fuail y dymunir ei gyflwyno i’r Deyrnas Unedig oherwydd eu bod yn agored iawn i ddioddef oddi wrth y feirysau sy’n ei achosi. Mae hynny hyd yn oed yn fwy gwir yng Nghymru lle mae’r prif rywogaeth westeio, defaid, yn llawer mwy niferus a dwys. Ond, dylai’r risg o afiechyd fod yn fychan os cedwir at gamau bioddiogelwch yn ofalus ac i leoliad y buchesi buail osgoi bod o fewn 5km i ddaliadau defaid os yn bosibl, gyda’r risg yn cynyddu’n sylweddol os yw’r ffermydd o fewn 1 km. Er mwyn i fuail lwyddo fel cynnyrch bwyd newydd rhaid mynd ati i farchnata yn effeithiol, ond gellir creu manteision economaidd eraill (tra bydd y rhywogaeth yn parhau yn un niche) trwy gynnig teithiau fferm i weld yr anifeiliaid yn pori.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth