Academi Yr Ifanc

Wyt ti rhwng 16 a 21 mlwydd oed ac â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y diwydiant amaeth? Os felly, dyma dy amser di…

Bydd Academi yr Ifanc, sydd wedi'i ariannu'n llawn, yn cynnig:

  • Profiad gwaith gyda rhai o’r bobl fwyaf blaenllaw yn y diwydiant bwyd ac amaeth
  • Rhaglen o weithgareddau amrywiol i dy ysbrydoli i ddarganfod llwybr gyrfa
  • Hyfforddiant ar gyfer sgiliau cyfathrebu, ymdrin â'r wasg a'r cyfryngau a sgiliau trafod
  • Cyfleoedd i ennill profiad o gadeirio cyfarfodydd, lleisio dy farn a mynegi dy safbwynt mewn modd effeithiol
  • Ffrindiau oes a llwybr i mewn i rwydwaith cymorth amhrisiadwy a fydd yn agor drysau ac yn creu cyfleoedd

 

Mae ffenestr ymgeisio ar gyfer Academi yr Ifanc 2024 yn awr ar agor. Cyflwynwch eich cais erbyn hanner dydd, Ddydd Llun 15 Ebrill 2024. 

Cychwyn a Chyflwyniadau

 

Sioe Frenhinol Cymru

 

22 Gorffennaf 2024 

SESIWN 1: 

Gogledd Cymru

 

12 - 14 Awst 2024

 

SESIWN 2: 

Penrhyn Gŵyr

 

13 – 15 Medi 2024

 

SESIWN 3:

Taith Astudio Dramor

Norwy*

27 – 31 Hydref 2024

SEREMONI ACADEMI YR IFANC

Y Ffair Aeaf

25 Tachwedd 2024

*Mae posibilrwydd y gallai lleoliadau ar gyfer y teithiau astudio tramor newid o ganlyniad i ffactorau allanol.

Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer Academi yr Ifanc fod dros 16 oed ac o dan 21 oed ar 12 Awst 2024. Gall ymgeiswyr dros 21 oed wneud cais am yr Academi Amaeth. Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol ar ei cyfrif BOSS.

PWYSIG - rhaid i ymgeiswyr fynychu pob un o'r sesiynau uchod a rhaid iddynt gael pasbort sy'n ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl yr ymweliad astudio. Gall methu ag ymrwymo'n llawn i holl brofiad yr Academi Amaeth arwain at gael eich diarddel o'r rhaglen a gorchymyn i ad-dalu costau'r daith. Ni all aelodau fod yn absennol o sesiynau preswyl, oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol -

  • Profedigaeth agos yn y teulu
  • Salwch personol a nodyn meddyg dilys
  • Cyfrifoldebau gofal brys ac anochel am ddibynnydd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol.

 

 


Dyma'r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer rhaglen yr Ifanc 2023.

Cadi Jones
Cadi Jones

Blaenporth, Ceredigion

“Rwyf eisiau defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth rwy’n eu hennill i wella effeithlonrwydd y fferm ac i helpu i lunio ei dyfodol."

“Rwy'n edrych ymlaen at gasglu syniadau newydd drwy weld sut mae ffermwyr eraill yn gwneud pethau, er mwyn helpu i wneud y fferm mor broffidiol â phosibl.''

 

Cerys Mai Jenkins
Cerys Mai Jenkins

Llanddowror, Sir Gaerfyrddin

“Rwy'n gobeithio y gallaf berswadio'r genhedlaeth iau i gymryd mwy o ddiddordeb yn y math hwn o raglen gan y bydd yn helpu eu hyder a'u gwybodaeth mewn bywyd.''

Daisy Williams
Daisy Williams

Llandinam, Powys

“Fel ffermwr ifanc, bydd y cyfleoedd y bydd yr Academi Amaeth yn eu darparu yn amhrisiadwy, a bydd cwrdd â phobl o’r un anian yn ehangu fy ngorwelion.

“Gan fod y diwydiant ffermio yn newid yn gyflym, rwy'n teimlo mai nawr yw'r amser iawn i mi gael cymaint o wybodaeth â phosibl a gwneud yr hyn a allaf i helpu amaethyddiaeth i ddod yn fwy cynaliadwy.''

Efa Jones
Efa Jones

Bala, Gwynedd

“Bydd yn anhygoel gweld sut mae’r Iseldiroedd yn ffermio, ac i ddod â syniadau adref i’w rhannu gyda’r teulu."

“Mae gen i gymaint mwy rwyf am ei ddysgu, dyma pam mae'r Rhaglen Iau yn berffaith i mi. Credaf y bydd y profiadau a gaf yn cyfoethogi fy sgiliau ac yn fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith ac yn caniatáu i mi ddysgu pethau nad wyf wedi gallu eu dysgu gartref ar y fferm.''

Ellen Frith
Ellen Firth

Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych 

“Rwy’n teimlo bod y diwydiant amaethyddol ar drobwynt, ac yn symud tuag at arferion mwy cynaliadwy ac adfywiol yn y dyfodol."

“Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu am y technegau hyn a sut y gallwn ni i gyd eu rhoi ar waith.''

Fflurv Richards
Fflur Richards

Cydweli, Sir Gaerfyrddin

“Bydd hyn yn fy ngrymuso i ddod â syniadau ar gyfer gwell effeithlonrwydd a chynhyrchiant adref i'r fferm deuluol ac i'w defnyddio yn fy ngyrfa yn y dyfodol fel milfeddyg hefyd.''

Lea Williams
Lea Williams

Llansannan, Sir Ddinbych

“Bydd hefyd yn dda cwrdd â phobl ifanc eraill sydd â diddordebau tebyg i mi, i rannu syniadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd.''
 

Llio Davies
Llio Davies

Llanelwy, Conwy

“Mae’n mynd i fod yn gyfle anhygoel i gael profiadau newydd a chwrdd â gwahanol bobl."

“Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at fod yn llais i bobl ifanc sy'n bwriadu dilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth.''

Menna Protheroe
Menna Protheroe

Llanwrtyd Wells, Powys

“Rwy’n gobeithio cwrdd â phobl sydd yr un mor frwd am y diwydiant ag yr wyf i, i wneud ffrindiau â phobl o’r un anian sydd eisiau sicrhau dyfodol ein diwydiant amaethyddol."

“Gwn y bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfoeth o gyfleoedd i mi wneud hynny.''

Osian jones
Osian Jones

Llanbrynmair, Powys

“Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i ddysgu llawer mwy am y dulliau ffermio mewn gwlad arall.''

Rhiannon Philips
Rhiannon Phillips

Glynarthen, Ceredigion

“Mae dyfodol yr amgylchedd o bwys i mi ac rwy’n awyddus i ddysgu sut y gallwn ni yn y diwydiant amaethyddol leihau ein hôl troed carbon a ffermio’n fwy effeithiol."

“Rwy'n gobeithio elwa ar gyngor da gan fentoriaid ac arbenigwyr yn eu meysydd ac i ddefnyddio hyn rywbryd ar y fferm deuluol.''