Fferm Penrhyn, Caergybi, Ynys Môn

Prosiect Safle Ffocws: Archwilio manteision posibl canfod amrywiolion o Fyostatin mewn buchesi bîff masnachol

Nodau’r prosiect:

Prif nod y prosiect hwn yw samplu DNA anifeiliaid sy’n rhan o fuches bîff masnachol sy’n cynnwys oddeutu 75% o eneteg brid Limousin er mwyn canfod yr amrywiolion o Fyostatin sy’n cael eu cludo gan y buchod bridio presennol a’r darpar fuchod bridio. Er gall presenoldeb rhai amrywiolion penodol o Fyostatin fod yn llesol i nodweddion y carcas, gall cyfuniadau penodol arwain at fwy o anawsterau lloia a lleihau ffrwythlondeb a’r gallu i gynhyrchu llaeth. Fe wnaiff nodi’r cyfuniad o amrywiolion sy’n cael eu cludo gan fuchod bridio a their stoc yn y fuches yn cynnig gwybodaeth werthfawr i wneud penderfyniadau ynghylch paru, a gall hynny leihau anawsterau bwrw lloi a chynhyrchu heffrod amnewid sydd â nodweddion mamol da. 


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Dolygarn
James Powell Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod Wells
Bryn
Huw a Meinir Jones Bryn, Ferwig, Aberteifi Meysydd allweddol yr
Marian Mawr
Aled Morris Marian Mawr, Dyserth, Rhyl Prif Amcanion Gwella