Mae cofnodi perfformiad a meincnodi yn allweddol ar gyfer llwyddiant yn y sector da byw ond pa werth ychwanegol y gall Ffermio Da Byw yn Fanwl Gywir (PLF) ei gynnig?
Mae'r gweminar hwn yn cyflwyno ffermwyr ac ymarferwyr yn y diwydiant i’r cysyniad o PLF, a’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.
Mae amrywiaeth o dechnolegau, eu swyddogaethau a’u perfformiad yn cael eu trafod. Maent hefyd yn trafod yr hyn y gallwn ei wneud gyda’r wybodaeth hon a sut y gellir defnyddio’r data hwn yn y dyfodol i gefnogi’r gadwyn gyflenwi gyfan yn ogystal â’r rheini sy’n gweithio’n uniongyrchol ar lefel fferm.
Amlinelliad y gweminar:
- Trosolwg ar bwysigrwydd cofnodi perfformiad a meincnodi – canolbwyntio ar wartheg a defaid
- Y cysyniad o PLF
-
- Beth yw PLF?
- Enghreifftiau o PLF – systemau synhwyro ar anifeiliaid ac oddi ar anifeiliaid
- Beth mae PLF yn ei gofnodi? Enghreifftiau o ddata.
- PLF sydd ar gael i ffermwyr ar hyn o bryd
- Gwneud synnwyr o wybodaeth a gasglwyd o offer PLF
- Cyfyngiadau PLF
- Data y tu hwnt i gât y fferm i gynnal y gadwyn gyfan
- Cwestiynau
Cyrsiau e-ddysgu cysylltiedig: