Diogelwch Bwyd

Technical support

Mae ein henw da yn ein dwylo ni

Mae bwyd yn amlwg yn rhan ganolog o’n bywydau, ac mae enw da bwyd a diod o Gymru yn mynd law yn llaw â gwella diogelwch a safonau bwyd er mwyn sicrhau hyder defnyddwyr yn ein cynnyrch a'n gwasanaethau.    

Mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan i sicrhau bod y gadwyn fwyd yng Nghymru yn darparu bwyd a diod diogel, cynaliadwy ac o safon uchel.

Er mwyn diogelu dilysrwydd y gadwyn gyflenwi, bydd Rheoliad Darparu Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE (FIC) yn gwella prosesau olrhain a bydd meithrin achrediad priodol a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol hefyd yn helpu i sicrhau diwylliant diogelwch bwyd ac ymddiriedaeth defnyddwyr.

Mae iechyd a lles anifeiliaid hefyd yn effeithio ar ansawdd bwyd a’n nod yw parhau i wella'r safonau uchel rydym yn disgwyl i gynnyrch eu cyrraedd yng Nghymru.
 


Arwain y gad

Mae Llywodraeth Cymru a ninnau ar flaen y gad o ran sicrhau diogelwch bwyd.

Mae ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod yn cydnabod bod sicrwydd o ran tarddiad yn hollbwysig i lwyddiant y diwydiant, a nod yr Is-adran Fwyd, drwy weithio’n agos gyda’r Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol ac Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, yw sicrhau bod defnyddwyr yn cael y bwyd a’r diod gorau o Gymru gan wybod eu bod wedi'u cynhyrchu yn unol â rheolau diogelwch llym.

Gallwch gael rhagor o fanylion am y materion presennol a’r gwaith da o ran datblygu diogelwch bwyd o Gymru yn www.food.gov.uk/business-industry