26 Ebrill 2023

 

Mae’r gwaith o chwilio am ymgeiswyr Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2023 yn dechrau ddydd Llun, 1 Mai, gyda’r cyfnod ymgeisio ar agor tan ddydd Gwener, 26 Mai 2023.

Dros yr 11 mlynedd diwethaf, mae’r Academi Amaeth, sef rhaglen datblygiad personol blaenllaw Cyswllt Ffermio, wedi dod â rhai o sêr amlwg y diwydiant amaethyddol yng Nghymru heddiw ynghyd. Wedi’i rhannu rhwng y rhaglen Busnes ac Arloesedd a Rhaglen yr Ifanc (i’r rhai 16 – 19 oed), bydd cyfres o sesiynau preswyl llawn gweithgareddau mentora, hyfforddi a rhwydweithio unwaith eto yn rhoi’r ysbrydoliaeth, y sgiliau a’r cysylltiadau y mae eu hangen ar ymgeiswyr llwyddianus eleni i ddod yn unigolion hyderus, sy’n anelu’n uchel, ym mha bynnag fusnes neu lwybr gyrfa maent yn ei ddewis.

“Rydyn ni yma i feithrin a chywain doniau a sgiliau entrepreneuraidd arloeswyr, dylanwadwyr a ffermwyr blaengar y dyfodol,” meddai Llŷr Jones, arweinydd y rhaglen Busnes ac Arloesedd, sydd ei hun yn un o gyn-fyfyrwyr yr Academi Amaeth. Roedd Llŷr, a aned yng Nghorwen, ac sy’n ffermio – ymhlith llawer o bethau eraill – yng Ngogledd Cymru, yn aelod o’r Academi Amaeth ddeng mlynedd yn ôl. Mae’n canmol y profiad am roi’r sgiliau a’r hyder iddo anelu’n uchel ac mae’n dweud bod y rhwydweithiau wedi helpu i’w drawsnewid o fod yn ffermwr ifanc brwd bryd hynny, i fod yn ddyn busnes profiadol.

Wedi’i ddisgrifio fel rhywun sydd ag entrepreneuriaeth yn rhedeg trwy ei wythiennau, mae’r arloeswr arbennig hwn wedi sefydlu nifer o fentrau llwyddiannus yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys defaid, magu lloi, cynhyrchu wyau buarth, twristiaeth, ynni adnewyddadwy a Blodyn Aur – un o fentrau olew hadau rêp mwyaf blaenllaw Cymru. 


Bydd rhaglen Llŷr yn cynnwys hyfforddiant a mentora er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar lwyddiant busnes, datblygu syniadau arallgyfeirio i sefydlu busnes neu fenter newydd a llawer mwy. Mae Llŷr wedi cynllunio rhaglen o deithiau astudio i rai o’r busnesau fferm mwyaf llwyddiannus ac arloesol yn y DU a Canada, gwlad sydd eisoes ar flaen y gad o ran systemau ffermio ecogyfeillgar a ffyrdd cynaliadwy o weithio.

Bydd Rhaglen yr Ifanc yn cael ei harwain eleni gan raddedigwraig amaethyddiaeth ifanc, Samantha Alexander (27) a gafodd ei magu ar fferm wartheg a defaid ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae Sam, sy'n gyfathrebwr gwych gyda phersonoliaeth hyderus a brwdfrydig, yn deall yn iawn beth mae'n ei olygu i ddechrau fel newydd-ddyfodiad neu ddyfodiad ifanc i ffermio. Mae hi a’i gŵr yn dal yn optimistaidd y byddan nhw ryw ddydd yn dod o hyd i denantiaeth neu gyfle ffermio cyfran, ond am y tro mae hi’n mwynhau ei rôl fel rheolwr cynaliadwyedd i gwmni cyflenwadau amaethyddol mawr ac yn edrych ymlaen yn fawr at ei rôl fel arweinydd Rhaglen yr Ifanc.

Mae amserlen Sam yn cynnwys hyfforddiant a mentora ar ‘darganfod eich llais’ o fewn y diwydiant, dysgu sgiliau’r wasg a’r cyfryngau, yn ogystal â thaith astudio o amgylch yr Iseldiroedd – lle mae amaethyddiaeth a garddwriaeth yn aml yn mynd law yn llaw. Mae Sam yn dweud na all aros i gwrdd â’r grŵp eleni, a bydd yn eu hannog i fod yn agored i syniadau newydd, i leisio’u barn ac i ofyn cwestiynau sy’n herio’r status quo.

Mae Llŷr a Sam yn cytuno, os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth, cymhelliant a’r anogaeth a fydd yn eich galluogi i chwilio am gyfleoedd newydd ac yn rhoi’r hyder i chi roi syniadau da ar waith, yna dylech wneud cais am ymuno ag Academi Amaeth Cyswllt Ffermio.

“Mae gan yr Academi Amaeth hanes gwych o baratoi’r ffordd at lwyddiant busnes a gyrfa ar gyfer cymaint o’i chyn-fyfyrwyr – agor drysau a chreu cyfleoedd yw’r hyn rydyn ni’n ceisio gwneud, a dyna pam y dylech chi wneud cais heddiw!”

I gael rhagor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd, dyddiadau’r sesiynau preswyl, gwybodaeth fanylach am yr hyn y mae rhaglen eleni’n ei gynnwys, ac i wneud cais, ewch yma.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu